Date
Mae cynhyrchwyr dadl deledu am droseddu yn Wrecsam yn wynebu ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd eu hagwedd “ymfflamychol”.
Mae pobl leol wedi ymateb yn flin ar ôl gweld fideo hyrwyddo ar gyfer rhaglen The Hour, sy’n gwneud i’r dref swnio’n debycach i Baghdad.
Yn ôl y beirniaid, mae'r fideo’n cyflwyno delwedd hynod negyddol o'r dref gyda'r person cyntaf yn y clip hyrwyddo yn cael ei gyfweld yn galw am fwy o heddlu gyda gynnau ar y strydoedd.
Mae'n gosod y cywair ar gyfer gweddill y fideo yn y clip cyntaf, lle mae'n dweud: "Gyda chyffuriau, dwyn, trais a chynnydd mewn terfysgaeth mae angen mwy o heddlu arfog."
Mae'r rhaglen a gyflwynir gan Catrin Nye yn cael ei chynhyrchu ar gyfer BBC Wales gan y cwmni annibynnol, Avanti TV, a disgwylir iddi gael ei dangos heno (Llun, Mawrth 12) am 10.40yh.
Ymhlith y rhai oedd yn feirniadol o’r rhaglen ar Twitter yr oedd Mark Jones, Aelod Bwrdd o Gorff Llywodraethol Cefnogwyr Wrecsam.
Dywedodd: "Nid dyna ydi’r Wrecsam dwi’n ei nabod ond yna mae’n rhaid i’r BBC fod yn ymfflamychol i gael gwylwyr. Mae angen buddsoddiad ar y dref nid codi bwganod gwarthus. Byddai degfed ran o’r arian sy’n cael ei daflu at Gaerdydd yn trawsnewid y lle.
Nid oes tref yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddi'r problemau hyn. Pam mae gan Wrecsam fwy na threfi eraill? Oherwydd eu bod yn cael help, yn cael eu trin â pharch ac yn cael eu plismona'n synhwyrol yma. "
Roedd y Cyng Marc Jones, aelod Plaid Cymru o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yr un mor flin.
Trydarodd: "Darlledwr yn dod i'r dref gydag agenda ystrydebol sydd wedi hen ddyddio. Anwybyddu pethau positif go iawn a allai drawsnewid canol y dref."
Ategwyd y teimladau yna gan Dyfan Evans a ddywedodd: "Wedi cael llond bol ar y negyddiaeth. Ni fydd materion y dref byth yn cael eu datrys oni bai fod pobl yn gweld y pethau positif."
Ychwanegodd Matthew Purlsow: "Ydyn mae’r rhain yn broblemau ac yn faterion mawr i fynd i'r afael â hwynt, ond nid y lle gwaethaf i fyw ynddo o bell ffordd."
Dywedodd sylwebydd arall: "Rydach chi’n tynnu fy nghoes... wedi byw mewn ardaloedd heriol iawn yn y DU. Wrecsam ydi’r lle mwyaf diogel dwi erioed wedi byw ynddo a dwi wedi fy synnu gan y ffordd y mae’r fideo yma wedi cael ei olygu.”
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, y cyn-arolygydd heddlu Arfon Jones, hefyd yn anhapus gydag agwedd y rhaglen.
Dywedodd: "Er nad oeddwn yn gallu mynychu'r ddadl fy hun, cytunais yn wreiddiol i wneud cyfweliad gyda'r rhaglen.
Ond tynnais yn ôl pan ddaeth yn gwbl amlwg eu bod am bardduo Wrecsam trwy gynhyrchu mwy o wres na golau.
Mae gen i ofn fod y fideo hyrwyddo cwbl negyddol yma wedi cadarnhau fy holl ofnau gwaethaf drwy wneud i’r dref swnio’n debyg i Baghdad ar ddiwrnod gwael.
Mae hon yn ymgais gywilyddus i ddifrïo Wrecsam. Wrth gwrs, dydi'r dref ddim yn berffaith ac fel preswylydd lleol a chyn-gynghorydd rwy’n gwbl ymwybodol o'r heriau.
Ond mae The Hour yn gorwneud y negyddol mewn ymgais sinigaidd i ddenu gwylwyr. Cywilydd arnynt am gynhyrchu fideo teledu gwarthus fel hwn."