Date
Mae dynes o Wrecsam sy’n helpu’r rhai sy’n cysgu allan wedi ennill gwobr am ei gwaith sydd wedi gweld cannoedd o bobl ddigartref yn cael to uwch eu pennau.
Tanya Jones, 39 oed, oedd enillydd balch Gwobr y Bobl yng ngwobrau cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Kinmel Manor, Abergele.
Tanya yw rheolwr Tîm Ymyrraeth Rhai sy’n Cysgu Allan (RSIT) yn Wrecsam, sefydliad sy’n cael ei redeg gan yr elusen i’r digartref o Gaerdydd, The Wallich.
Mae Tanya a’i thîm yn chwilio am bobl ddigartref, gan roi cymorth dyngarol sylfaenol iddynt a’u cyfeirio at wasanaethau cymorth.
Cafodd ei henwebu am ei gwobr gan aelodau o’r gymuned, gan gynnwys yr Arolygydd Paul Wycherley o Heddlu Gogledd Cymru a ddywedodd bod y Tîm Ymyrraeth wedi bod ‘o fudd enfawr’ i’r gymuned digartref yn Wrecsam.
“Mae Tanya yn aml wedi mynd yr ail filltir wrth gyflawni ei rôl ac wedi gwneud hynny mewn sawl ffordd wahanol,” meddai’r Arolygydd Wycherley. “Mae’n gweithio’n ddiflino i chwalu’r rhwystrau rhwng ei chleientiaid a chymunedau lleol.
“Mae gan Tanya ffordd dosturiol ac anfeirniadol o ymwneud â’r digartref a phobl sy’n agored i niwed, ac mae hi wedi llwyddo i helpu cannoedd o bobl i adsefydlu dros y blynyddoedd lawer y mae hi wedi gweithio yn y maes hwn. Mae hi’n gwneud ei gorau i helpu’r heddlu a phartneriaid yn y gefnogaeth y mae hi’n ei rhoi i ddefnyddwyr y gwasanaeth.”
Dywedodd yr Arolygydd Wycherley fod y Tîm Ymyrraeth yn gweithredu bron fel gwasanaeth brys ychwanegol ar adegau, ac meddai: “Does dim amheuaeth am ysbryd cymunedol ac agwedd benderfynol Tanya a’r tîm. Maent yn bencampwyr tawel sy’n haeddu cydnabyddiaeth am y rôl werthfawr y maent yn ei chyflawni bob dydd, gan wneud hynny yn hollol ddigymell.”
Mae cysgu ar y stryd yn Wrecsam yn broblem. Awmgrymodd data Llywodraeth Cymru bod nifer y bobl ddigartref yn y dref wedi dyblu i 61 rhwng 2015 a’r llynedd.
Dywed Tanya, a gafodd ei geni a’i magu yn Wrecsam, fod y broblem yn y dref ar yr ‘un raddfa’ â dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe yng Nghymru a dyna pam fod rôl y Tîm Ymyrraeth, a sefydlwyd fis Hydref diwethaf, mor bwysig.
Tanya yw unig weithiwr llawn amser y tîm, gyda’r gweithiwr cefnogi Sarah Daniels yn cynorthwyo am bedair awr y dydd hefyd. Rhoddir cefnogaeth bellach gan ddau weithiwr cymdeithasol awdurdodau lleol a chynrychiolydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, gan ffurfio ‘tîm ffantastig’ yn ôl Tanya.
Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth i’r digartref, gan roi bwyd a diod poeth iddynt yn ogystal â’u cyfeirio at wasanaethau a llety priodol. Mae tîm Tanya hefyd yn helpu i gasglu data defnyddiol am nifer y bobl sy’n cysgu allan yn y dref.
“Roedd yna alw amlwg i ymgysylltu â’r rhai sy’n cysgu allan yn Wrecsam a chynnig pecyn cymorth iddynt lle gallent gael gafael ar lety,” meddai Tanya, a raddiodd gyda gradd mewn Troseddeg o Brifysgol Caer yn 2015.
“Rydym yn delio gyda’r unigolion mwyaf di-drefn yn y gymdeithas - nid yw pob un ohonynt felly ond mae rhai.
“Mae’r cyfan yn golygu fy mod yn ddynes brysur iawn, ond rwy’n caru fy swydd. Rwy’n dod ymlaen yn dda gyda’r cleientiaid. Mae’n anarferol iawn i mi gael unrhyw broblemau. Mae pob un o’n cleientiaid yn gwybod ein bod yma i’w cefnogi a byddwn yn parhau i wneud hynny, doed a ddel.
“Maent yn gwybod y gallant ddod yn ôl atom unrhyw bryd.”
Mi wnaeth Tanya, a ddechreuodd weithio i The Wallich yn 2014, fynd ag aelodau ei thîm draw i’r seremoni wobrwyo ddydd Iau fel ffordd o ddweud diolch iddynt am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi ers iddi ddechrau rheoli’r Tîm Ymyrraeth ym mis Hydref.
Teimlai’r Comisiynydd Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ei bod hi’n bwysig cydnabod ymdrechion arwyr tawel y gymuned.
Dywedodd: “Mae un peth yn gyffredin i’n holl enillwyr, sef eu bod yn gwneud Gogledd Cymru yn lle gwell a mwy diogel i fyw a gweithio ynddo.
“Mae llawer o bobl anhunanol yn gwneud llawer o waith da yn y gymuned drwy helpu Heddlu Gogledd Cymru ac mae’r gweithwyr tawel hyn yn mynd yr ail filltir yn aml iawn gan wneud cyfraniad a sicrhau bod eu cymunedau yn ddiogel.
“Yn y mwyafrif llethol o achosion, mae hyn yn ymrwymiad personol a wnaed heb ddisgwyl unrhyw fath o wobr neu gydnabyddiaeth.
“Mae’r seremoni wobrwyo hon felly, yn gyfle i gydnabod ymdrechion diflino yr arwyr tawel hyn ac i annog eraill i ddilyn eu hesiampl dda.”