Date
Mae dwy wraig sy’n rhoi eu hamser yn rhad ac am ddim yn helpu ymladdwyr troseddau ar bedair coes Heddlu Gogledd Cymru i gadw cyfarth a threfn.
Penodwyd Marie Jones a Clare Vickers yn ymwelwyr lles cŵn gwirfoddol i gadw golwg ar sut mae’r heddlu’n gofalu am eu cŵn gwaith.
Sefydlwyd cynllun Gogledd Cymru gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yr ardal, sef Arfon Jones, cyn arolygydd heddlu.
Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Swydd Gaer, mae Marie a Clare yn cynnal ymweliadau misol dirybudd i edrych ar sesiynau hyfforddi cŵn neu i ymweld â thrafodwyr cŵn sydd allan ar batrôl gyda’u cŵn.
Eu cyfarwyddyd nhw yw sicrhau bod cŵn yr heddlu’n cael y gofal cywir, eu bod yn hapus a bod eu hamodau gwaith yn dderbyniol.
Dywedodd Arfon Jones: “Yn aml iawn, cŵn yr heddlu yw arwyr di-glod Heddlu Gogledd Cymru ac maen nhw’n cyflawni gwaith hollbwysig.
Mae’n bwysig bod Heddlu Gogledd Cymru yn dryloyw a bod y cyhoedd yn hyderus bod y cŵn yn cael eu gofalu amdanynt yn gywir a’u hyfforddi’n dda. Mae adrannau cŵn Heddlu Gogledd Cymru a Swydd Gaer yn cydweithio’n agos iawn ac yn rhannu’r hyfforddiant.
Rwy’n gwybod bod y cynllun ymwelwyr cŵn yn gweithio’n dda yn Swydd Gaer a chefais fy annog i’w sefydlu gan y Rhingyll Howard Watts, trafodwr cŵn yng Ngogledd Cymru a wnaeth bwyso am gyflwyno’r cynllun.
Mae’n bwysig ein bod ni’n cael archwiliadau a dulliau rheoli annibynnol ar waith i sicrhau bod safonau uchel o ran lles anifeiliaid yn cael eu cynnal. Rhaid i ni sicrhau bod ein cŵn yn hapus ac yn cael gofal da.”
Ychwanegodd: “Wrth gwrs, mae’n wir mai dyma swydd ddelfrydol y rhan fwyaf o drafodwyr cŵn. Mae’n rôl y mae’n rhaid iddynt ymgeisio amdani ac maen nhw’n gwneud y swydd honno am eu bod nhw’n yn mwynhau gweithio gyda chŵn.
Mae Marie a Claire ill dwy yn caru cŵn ac yn cael cryn dipyn o foddhad o’r swydd.
Esboniodd Marie o Ddeganwy, sy’n gyn athrawes a darlithydd prifysgol: “Rydym yn gweithio ar sail rota gyda’n dau gydweithiwr o Swydd Gaer. Ni roddir rhybudd o’n hymweliadau, felly nid yw’r heddweision yn gwybod pryd y byddwn ni’n ymweld.
Rydym yn edrych yn bennaf i weld ydy’r cŵn yn cael gofal da, yn iach ac yn ymateb i’w trafodwyr. Rydym yn archwilio’r amodau y cânt eu cadw ynddynt hefyd ac mae hynny’n cynnwys sicrhau bod cerbydau’r heddlu y cânt eu cludo ynddynt yn lân ac yn addas i’r dasg.
Bydd ci iach yn ymateb i’r trafodwr a gallwch weld yn gyflym a oes cwlwm go iawn yn bodoli rhwng y ddau. Trafodwn unrhyw faterion y teimlwn fod angen i ni eu codi gyda’r trafodwr a byddwn yn gofyn am eglurhad gan Rhingyll Watts os teimlwn fod ei angen arnom.”
Ychwanegodd Clare Vickers, o Abergele, sef cyfarwyddwr cwmni plymwaith wedi ymddeol: “Mae’n gynllun mor werth chweil. Rydym yn gwbl annibynnol ac yn sicrhau tryloywder ac arfer da.
