Date
Mae grŵp ymroddgar o wirfoddolwyr sy’n defnyddio arddangosiadau blodau i ehangu prydferthwch hanesyddol tref yn Sir Ddinbych wedi derbyn hwb – diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr.
Ers iddo gael ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl mae’r cynllun arloesol sy’n cael ei rhedeg gan Dinbych yn ei Blodau wedi llenwi cyfres o botiau plannu gydag amrywiaeth o flodau er mwyn helpu i lonni canol y dref.
Mae hefyd wedi sicrhau cefnogaeth byddin fechan o gynorthwywyr garddio, gan gynnwys plant ysgolion cynradd lleol, plant bach o feithrinfa ddydd a phreswylwyr cartref gofal, er mwyn tyfu’r planhigion, a darparu fframiau prifio, offer gardd, compost a photiau i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt er mwyn gwneud i bethau flodeuo.
Mae ganddynt hefyd rhestr aros o grwpiau, ysgolion ac unigolion sy’n dymuno helpu ond yn ddiweddar mi wnaeth y grŵp redeg allan o blanwyr ffres.
Ond mae’r broblem bellach wedi’i datrys ar ôl i’r grŵp dderbyn £2,000 gan gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.
Mae’r cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), sy’n dathlu ei 20fed blwyddyn yn 2018.
Hon yw pumed flwyddyn y cynllun dosbarthu arian ac mae wedi dosbarthu £160,000 i achosion haeddiannol. Cafodd llawer o hwnnw ei adennill trwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, sy’n defnyddio arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr, a’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae’r cynllun wedi’i fwriadu ar gyfer cyrff sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn, yn unol â blaenoriaethau’r Comisiynydd yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.
Eleni, mae 14 o grantiau ynghyd â chyfanswm o bron £40,000 wedi mynd i gefnogi cynlluniau gan gyrff cymunedol, a’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy bleidlais ar lein. Roedd 35 o brosiectau’n cystadlu, a chafodd bron i 10,000 o bleidleisiau eu bwrw.
Yn ystod seremoni gyflwyno Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, dywedodd Lyndsey Tasker, cadeirydd Dinbych yn ei Blodau: “Mi wnaethon ni ddechrau yn haf 2016 gyda dim ond llond llaw o bobl oedd eisiau gwneud i’r dref edrych ychydig yn fwy llon.
Mi wnaethon ni fynd at y cyngor lleol i ofyn iddynt os oedd unrhyw beth y gallem ei wneud i helpu. Mi wnaeth y cyngor ddweud eu bod nhw’n falch o’n cefnogaeth ond y byddai rhaid i ni wneud popeth ein hunain – felly dyna wnaethon ni.
Mi wnaethon ni brynu dros 20 o blanwyr, a chafodd nifer ohonynt eu noddi gan fusnesau lleol, a’u gosod o gwmpas canol y dref.
Mae llawer wedi cymryd rhan yn y cynllun gan gynnwys ysgolion, meithrinfa ddydd a phreswylwyr sydd â dementia mewn cartref gofal.
Rydym ni’n credu, trwy gysylltu â phlant pan fyddant yn ifanc, y gallwn feithrin ymdeimlad o falchder yn eu tref, ac yn ei dro bydd hynny’n golygu eu bod nhw’n llai tebygol o gymryd rhan mewn fandaliaeth yn y dyfodol.
Roedd rhai planhigion wedi cael eu dinistrio yn y flwyddyn gyntaf ond roedd yr ymateb lleol mor gryf rwy’n credu bod y fandaliaid wedi cael eu dychryn i ffwrdd ac mae hynny’n beth da.
Bellach mae gennym dros 100 o bobl o’r gymuned ehangach yn cymryd rhan yn y cynllun a byddai wedi bod yn ofnadwy pe na bai digon o blanwyr ar gael iddyn nhw fedru eu llenwi.
Felly mae’r £2,000 gan Eich Cymuned Eich Dewis wedi bod yn hwb enfawr i ni, yn enwedig gan fod ein holl gyllideb yn dod oddi wrth noddwyr, cyfraniadau a cheisiadau grant.”
