Date
Mae mwy na 1,700 o yrwyr tacsi ledled gogledd Cymru wedi ymuno ag ymgyrch fawr i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched.
Mae sticeri ffenestri arbennig yn cael eu rhoi ym mhob cab trwyddedig yn y rhanbarth fel rhan o ymgyrch y Rhuban Gwyn sy'n cael ei hyrwyddo gan yr Heddwas Mike Taggart, 37 oed, y cafodd ei fam ei hun ei llofruddio’n greulon gan ei lystad pan oedd yn 15 oed.
Fe wnaeth y drosedd echrydus ysbrydoli’r Heddwas Taggart i ymuno â Heddlu Gogledd Cymru lle mae’n mynd i'r afael â’r mater yn uniongyrchol fel Swyddog Strategol yr heddlu ar gyfer Cam-drin yn y Cartref.
Yn gynharach eleni cyhoeddwyd bod pob un o 250 o gerbydau Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn arddangos y sticeri.
Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn rhan o fenter ryngwladol a sefydlwyd gan ddynion i roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn merched.
Mae cyllid ar gyfer y sticeri wedi cael ei ddarparu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, gan fod mynd i’r afael â cham-drin yn y cartref yn ei holl ffurfiau yn un o flaenoriaethau pennaf ei Gynllun Heddlu a Throsedd, sef y prif gynllun ar gyfer plismona’r rhanbarth.
Mae wrth ei fodd bod pob un o’r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru wedi ymuno â’r fenter a’i gwneud yn un o amodau dyfarnu trwyddedau tacsi bod yn rhaid i bob cerbyd arddangos sticer Rhuban Gwyn.
Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu ei hun: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i gael cefnogaeth gan y chwe chyngor sir yng ngogledd Cymru.
Mae eu hadrannau trwyddedu cerbydau yn deall y materion yn glir a pha mor bwysig yw ei gwneud yn ofynnol i’w tacsis arddangos y Rhuban Gwyn.
Mae Mike Taggart yn gwneud gwaith hollol wych ac nid oes unrhyw un yn fwy ymrwymedig i fynd i’r afael â thrais yn y cartref nag ef.
Mae mynd i’r afael â cham-drin yn y cartref yn hynod bwysig i mi a dyna pam ei fod yn un o fy mhrif flaenoriaethau.
Mae nifer y merched sy’n dioddef dynladdiad - dwy bob wythnos yng Nghymru a Lloegr - yn gwbl annerbyniol.
Mae'n hanfodol bwysig codi ymwybyddiaeth ac mae'r sticeri Rhuban Gwyn yn ffordd effeithiol o wneud hynny.
Mae’r Rhuban Gwyn yn symbol eithaf gweladwy a byddwn yn annog mwy o bobl i’w wisgo.”
Ategwyd y teimlad gan yr Heddwas Taggart sy'n dal i ddwyn y creithiau emosiynol a adawyd gan y trawma a ddioddefodd ef a'i chwaer, Becci, yn eu harddegau
Cawsant eu gadael yn hollol ddiymgeledd pan lofruddiwyd eu mam yn ei fflat yn y Rhyl yn 1997 gan ei chyn ŵr, Derek Evans, ar ôl blynyddoedd o gael ei chamdrin yn wael oherwydd ei ddibyniaeth ar alcohol.
Nid oedd Evans yn hoffi ei hannibyniaeth newydd ar ôl iddi ddechrau gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac ar un adeg wedi iddi fod am ddiod gyda ffrindiau, ymosododd arni yn y stryd.
Mi wnaeth hi ei adael ond nid oedd dianc oherwydd aeth Evans draw i'w fflat newydd a'i thrywanu 11 o weithiau.
Meddai: “Mae 1,750 o dacsis yng ngogledd Cymru gyfan felly mae hon yn ffordd wych o gael y neges allan.
Mae'n flaenoriaeth enfawr i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ac yn fy swydd i mae'n gwneud pethau'n llawer haws pan fydd gennych chi rywun fel Arfon sydd ag agwedd wirioneddol gadarnhaol ynglŷn â’r ymgyrch.
Rwyf am wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl yn sefyllfa fy mam fynd trwy'r hyn yr aeth hi drwyddo.
Y nod yw codi ymwybyddiaeth o ble mae cefnogaeth ar gael oherwydd ein bod yn benderfynol o sicrhau bod pobl yn gwybod y byddan nhw'n cael eu credu ac y gallan nhw fod â hyder go iawn y gallan nhw gael yr help sydd ei angen.
Mae’r ymgyrch hon wedi’i thargedu’n benodol at ddynion gyda’r nod o roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched.
Yn y bôn, mae'n ymwneud â grymuso dynion i beidio â mynd y tu arall heibio pan fyddan nhw'n gweld cam-drin yn y cartref a grymuso dynion i ddod yn llysgenhadon dros yr achos.
Yn amlwg mae dynion yn ddioddefwyr hefyd ac rydyn ni'n gwneud llawer o waith o fewn yr heddlu i ymgorffori hyfforddiant mewn dynion sy'n ddioddefwyr cam-drin yny cartref hefyd.
Dynion yw mwyafrif o’r rhai sy’n cyflawni cam-drin yn y cartref, ac os gallwn dargedu’r lefel uchaf o gyflawnwyr yna gobeithio y gallwn helpu i ostwng y nifer ohonynt sy’n golygu y bydd gennym lai o ddioddefwyr.”