Date
Mae pennaeth heddlu yn annog pobl yng ngogledd Cymru i gymryd rhan mewn arolwg i fesur faint y mae pleidleiswyr yn barod i’w dalu am blismona’r rhanbarth.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones wedi lansio’r arolwg ar-lein wrth i heddlu ledled y wlad bwyso a mesur y newyddion ynghylch faint y mae’r Swyddfa Gartref yn ei ddarparu tuag at eu cyllideb – sef, tua 50 y cant o’r gost gyfan.
Daw’r gweddill o’r Dreth Gyngor yn dibynnu ar y praesept y mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd lleol yn gofyn amdano gan gynghorau.
Mewn ymgynghoriad â Phanel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, bydd Mr Jones yn gwneud y cynnig ar 22 Ionawr yng nghyd-destun y newyddion na fydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweld newid yn y grant a roddir gan y Swyddfa Gartref, sydd mewn termau real yn gyfystyr â thoriad o £2.1 miliwn yn y grant.
Daeth yr ergyd ariannol ddiweddaraf ar ben yr 20 y cant y mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gorfod torri o’u cyllideb ers 2012.
Y llynedd, gosodwyd y praesept ar 3.79 y cant, sef y cynnydd isaf yng Nghymru, a oedd yn gyfystyr â £9 y flwyddyn neu 17c yr wythnos, sy’n llai na chost darn o ffrwyth.
Ond, wrth i’r wasgfa ariannol barhau, nododd Arfon Jones yr anawsterau y mae penaethiaid yr heddlu yn eu hwynebu.
Dywedodd y cyn arolygydd heddlu: “Rydyn ni’n wynebu bygythiad deuol cyllidebau tynnach a throseddau sy’n gynyddol amrywiol ac yn cael eu gyrru gan y rhyngrwyd.
Ond yn gyntaf mae’n rhaid i ni gyrraedd praesept fel ein bod ni’n gwybod faint o arian sydd gennym ac, fel y llynedd, byddaf yn gofyn i bobl gogledd Cymru beth y maen nhw’n barod i dalu amdano.
Mewn democratiaeth mae’n rhaid i ni ymddiried yn y bobl a’r llynedd dangosodd canlyniadau’r arolwg fod y mwyafrif, sef 63 y cant o’r bron i 1,000 o bobl a gymerodd ran, o blaid cynnydd o bump y cant neu fwy.
Fel y bu pethau, nid oedd yn rhaid i ni fynd mor uchel â hynny, ond roedd cael y dystiolaeth honno o gefnogaeth gyhoeddus yn ddefnyddiol iawn pan oeddwn yn cyflwyno fy achos dros y Cynllun Heddlu a Throsedd
Ychwanegodd Mr Jones: “Wrth gyfrifo lefel gywir y praesept, rhaid i mi geisio cael cydbwysedd rhwng yr angen am ddoethineb ariannol gyda’m cyfrifoldeb i sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn wasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon sy’n gallu cyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
Yr hyn rydym yn ei weld yn awr yw ffurfiau mwy a gwahanol o droseddu gyda seiber-droseddu wedi tyfu gymaint nes bod rheng flaen plismona bellach ar-lein yn hytrach nag ar y stryd.
Ar ben hynny, mae gennym broblemau caethwasiaeth modern a cham-drin yn y cartref ac mae angen i ni sicrhau bod dioddefwyr yn ddigon hyderus y byddant yn cael gwrandawiad, i ddod ymlaen ac adrodd amdano.
Mae plismona dan bwysau mawr yn sgîl y galwadau cynyddol hyn. Er gwaethaf y galwadau cynyddol yma, mae ansicrwydd yn parhau ynghylch yr hyn y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn ei dderbyn yn y blynyddoedd i ddod ond mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng yr angen i gwrdd â’r heriau gwariant hyn trwy gydnabod bod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i swm bach o arian ychwanegol hyd yn oed.
Mae fy nghronfeydd wrth gefn mewn sefyllfa sefydlog ac iach, ac felly rwyf wedi penderfynu cynyddu’r dreth gyngor yn unig er mwyn ariannu gwariant y flwyddyn i ddod, ac i ddelio ag effaith gostyngiadau pellach yng ngrant y llywodraeth os a phryd y digwydd hynny.”
Er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg ewch i:
http://www.surveygizmo.com/s3/4064730/Ymgynghoriad-Praesept-Gogledd-Cymru-2018-19