Skip to main content

Cynnydd yng nghost plismona o 17c yr wythnos yn unig i gartrefi'r Gogledd

Date

Date
Cynnydd yng nghost plismona o 17c yr wythnos yn unig i gartrefi'r Gogledd

Mae cost plismona yng ngogledd Cymru i godi 17c yr wythnos yn unig i gartrefi’r rhanbarth.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, bydd y cynnydd yn talu am 43 o swyddogion heddlu ac aelodau staff ychwanegol yn ogystal â diogelu swyddi 15 o heddweision.

Dywedodd Mr Jones mai'r cynnydd arfaethedig o 3.58 y cant fydd yr isaf o'r pedwar heddlu yng Nghymru a bydd ymysg yr isaf o'r 43 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr.

Bydd cynnig y Comisiynydd yn mynd gerbron cyfarfod o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ddydd Llun nesaf (Ionawr 22).

Hyd yn oed ar ôl y cynnydd, bydd perchenogion cartrefi Band D yn talu llai na £5 yr wythnos tuag at blismona yn y dreth gyngor.

Daw'r penderfyniad i gynyddu praesept yr heddlu yn sgîl cyhoeddiad diweddar Llywodraeth San Steffan na fydd yna newid yn y grant plismona o £71.7 miliwn a roddir i Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer 2018-2019.

Dyma'r tro cyntaf mewn chwe blynedd i’r grant beidio â chael ei dorri, ond gyda graddfa chwyddiant yn dri y cant, mewn termau real mae'n gyfystyr â thoriad o £2.15 miliwn yn y grant.

Dywedodd Mr Jones: "Rydym yn byw mewn cyfnod heriol ac mae hynny yr un mor wir am blismona ag ydyw am wasanaethau cyhoeddus eraill".

Mae lefel y praesept yn hanfodol i effeithiolrwydd yr heddlu wrth gadw Gogledd Cymru yn ardal ddiogel i fyw a gweithio ynddi ac i ymweld â hi, ac mae gosod y lefel yn un o'm prif gyfrifoldebau.

Mae cyllidebau plismona wedi bod o dan bwysau ers nifer o flynyddoedd a bydd hyn yn sicr yn parhau i fod yn wir gyda thros £7 miliwn o doriadau pellach i'r gyllideb yn yr arfaeth erbyn 2020.

Cynhaliais drafodaethau gyda'r Prif Gwnstabl ym mis Rhagfyr ynglŷn â'i gynlluniau a lefel y gyllideb sy’n ofynnol iddo allu gweithredu blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ac rydym wedi asesu y byddai cynnydd o 3.58 y cant yn ddigonol i gyflenwi ei gynlluniau."

Y llynedd fe wnaethom gyflogi 46 o bobl newydd ychwanegol ac eleni byddwn yn cyflogi 43 yn rhagor, a bydd llawer ohonynt yn rhyddhau mwy o swyddogion heddlu i gyflawni dyletswyddau rheng flaen."

Ychwanegodd Mr Jones: "Mae plismona dan bwysau mawr yn sgil gofynion newydd – erbyn hyn mae'r rheng flaen yn aml iawn ar-lein ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio ein hadnoddau yn unol â hynny.

Er gwaethaf y galwadau cynyddol yma, mae ansicrwydd yn parhau ynghylch yr hyn y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn ei dderbyn yn y blynyddoedd i ddod, ond mae'n rhaid cydbwyso'r angen i gyfarfod â'r heriau gwario hyn trwy gydnabod bod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd hyd yn oed i ddod o hyd i swm bach o arian ychwanegol.

Mae fy nghronfeydd wrth gefn mewn sefyllfa sefydlog ac iach, ac felly rwyf wedi penderfynu cynyddu'r dreth gyngor yn unig er mwyn ariannu gwariant y flwyddyn i ddod, ac i ddelio ag effaith gostyngiadau pellach yng ngrant y Llywodraeth os a phryd y digwydd hynny."