Date
Yr heddlu yn cael camerâu i’w gwisgo – newyddion da i bawb heblaw troseddwyr
Cyn bo hir bydd pob swyddog rheng flaen yng Ngogledd Cymru yn gwisgo camera fideo ar du blaen ei wisg.
Mae Heddlu Gogledd Cymru newydd dderbyn 301 yn ychwanegol o gamerâu fideo i’w gosod ar eu gwisgoedd a 50 doc ar eu cyfer. Byddant ar waith drwy’r holl ardal cyn bo hir.
Talwyd amdanynt gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sydd yn gyn-arolygydd Heddlu a buddsoddwyd £163,000 yn y dechnoleg.
Mae Mr Jones yn cyflawni addewid a wnaeth yn ei faniffesto, cyn iddo gael ei ethol gyda mwyafrif mawr fis Mai diwethaf.
Mae camera fideo ar flaen gwisg yn casglu tystiolaeth wrth i drosedd ddigwydd. Cawsant eu defnyddio am y tro cyntaf yn y Gogledd yn 2015, pan ddechreuwyd defnyddio 120 o gamerâu mewn gwahanol rannau o ardal yr Heddlu. Roedd hynny’n golygu eu bod ar gael i draean y swyddogion ymateb.
Ar ôl cael y dyfeisiau ychwanegol hyn yn awr, bydd pob swyddog heddlu a swyddog cefnogi cymuned yr heddlu yn cael camera ar ei wisg pan fydd ar ddyletswydd rheng flaen, gan gynnwys aelodau’r timau arbenigol sy’n delio â drylliau a throseddau cefn gwlad. Heddlu’r Gogledd fydd y cyntaf o heddluoedd Cymru i ddarparu’r cymorth technolegol hwn sy’n arf yn erbyn trosedd, ar gyfer ei holl swyddogion.
Mae’r dechnoleg ddiweddaraf hon wedi profi’n arbennig o ddefnyddiol yn barod wrth ddelio â thrais domestig. Mae’r ddyfais yn galluogi’r Heddlu i gasglu tystiolaeth am anafiadau a difrod a chasglu ar yr un pryd dystiolaeth am ymddygiad ac ymarweddiad yr ymosodwr a’r dioddefwr.
Disgwylir y bydd yr offer ychwanegol yn arwain at gynnydd o 12 y cant yn nifer yr erlyniadau llwyddiannus mewn achosion cam-drin domestig, cynnydd mawr yn nifer y rhai sy’n pledio’n euog mewn pob math o achosion a lleihad yn nifer y cwynion yn erbyn swyddogion.
Meddai Mr Jones: "Addewais yn fy maniffesto y buaswn yn sicrhau bod pob swyddog rheng flaen yn cael camera ar ei wisg a dyna sy’n digwydd yn awr. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i gael digon o arian i wneud hyn.
"Mae’n mynd i helpu’r rhai sy’n dioddef oherwydd troseddau, ein helpu ni i arestio mwy o droseddwyr a gwella ansawdd bywydau pobl fregus.
"Profwyd bod cyfradd llwyddiant mewn achosion trais domestig yn cynyddu o 12 y cant pan fydd gan swyddogion heddlu offer fideo ar eu gwisg. Mae hynny’n gynnydd aruthrol.
"Edrychaf ymlaen at weld mwy a mwy o droseddwyr yn dod gerbron llys a llai o oroeswyr yn cael amser diflas.
"Rwy’n disgwyl y bydd mwy yn pledio’n euog a da o beth yw hynny. Mae’n golygu nad yw unigolion sydd wedi dioddef trais domestig yn gorfod rhoi tystiolaeth yn y llys. Mae’n arbed arian ac wrth gwrs mae’n well i’r sawl sydd wedi cyflawni’r drosedd oherwydd, cyntaf yn y byd y pledia’n euog, lleiaf yn y byd o ddedfryd y bydd yn ei gael.
"Mae camerâu fideo ar wisg swyddogion heddlu yn gwneud Gogledd Cymru’n lle mwy diogel. Mae’n beth da i bawb, heblaw’r troseddwyr."
