Skip to main content

Prosiect i adfer parc poblogaidd wedi cael hwb gan arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.

Date

Date
Prosiect i adfer parc poblogaidd wedi cael hwb gan arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.

Mae prosiect uchelgeisiol i adfer a gwella dwy ardal boblogaidd o Barc Eirias ym Mae Colwyn i’w gwneud yn fwy hygyrch wedi ennill arian hanfodol gan gynllun sy’n dosbarthu arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.

Mae Ffederasiwn Cadwraeth ac Amgylcheddol Bae Colwyn yn un o’r ddau grŵp buddugol yng Nghonwy sydd wedi ennill £2,500 o gronfa arbennig sy’n cael ei rhedeg gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.

Mae’r Ffederasiwn wedi sefydlu prosiectau Tyfu’n Wyllt a Llwybr Troed Parc Eirias i annog mwy o bobl i ddefnyddio’r ardaloedd, ychwanegu at eu mwynhad ac i annog bywyd gwyllt.

Dywedodd Cadeirydd y Ffederasiwn Ian Connor: “Rydym eisiau agor yr ardal wrth y fynedfa i Barc Eirias i’w gwneud yn fwy deniadol i bobl leol ac ymwelwyr.

Rydym yn gobeithio torri rhai o’r llwyni yn ôl, plannu planhigion newydd er mwyn rhoi mwy o liw ar hyd y flwyddyn ac i adfer llwybrau cerdded ac adeiladu rhai newydd.

Mae’r arian yma’n bwysig iawn i ni oherwydd mae’n golygu ein bod ni’n medru gwneud llawer mwy na’r hyn a gynlluniwyd gennym ac rydym yn ddiolchgar iawn i gronfa Eich Cymuned Eich Dewis.”

Mae’r Prosiect Tyfu’n Wyllt yn cynnwys adeiladu tŷ daear-cysgodol a gardd gwlyptir cynhenid gyda llwybrau tracfyrddau wedi’u gwneud o blastig sydd wedi’i ailgylchu a cherflun rhyngweithiol ym Mharc Eirias

Ychwanegodd Ian Connor: “Mae gyda ni hefyd dîm o wirfoddolwyr sy’n helpu i gadw’r ardal yn agored 365 diwrnod y flwyddyn oherwydd mae’n cael ei ddefnyddio’n aml, yn enwedig yn y boreau a gyda’r nos.”

Mae’r cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), sy’n dathlu ei 20fed blwyddyn yn 2018.

Hon yw pumed flwyddyn y cynllun dosbarthu arian ac mae wedi dosbarthu £160,000 i achosion haeddiannol. Cafodd llawer o hwnnw ei adennill trwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, sy’n defnyddio arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr, a’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae’r cynllun wedi’i fwriadu ar gyfer cyrff sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn, yn unol â blaenoriaethau’r Comisiynydd yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Eleni, mae 14 o grantiau ynghyd â chyfanswm o bron £40,000 wedi mynd i gefnogi cynlluniau gan gyrff cymunedol, a’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy bleidlais ar lein. Roedd 35 o brosiectau’n cystadlu, a chafodd bron i 10,000 o bleidleisiau eu bwrw.

Derbyniodd y Ffederasiwn ei wobr yn seremoni cyflwyno flynyddol Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Cynllun llwyddiannus arall yng Nghonwy oedd Canolfan Dewi Sant ym Mhensarn, Abergele, a dderbyniodd £2,500 er mwyn galluogi’r ganolfan i barhau i ddarparu cyfleusterau ar gyfer dros 30 o grwpiau cymunedol mewn ardal o dlodi eithriadol.

Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau magu plant a grwpiau sy’n cefnogi camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, magu plant ac addysg yn ogystal â Chlwb Swyddi, grŵp Cefnogi Gofalwyr, dulliau ymladd a chanu côr.

Dywedodd Theresa Curran, o’r Ganolfan: “Mae’r arian yn hanfodol i ni oherwydd rydym yn ariannu ein hunain ac mae’n rhoi diogelwch i’n ddefnyddiwr wybod ein bod yn medru parhau i ddarparu cyfleusterau sy’n hanfodol i’r gefnogaeth y mae gymaint ohonynt ei hangen.”

Canolfan Dewi Sant

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ar y cyd â’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki. Dywedodd Arfon Jones: “Rydw i’n hynod falch bod cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru am y chweched flwyddyn yn olynol.

Yn ddiweddar, mi wnes i lansio Polisi Gwerth Cymdeithasol, sy’n ceisio ehangu ein cefnogaeth i gymunedau lleol ac mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn gyfle i mi wneud yn union hynny.

Mae hon yn gronfa unigryw sy’n gadael i’n cymunedau ddewis pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol, ac mae’r ymateb yn dangos y gall cymunedau weithio efo’i gilydd i wneud ein llefydd cyhoeddus ni’n fwy diogel.

 Rydw i wedi ymweld â nifer o’r prosiectau oedd yn llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael argraff arbennig o dda o’r gwaith ddigwyddodd. Mae'n sicrhau bod ein cymunedau ni’n parhau i fod yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig i fyw, gweithio ac i ymweld â nhw.

Mae cyflawni Cymdogaethau Diogelach yn un o’r blaenoriaethau allweddol i mi yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ac rydw i’n falch iawn bod eich sefydliadau chi wedi datblygu prosiectau sy’n cefnogi’r Cynllun hwn.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki: “Cafodd yr arian rydych wedi’i dderbyn ei ddarparu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a thrwy asedau wedi’u cymryd oddi ar droseddwyr o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.

Mae hon yn neges arbennig o bwysig am fod proffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth y Llysoedd, yn golygu ein bod ni wedi gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo – yn eu pocedi.  

Dyma’r bumed flwyddyn o arian Eich Cymuned, Eich Dewis, ac yn ystod yr adeg hon mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adennill £2.3 miliwn o arian ac asedau. Daeth  £627,000 ohono yn ôl i Ogledd Cymru oddi wrth y Swyddfa Gartref, i gefnogi cynlluniau fel hyn.

Mae’n gyrru neges gadarnhaol iawn bod arian sydd wedi’i gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg i fod yn arian da.

Ychwanegodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru, David Williams:  “Rydym yn arbennig o falch o fedru helpu i weinyddu’r gronfa hon.

Rwy’n credu bod rhoi grantiau ar raddfa mor eang ar draws y cyfan o Ogledd Cymru, o’r pen pellaf yn y gorllewin i’r pen arall yn y dwyrain, yn gyrru neges gref i gymunedau i geisio cael rywfaint o’r arian hwn, mae o yna ar eu cyfer nhw.

Mae’n briodol iawn mai un o’r amodau ydi bod angen i bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn fod yn gwneud rhywbeth yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu’n rhoi sylw i drosedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd arall.

Mae’r nodau mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ceisio’u cyrraedd hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Trosedd ac Anhrefn y Comisiynydd, ac felly mae’n creu cylch rhinweddol.”