Skip to main content

Pennaeth heddlu yn camu i'r adwy i amddiffyn dyn bregus rhag cael ei fygwth a'i sarhau

Date

Date
Pennaeth heddlu yn camu i'r adwy i amddiffyn dyn bregus rhag cael ei fygwth a'i sarhau

Aeth pennaeth heddlu yn ôl i’r gorffennol pan gamodd i’r adwy i amddiffyn dyn bregus rhag cael ei gam-drin gan gwpl.

Fe wnaeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ymyrryd pan welodd y dyn yn cael ei fygwth yn Lord Street, Wrecsam.

Dywedodd Mr Jones, a ymddeolodd o’i rôl fel arolygydd gweithredol yn Adran Ddwyreiniol yr heddlu yn 2008, nad oedd yn barod i sefyll o’r neilltu tra bod unigolyn diamddiffyn yn cael ei fwlio.

Er nad yw bellach yn heddwas, tynnodd Mr Jones sylw at y ffaith bod gan bob aelod o'r cyhoedd bwerau cyfraith gwlad i weithredu mewn sefyllfa fel hon.

Dywedodd Mr Jones: “Roeddwn gyda fy ngwraig yn Dragon Travel, Lord Street yn sgwrsio efo staff pan ddeuthum yn ymwybodol o gythrwfl y tu allan. Roedd yn amlwg bod dyn bregus, yr wyf wedi ei gyfarfod o'r blaen, yn cael ei fygwth a'i sarhau gan gwpl.

Mi wnes i hebrwng y dyn i mewn i’r siop wyliau a dywedais wrth y cwpl, i’w heglu hi oddi yno. Mi wnaethon nhw wrthod mynd a pharhau i weiddi’n sarhaus a cheisio cael mynediad i'r siop.

Galwyd yr heddlu ac mi wnes i dynnu lluniau o’r cwpl troseddol ar fy ffôn fel bod modd iddyn nhw gael eu hadnabod yn ddiweddarach.

Roedd hwn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol cas ac mae gen i ofn, ymddeol neu beidio, nid wyf yn barod i sefyll o’r neilltu ac anwybyddu bwlio, gwahaniaethu neu gam-drin mewn unrhyw ffurf.

Byddaf bob amser yn ymyrryd os yw unrhyw berson bregus yn cael ei aflonyddu gan bobl na allaf ond eu disgrifio fel dihirod.”

“Mae’n bwysig sylweddoli bod gan bob un ohonom bwerau cyfraith gwlad i gamu i mewn ac ymyrryd er y byddwn hefyd yn dweud ei bod yn bwysig meddwl am ddiogelwch personol hefyd.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni amddiffyn rhai nad ydyn nhw'n gallu amddiffyn eu hunain os medrwn ni. Roedd yn ymddangos bod y ffrae hon yn ymwneud â honiad o ddyled bersonol. Fodd bynnag, roedd ymddygiad y cwpl hwn, y dyn a'r ddynes, yn fygythiol ofnadwy ac yn fy marn i roedd yn torri'r heddwch.

Pe bawn i’n dal i fod yn heddwas byddwn wedi arestio’r ddau yn y fan a'r lle heb amheuaeth. Fel mae'n digwydd mi wnaethon nhw adael yr ardal ac roedd gwrthrych eu camdriniaeth yn gallu gadael ei hun ar ôl iddo roi cyfrif o'r hyn a ddigwyddodd i'r swyddogion heddlu a gyrhaeddodd.

Yn ôl a ddeallaf, mae swyddogion heddlu bellach yn delio â’r digwyddiad hwn ac maen nhw’n gwybod yn iawn pwy yw’r cwpl wnaeth droseddu felly byddaf yn gadael y mater yn eu dwylo nhw.”

Ychwanegodd: “Fe wnes i fwynhau gyrfa wych yn y gwasanaeth heddlu a byddwn i wrth fy modd pe bawn i'n dal i wasanaethu. Fodd bynnag, mae amser yn mynd rhagddo ac rwy'n falch iawn o allu gwasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Mae Gogledd Cymru yn lle diogel iawn i fyw, gweithio neu ymweld ag ef. Ac mae llawer o’r diolch am hynny i'w briodoli i waith swyddogion heddlu, eu goruchwylwyr a'r staff sifil sy'n cyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.