Skip to main content

Achub clwb bocsio

Date

Date
Achub clwb bocsio

Mae clwb bocsio ym Mangor sydd wedi cynhyrchu nifer o bencampwyr Cymru wedi cael ei achub rhag gorfod cau. Cafodd grant i brynu offer newydd roedd yr aelodau ifanc ei angen yn fawr – a hynny diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr.

Mae Clwb Bocsio Maesgeirchen, enw newydd Clwb Bocsio Bangor, wedi bod yn cynhyrchu pencampwyr Cymru ers dros 30 mlynedd. Mae’r enwogion o’r clwb hwn yn cynnwys Dave Davies, enillodd fedal arian yng Ngemau’r Gymanwlad.

Ond dywedodd Nigel Pickavance, un o Gynghorwyr Gwynedd, bod dyfodol y clwb mewn perygl am fod angen arian i brynu’r gwarchodwyr pen ac offer diweddaraf ar gyfer bocsio.

Bellach mae grant o £2,500 oddi wrth gronfa arbennig a sefydlwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi rhoi sicrwydd i’r dyfodol, yn ôl yr hyfforddwr profiadol iawn Brian ‘Bach’ Williams, sy’n gofalu am y bobl ifanc o chwech oed ymlaen.

Mae Brian wedi gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol ac wedi bod yn cyfrannu at y clwb ers 1995. Meddai: “Mae’n rhaid newid llawer o’r offer am fod y rheoliadau wedi newid ac mae’n ddrud iawn, ond bydd hyn yn sicrhau ein bod ni’n gallu parhau.

“Bydd Dave Davies yn dal i ddod i’r clwb ac yn cynnig syniadau i’r hogiau fedru gwella, ac mae nifer o rai da yma rŵan.”

Ychwanegodd Nigel Pickavance: “Mae Brian newydd gyrraedd 70 oed ond bydd yn dal i fynd â’r hogiau allan i redeg a hyfforddi ac mae o’n parhau i fod yr un cyntaf i fyny’r allt serth wrth ymyl adeilad y clwb.

Mae o wedi rhedeg y clwb ar ychydig iawn o adnoddau ac ennill nifer o wobrau am ei wasanaethau. Mae o’n haeddu rhywbeth gwell am ei fod o wedi dod â chymaint o bencampwyr ymlaen.

Mae’r clwb mewn beth sydd ddim llawer mwy na chwt, efo cylch bocsio a rhywfaint o offer hyfforddi, ond mae angen cael gwell gwarchodwyr pen, menig a bagiau dyrnu a bydd y grant yma’n talu am well offer.

Mae Maesgeirchen yn ardal o amddifadedd, a does dim llawer o gyfle i bobl ifanc. Pe bai’r clwb wedi gorfod cau byddai hynny wedi cael effaith wael iawn, felly mae’r grant yma wedi achub y clwb a gallwn ni ddim diolch digon i’r Comisiynydd.

Rydw i wedi gweld rhai plant drwg yn mynd i’r clwb ac yn newid i fod yn oedolion sy’n enghraifft dda i bawb arall. Mae hynny diolch i Brian a’r hunanddisgyblaeth a pharch at eraill maen nhw wedi’i gael oddi wrth y bocsio.”

Mae’r cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), sy’n dathlu ei 20fed blwyddyn yn 2018.

Hon yw pumed flwyddyn y cynllun dosbarthu arian ac mae wedi dosbarthu £160,000 i achosion haeddiannol. Cafodd llawer o hwnnw ei adennill trwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, sy’n defnyddio arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr, a’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae’r cynllun wedi’i fwriadu ar gyfer cyrff sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn, yn unol â blaenoriaethau’r Comisiynydd yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Eleni, mae 14 o grantiau ynghyd â chyfanswm o bron £40,000 wedi mynd i gefnogi cynlluniau gan gyrff cymunedol, a’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy bleidlais ar lein. Roedd 35 o brosiectau’n cystadlu, a chafodd bron i 10,000 o bleidleisiau eu bwrw.

Y prosiect llwyddiannus arall yng Ngwynedd oedd Teledu Cylch Cyfyng (TCC) Gwarchod Bermo Watch, sydd wedi cael ei redeg gan grŵp o wirfoddolwyr yn y Bermo a chynorthwyo’r heddlu lleol i ddatrys 70% yn fwy o droseddau.

Mae’r cynllun teledu cylch cyfyng yn dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau gwirfoddol. Ers iddo ddechrau mae wedi darparu tystiolaeth ar gyfer troseddau yn amrywio o ddifrod troseddol i fwrglera, troseddau gyda’r drefn gyhoeddus a hyd yn oed digwyddiadau gyda gynnau a lle cafwyd honiadau o dreisio.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ar y cyd â’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki. Dywedodd Arfon Jones: “Rydw i’n hynod falch bod cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru am y chweched flwyddyn yn olynol.

“Yn ddiweddar, mi wnes i lansio Polisi Gwerth Cymdeithasol, sy’n ceisio ehangu ein cefnogaeth i gymunedau lleol ac mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn gyfle i mi wneud yn union hynny.

Mae hon yn gronfa unigryw sy’n gadael i’n cymunedau ddewis pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol, ac mae’r ymateb yn dangos y gall cymunedau weithio efo’i gilydd i wneud ein llefydd cyhoeddus ni’n fwy diogel.

Rydw i wedi ymweld â nifer o’r prosiectau oedd yn llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael argraff arbennig o dda o’r gwaith ddigwyddodd. Mae'n sicrhau bod ein cymunedau ni’n parhau i fod yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig i fyw, gweithio ac i ymweld â nhw.

Mae cyflawni Cymdogaethau Diogelach yn un o’r blaenoriaethau allweddol i mi yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ac rydw i’n falch iawn bod eich sefydliadau chi wedi datblygu prosiectau sy’n cefnogi’r Cynllun hwn.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki: “Cafodd yr arian rydych wedi’i dderbyn ei ddarparu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a thrwy asedau wedi’u cymryd oddi ar droseddwyr o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.

“Mae hon yn neges arbennig o bwysig am fod proffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth y Llysoedd, yn golygu ein bod ni wedi gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo – yn eu pocedi.  

Dyma’r bumed flwyddyn o arian Eich Cymuned, Eich Dewis, ac yn ystod yr adeg hon mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adennill £2.3 miliwn o arian ac asedau. Daeth  £627,000 ohono yn ôl i Ogledd Cymru oddi wrth y Swyddfa Gartref, i gefnogi cynlluniau fel hyn.

Mae’n gyrru neges gadarnhaol iawn bod arian sydd wedi’i gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg i fod yn arian da.

Ychwanegodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru, David Williams:  “Rydym yn arbennig o falch o fedru helpu i weinyddu’r gronfa hon.

Rwy’n credu bod rhoi grantiau ar raddfa mor eang ar draws y cyfan o Ogledd Cymru, o’r pen pellaf yn y gorllewin i’r pen arall yn y dwyrain, yn gyrru neges gref i gymunedau i geisio cael rywfaint o’r arian hwn, mae o yna ar eu cyfer nhw.

Mae’n briodol iawn mai un o’r amodau ydi bod angen i bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn fod yn gwneud rhywbeth yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu’n rhoi sylw i drosedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd arall.

Mae’r nodau mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ceisio’u cyrraedd hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Trosedd ac Anhrefn y Comisiynydd, ac felly mae’n creu cylch rhinweddol.”