Skip to main content

Pennaeth heddlu wrth ei fodd i gipio ei ail wobr yn olynol am weithio'n agored

Date

Date
Pennaeth heddlu wrth ei fodd i gipio ei ail wobr yn olynol am weithio'n agored

Mae pennaeth heddlu wedi dweud ei fod yn eithriadol o falch ar ôl cael gwobr am y ffordd agored a thryloyw y mae ef a'i staff yn gweithio am yr ail flwyddyn yn olynol.

Unwaith eto, mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones wedi derbyn Marc Ansawdd Tryloywder gan CoPaCC, sefydliad sy'n monitro llywodraethiant yr heddlu.

Rhoddwyd y wobr i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch ar ei gwefan er mwyn i aelodau'r cyhoedd fedru darganfod yn hawdd beth y mae'n ei wneud.

Galwodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, am fwy o weithredu agored a thryloywder mewn bywyd cyhoeddus yn ystod yr ymgyrch etholiadol a welodd ef yn cael ei ethol yn Gomisiynydd ym mis Mai 2016.

Dywedodd: "Rwy'n arbennig o falch o'r wobr arbennig hon oherwydd rwy'n credu'n angerddol ym mhwysigrwydd bod yn gwbl agored yn yr hyn rwy'n ei wneud.

 Dylai pobl mewn swyddi cyhoeddus gyhoeddi mwy na’r wybodaeth y mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt ei datgelu

 Dylai gweithredu agored fod yn norm ac nid yn eithriad ac rwy’n gobeithio y bydd sefydliadau eraill yn dilyn ein harfer.

 Rydym yn cael ein hariannu gan drethdalwyr ac mae ganddynt hawl llwyr i wybod beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn gwario eu harian.

 Rydym yn atebol iddynt, felly mae gweithredu mewn ffordd dryloyw yn rhan o'r broses honno, yn hytrach na chuddio tu ôl i ddeddfwriaeth ac eithriadau i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i'r staff yn fy swyddfa oherwydd maent wedi gweithio'n hynod o galed i sicrhau ein bod yn derbyn y marc ansawdd hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt."

Roedd y Swyddog Gweithredol, Meinir Mai Jones yr un mor falch.

Dywedodd: "Y Marc Ansawdd Tryloywder ydi'r safon aur o ran bod yn agored a thryloyw, felly rydym i gyd wrth ein boddau ac yn falch iawn o'i dderbyn.

Yn ôl y beirniaid rydym yn cydymffurfio'n llwyr ac mae derbyn y wobr am yr ail flwyddyn yn olynol, yn golygu ein bod yn gyson ardderchog yn hyn o beth, heb ddim lle i wella.

Mae'r Comisiynydd yn berson etholedig ac mae'n gwneud cymaint â phosib o fewn ei allu i wneud y cyhoedd yng ngogledd Cymru yn ymwybodol o'r gwaith y mae'n ei wneud."

Yn y cyflwyniadau dywedodd Paul Grady, Pennaeth yr Heddlu ar gyfer Grant Thornton a oedd yn noddi’r digwyddiad: "Mae tryloywder yn rhan hanfodol o'r broses ddemocrataidd. Er mwyn i'r cyhoedd allu mesur pa mor llwyddiannus y mae eu Comisiynwyr Heddlu a Throsedd wrth gyflawni eu mandad etholiadol, mae angen iddynt gael mynediad at wybodaeth sy'n hygyrch, yn hawdd ei ddeall ac yn addas i'r diben.

Mae Grant Thornton yn falch unwaith eto o noddi'r Gwobrau Tryloywder hyn ac rydym yn llongyfarch pawb sydd wedi llwyddo i fodloni'r safonau gofynnol."

Dywedodd Prif Weithredwr CoPaCC, Bernard Rix: "O’m rhan i, mae'r Swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd hyn i gyd wedi dangos eu bod yn dryloyw yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud, gan fodloni'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Maent yn cyflwyno gwybodaeth allweddol mewn fformat hygyrch ar eu gwefannau ac rwy'n llongyfarch pawb ar eu gwaith da. Edrychaf ymlaen at yr hyn rwy’n hyderu fydd yn waith rhagorol i’r dyfodol gan bob un ohonynt yn y maes hwn.