Ddwywaith y flwyddyn mae Dinbych yn ei Blodau yn cynnal dyddiau plannu yn Neuadd y Dref a dywed Lyndsey y bydd yr arian yn caniatáu i’r grŵp brynu mwy o blanwyr ar gyfer digwyddiadau eleni.
Bydd yr arian hefyd yn mynd tuag at dalu costau dau dymor o blanhigion ar gyfer y gwlâu blodau a bylbiau, compost ffres, costau dyfrio, yswiriant ac arwyddion dwyieithog.
Cynllun llwyddiannus arall yn Sir Ddinbych oedd Cymdeithas Gymunedol Llanfwrog, a dderbyniodd grant o £2,500 gan Eich Cymuned Eich Dewis i gael mwy o ddiogelwch yn nau faes parcio y ganolfan gymunedol.
Mae hyn yn cynnwys rhwystrau mynedfa/allanfa, mesuryddion parcio ac ailosod yr arwyneb sy’n arwain i faes parcio Lon Fawr.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ar y cyd â’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki. Dywedodd Arfon Jones: “Rydw i’n hynod falch bod cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru am y chweched flwyddyn yn olynol.
Yn ddiweddar, mi wnes i lansio Polisi Gwerth Cymdeithasol, sy’n ceisio ehangu ein cefnogaeth i gymunedau lleol ac mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn gyfle i mi wneud yn union hynny.
Mae hon yn gronfa unigryw sy’n gadael i’n cymunedau ddewis pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol, ac mae’r ymateb yn dangos y gall cymunedau weithio efo’i gilydd i wneud ein llefydd cyhoeddus ni’n fwy diogel.
Rydw i wedi ymweld â nifer o’r prosiectau oedd yn llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael argraff arbennig o dda o’r gwaith ddigwyddodd. Mae'n sicrhau bod ein cymunedau ni’n parhau i fod yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig i fyw, gweithio ac i ymweld â nhw.
Mae cyflawni Cymdogaethau Diogelach yn un o’r blaenoriaethau allweddol i mi yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ac rydw i’n falch iawn bod eich sefydliadau chi wedi datblygu prosiectau sy’n cefnogi’r Cynllun hwn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki: “Cafodd yr arian rydych wedi’i dderbyn ei ddarparu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a thrwy asedau wedi’u cymryd oddi ar droseddwyr o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
“Mae hon yn neges arbennig o bwysig am fod proffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth y Llysoedd, yn golygu ein bod ni wedi gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo – yn eu pocedi.
Dyma’r bumed flwyddyn o arian Eich Cymuned, Eich Dewis, ac yn ystod yr adeg hon mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adennill £2.3 miliwn o arian ac asedau. Daeth £627,000 ohono yn ôl i Ogledd Cymru oddi wrth y Swyddfa Gartref, i gefnogi cynlluniau fel hyn.
Mae’n gyrru neges gadarnhaol iawn bod arian sydd wedi’i gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg i fod yn arian da."
Ychwanegodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru, David Williams: “Rydym yn arbennig o falch o fedru helpu i weinyddu’r gronfa hon.
Rwy’n credu bod rhoi grantiau ar raddfa mor eang ar draws y cyfan o Ogledd Cymru, o’r pen pellaf yn y gorllewin i’r pen arall yn y dwyrain, yn gyrru neges gref i gymunedau i geisio cael rywfaint o’r arian hwn, mae o yna ar eu cyfer nhw.
Mae’n briodol iawn mai un o’r amodau ydi bod angen i bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn fod yn gwneud rhywbeth yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu’n rhoi sylw i drosedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd arall.
Mae’r nodau mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ceisio’u cyrraedd hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Trosedd ac Anhrefn y Comisiynydd, ac felly mae’n creu cylch rhinweddol.”
Capsiwn: 1801Cymuned9: Dinbych yn ei Blodau oedd enillwyr Sir Ddinbych yng Ngwobrau Eich Cymuned Eich Dewis, yn y llun o’r chwith mae’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki, Lorna Scharer a Lyndsey Tasker o Dinbych yn ei Blodau, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a Chadeirydd PACT David Williams.