Dyma a ddywed y Prif Uwcharolygydd Sacha Hatchett, Pennaeth Gwasanaethau Plismona Lleol: "Rydym yn eithriadol o falch fod y Comisiynydd wedi buddsoddi yn yr offer newydd yma.
"Mae’r canlyniadau wrth ddefnyddio camera fideo ar wisg yn siarad drostynt eu hunain ym mhob rhan o’r wlad.
"Pan fydd swyddogion heddlu yn defnyddio camera fideo ar eu gwisg, maent yn cofnodi’r hyn sydd mewn gwirionedd yn digwydd ar y pryd – mae’n dystiolaeth na all neb ei gwadu.
"Mae swyddogion heddlu yn gwneud gwaith arloesol. Maent yn defnyddio’r offer pan fyddant ar batrôl ymddygiad gwrthgymdeithasol a gydag economi’r nos, ac rydych yn gallu gweld beth yn union sy’n digwydd os bydd ffrwgwd neu ymladd, sut yn union mae’n edrych a beth yw’r hanes.
"Maent yn cael eu defnyddio pan fydd swyddogion heddlu yn mynd at ddamweiniau ffordd ac maent yn eu defnyddio wrth gyflwyno gwarant.
"Mae tystiolaeth bendant bod camera fideo ar wisg yn rhywbeth gwerth ei gael ac mae’n gymorth i’m swyddogion yn y rheng flaen sydd yn gwneud gwaith anodd iawn ac yn ei wneud yn dda. Maent yn broffesiynol iawn wrth eu gwaith ac rwyf o blaid unrhyw beth sydd o gymorth iddynt.
"Dyda ni ddim wedi gorffen dadansoddi’r data ond mae’n dod i’r amlwg fod llai o gwynion yn erbyn swyddogion heddlu a llai o bobl yn cwyno dim ond er mwyn creu trafferth."
Mae PC Matt Jones yn frwd o blaid y camerâu fideo.
Dyma a ddywedodd: "Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth. Pan fyddwn yn cael ein galw i ddigwyddiad, er enghraifft damwain ar y ffordd, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r rhai sydd wedi brifo ac yn y blaen. Gallwn ddefnyddio’r camera sydd ar ein gwisg ar yr un pryd ag y byddwn yn delio â’r rhai sydd wedi cael eu hanafu.
"Mae’r ffaith fod yr offer gennym yn gwneud pobl yn llai tebygol o fod yn ymosodol, yn fygythiol neu’n dreisgar gan eu bod yn gwybod eu bod yn cael eu ffilmio ar y camera. Mae’n rhoi stop ar y peth yn syth bin."
Gwnaed yr holl drefniadau ar gyfer cael yr offer gan Brif Swyddog Gwybodaeth yr Heddlu, Ian Davies.
Yn ôl Ian: “Mae’n gallu gwneud gwahaniaeth aruthrol ym mhob rhan o waith yr heddlu gan gynnwys troseddau sy’n deillio o fywyd y cartref ac mae’r gyfradd llwyddiant o ran euogfarnau yn codi o 70 y cant i 82 y cant. Mae’n newyddion gwych i’r dioddefwyr a dyna sy’n bwysig."
Cafwyd cefnogaeth frwd hefyd i’r dechnoleg newydd gan gangen Gogledd Cymru o Ffederasiwn yr Heddlu.
Dyma eiriau’r Ysgrifennydd, Richard Eccles: "Rydym yn hynod falch fod Comisiynydd yr Heddlu wedi sicrhau bod yr Heddlu’n cael rhagor o gamerâu, a da o beth fod gostyngiad sylweddol yn nifer y cwynion gan y cyhoedd.
"Mae swyddogion heddlu yn fwyfwy awyddus i ddefnyddio’r camerâu i rwystro’r bobl hynny sydd yn difetha pethau yma yn y Gogledd rhag ymosod ac ymddwyn mewn ffyrdd cas.
"Y gobaith yw y byddwn yn gallu cyflwyno mwy o dystiolaeth i’r llysoedd i ddangos yn union sut y mae’r Heddlu’n cael eu trin gan leiafrif troseddol, a hynny’n golygu y gwelir mwy yn cael eu cosbi ac y daw’r cyhoedd i deimlo’n fwy diogel."