Date
Mae elusen a gaiff ei redeg gan gyn-ddefnyddiwr cyffuriau sydd wedi ymroi’r 15 mlynedd diwethaf i helpu’r digartref wedi derbyn gwobr arbennig.
Enillodd ARC – Adfer yn y Gymuned - Wobr Cyflawniad Eithriadol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru mewn seremoni yng Ngwesty Kinmel Manor.
Cyflwynodd y Comisiynydd Arfon Jones y wobr i Ruth Cole, a sefydlodd y mudiad chwe blynedd yn ôl, ond a fu’n gweithio gyda’r digartref a’r rhai sy’n gaeth i sylweddau yn llawer hirach na hynny.
Mae ARC, sy’n rhedeg canolfannau ym Mae Colwyn a’r Rhyl, yn cynnal gwasanaethau agored galw-heibio i bobl sy’n ddigartref neu sy’n dioddef yn ddifrifol o gamddefnyddio sylweddau, ac maent yn darparu llwybr yn ôl i fyw bywyd sefydlog ac annibynnol yn y gymuned.
Dywedodd Ruth, 50 oed, o Abergele: “Mae fy nghefndir mewn datblygu gwasanaethau i’r digartref, ond bûm yn rhan o’r sîn gyffuriau fy hun. Roeddwn i’n fam sengl a wir yn cael trafferth i ddod o hyd i gefnogaeth, ond roedd gen i deulu anhygoel.
“Wynebais lawer o broblemau yn fy arddegau ac ugeiniau cynnar a chollais fy ffordd. Doedd dim cymorth ond des i drwyddi a mynd i’r brifysgol ac ennill gradd mewn troseddeg a chymdeithaseg.
“Ymroddais fy holl egni bryd hynny i fod yn esiampl dda ond fe wnaeth y cyfnodau hynny rhoi cipolwg i mi o sut mae pobl yn colli eu ffordd a’r problemau maen nhw’n eu hwynebu.
“Rwy’n ddynes o ffydd, yn Gristion, a hyd yn oed os ydy pobl yn isel ac mewn lle tywyll maen nhw angen cael eu caru.
“Ond rwy’n ddynes ymarferol felly rwy’n mynegi fy ffydd yn yr hyn rwy’n ei wneud yn hytrach na cheisio pregethu i bobl – gweithredu sy’n bwysig i mi. Dyna sut dw i’n meddwl.”
Mae canolfannau galw-heibio ARC yng Nghanolfan Dewi Sant yn y Rhyl ac yn Eglwys Dewi Sant ym Mae Colwyn. Yn ogystal â’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, sy’n cynnwys prydau bwyd, cyfleusterau i ymolchi a dillad, mae’r mudiad hefyd yn cynnal y lloches nos Roofless yn y Rhyl.
Maent hefyd yn cynnal y banc bwyd yng Nghonwy a llynedd prynasant ddau adeilad yn ardal Penmaenmawr sy’n cael eu trawsnewid yn ganolfan adferiad cyffuriau.
Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys clwb gweithio i helpu pobl i fynd yn ôl i weithio, rhaglen rheoli dicter, bws carchar, a busnes arlwyo tu allan a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr a defnyddwyr y gwasanaeth adferiad.
Mae Ruth ei hun yn aml yn gweithio yn y ceginau ac wedi ennill cymhwyster arlwyo yng Ngholeg Llandrillo. Cyn iddi sefydlu ARC bu’n gweithio gyda sefydliadau eraill sy’n gofalu am y digartref, gan gynnwys dwy flynedd gyda Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru.
Ychwanegodd: “Rwy’n caru datblygu gwasanaethau i bobl na fyddai ganddynt lais fel arall nac yn cael dweud eu dweud, ac mae fy ngwaith yn rhoi boddhad mawr.
“Mae gan ein cyfranogwyr a’n gwirfoddolwyr rhan yn y cwmni ac maent yn llywio’r ffordd y mae ARC yn gweithio. Mae’n fudiad sydd wedi ei adeiladu ar anghenion ac yn cael ei yrru ymlaen gan y bobl sydd ei angen.
“Mae gwasanaethau lleol yn gwella hefyd ac yn mynd i’r afael ag ef, felly mae gennym ni lai o bobl yn ddigartref nawr nag oedd gennym ni ‘nôl yn 2003, pan fydden ni’n cael 70 i 80 o bobl y diwrnod yn ein canolfan galw-heibio yn y Rhyl.
“Mae’r ffigwr bellach wedi ei haneru ac mae darparwyr tai a gwasanaethau eraill wedi gwella ac mae llawer o waith da yn cael ei wneud.”
Dywedodd Arfon Jones, “Mi wnes i fynd i weld gwaith ARC a chefais fy mhlesio gan yr hyn y maen nhw’n ei wneud i gefnogi’r digartref gan gynnwys y bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl.
“Mae Ruth wedi ymroi ei gyrfa i gefnogi a gwella pobl sy’n cael trafferth gyda dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol a digartrefedd ac mae ei helusen, ARC, wedi creu prosiectau sydd wedi eu hanelu at eu helpu yn ôl i fywyd sefydlog ac annibynnol.
“Mae hi i o hyd wedi annog perthynas agos rhwng yr heddlu a’i staff a defnyddwyr y gwasanaeth a heb y canolfannau galw-heibio byddai’r rhai sy’n dioddef o gamddefnyddio sylweddau a digartrefedd yn aml yn troi at droseddu.”