Nid oes gan yr heddweision syniad pryd y byddwn ni’n dod heibio. Rydym yn derbyn rota sy’n rhoi gwybod i ni pa amser ac yn lle y mae’r cŵn a’u trafodwyr yn debygol o fod. Mae cŵn gwahanol yn gwneud gwaith gwahanol ac felly mae’r hyfforddiant yn amrywio boed hynny’n chwilio am gyffuriau, arfau, tracio pobl neu beth bynnag.
Mewn gwirionedd, mae’n rhyfeddol gwylio’r hyfforddiant a gweld y cwlwm a’r berthynas agos rhwng y ci a’r trafodwr. Gallwch weld pa mor hapus yw ci a sut y mae am weithio gyda’i drafodwr.”
Ychwanegodd: “Mae’r cynllun hwn i gŵn yn cyfateb i’r cynllun ymweld yn y ddalfa lle mae pobl leyg yn ymweld â charcharorion yn y ddalfa i sicrhau eu bod yn cael y gofal cywir. Mae’n gynllun gwerth chweil ac rydw i wrth fy modd cael bod yn rhan ohono.”
Dywed y rhingyll gyda Heddlu Gogledd Cymru, Howard Watts, sydd wedi gwasanaethu fel heddwas am 27 mlynedd, 17 ohonynt fel trafodwr cŵn, ei fod wedi aros am amser hir i weld cynllun ymweld â chŵn yn cael ei gyflwyno.
Dywedodd: “Mae angen i ni fod yn dryloyw ac mae angen i’r cyhoedd ar draws Gogledd Cymru a Swydd Gaer fod yn hyderus ein bod ni’n trin ein cŵn yn dda a’u bod yn hapus ac yn cael gofal da.
Ar hyn o bryd, mae gennym 15 ci ar waith yng Ngogledd Cymru. Cânt eu defnyddio ar gyfer gwahanol dasgau a dyna pam mae gennym wahanol fridiau. Labrador melyn pedair blwydd oed yw Otis,fy nghi i, sydd wedi ei hyfforddi i ddod o hyd i gyffuriau fel canabis, heroin, amffetaminau a chocên.
Gall hefyd chwilio am arian parod ar ffurf Sterling ac Ewros, ac arfau gan gynnwys darnau cydrannol.
Mae gennym hefyd Fleiddgwn a chŵn Malinois Gwlad Belg sydd wedi eu hyfforddi at ddibenion trefn gyhoeddus a rheoli torfeydd a chwilio am bobl, yn ogystal â llamgwn sydd hefyd yn gŵn wedi eu hyfforddi i chwilio.
Mae Otis, sydd wedi bod gyda fi ers pan oedd yn wyth wythnos oed, yn byw gartref gyda mi. Mae’n cymryd rhyw wyth wythnos i hyfforddi ci chwilio fel Otis a rhyw 12 wythnos i hyfforddi ci pwrpas cyffredinol.
Mae’r cynllun ymweld â chŵn yn ffordd wych o sicrhau bod lles cŵn heddlu’n cael ei gymryd o ddifrif ac rwy’n falch fod gennym wirfoddolwyr ymroddedig sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud ac am beth maen nhw’n chwilio.”
Mae’r Cwnstabl Gareth Jones, sydd wedi gwasanaethu ers 17 o flynyddoedd fel heddwas, ac wyth o’r rheiny fel trafodwr cŵn, yn dweud ei fod o’r farn fod gan ymwelwyr lles cŵn rôl bwysig i’w chwarae.
Dywed Gareth, sy’n gweithio gyda Seren, sef Labrador 18 mis oed, sydd newydd gael ei hyfforddi i chwilio am gyffuriau: “Rydw i’n cytuno’n llwyr efo’r cynllun. Maen nhw’n archwilio’r cerbydau i wneud yn siwr eu bod yn lân ac yn sicrhau bod ein cŵn yn cael eu hyfforddi’n gywir ac yn cael y gofal iawn.
Wrth gwrs, nid oes gennym ddim i’w guddio ond mae’n dda bod yr archwiliadau’n cael eu gwneud a’n bod ni’n dryloyw ac agored.”