Skip to main content

Dim newid yng nghyllideb yr heddlu yn golygu toriad o £2.1m mewn termau real

Date

Date
Troseddau casineb

Mae pennaeth heddlu wedi cyhuddo’r Llywodraeth o geisio twyllo’r cyhoedd drwy honni ei bod yn rhoi  hwb o £450 miliwn i gyllid yr heddlu - gan ddweud bod Heddlu Gogledd Cymru yn wynebu toriad mewn termau real o £2.1 miliwn.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn dweud bod dim newid yn y gyllideb a osodir ar heddluoedd ar draws y wlad yn cyfateb ar ôl ystyried chwyddiant mewn gwirionedd i doriad o dri y cant.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd yr heddlu ei hun, bod £270 miliwn o’r cynnydd honedig o £450 miliwn yn cael ei gyfrif fel rhan o’r penderfyniad i ganiatáu heddluoedd ar draws y wlad i godi praeseptau uwch ar drethdalwyr y Dreth Gyngor.

Mae’r £180 miliwn sy’n weddill yn dod o gynnydd y Swyddfa Gartref mewn dyraniadau canolog, o tua £130m i £945m yn yr arian sy’n cefnogi rhaglenni fel technoleg ddigidol; swyddogion arfog; a chyrff tebyg i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ac Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi yn ogystal â £50m ychwanegol ar gyfer gwrthderfysgaeth.

Yn ôl Mr Jones, mae’r ergyd ariannol ddiweddaraf yn dod ar ben toriad o 20 y cant a wnaed i gyllideb Heddlu Gogledd Cymru ers 2012.

Dywedodd: “Y ffaith amdani yw, er nad ydym yn gweld toriadau yn ein cyllid canolog fel y bu dros y saith mlynedd diwethaf, nid ydym yn gweld cynnydd chwaith ac ar adeg o chwyddiant mae hynny’n gyfystyr â thoriad mewn termau real.”

Fe fydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweld ariannu canolog yn cael ei rewi ar lefel y llynedd o £71.7 miliwn ac ychwanegodd Mr Jones: “Pan fyddwch chi’n ystyried chwyddiant hefyd mae hynny’n golygu toriad mewn termau real o £2.1 miliwn.

Dyma’r flwyddyn gyntaf ers 2010/11 lle nad yw grant y llywodraeth wedi cael ei dorri ac er nad yw’r setliad dros dro mor ddrwg ag yr oeddwn yn ei ofni, nid yw’n adlewyrchu’r ffaith bod yr heddlu bellach yn gwario bron i £30m y flwyddyn yn llai na phe bai’r toriadau hyn heb gael eu gorfodi.

Rwy’n siomedig hefyd, er bod y llywodraeth wedi cymeradwyo cynnydd ychwanegol o un y cant mewn cyflogau ein swyddogion heddlu gweithgar, nid oes arian ychwanegol ar gael i gwrdd â’r gost yma.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn wynebu penderfyniadau caled ynghylch a ddylid gweithredu toriadau pellach er mwyn ariannu’r codiad cyflog neu gynyddu’r Dreth Gyngor hyd at £12 yr eiddo, a fydd wrth gwrs, yn taro ein hetholwyr sydd eisoes yn teimlo’r esgid yn gwasgu.

Ar yr un pryd, mae’n rhaid i ni osod blaenoriaethau, nodi anghenion sy’n dod i’r amlwg a sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn gallu denu ymgeiswyr o’r safon uchaf.

Rydym yn byw mewn cyfnod heriol ac mae hynny’n wir am blismona yn ogystal â rhannau eraill o gymdeithas.

Mae lefel y praesept yn hanfodol i effeithiolrwydd yr heddlu wrth gadw gogledd Cymru yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ac mae pennu ei lefel yn un o’m prif gyfrifoldebau.

Mae cyllidebau plismona wedi bod dan bwysau ers nifer o flynyddoedd a bydd hyn yn sicr yn parhau i fod yn wir gyda thros £7 miliwn mewn toriadau i’r gyllideb i’w gweithredu erbyn 2020.”Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda’r Prif Gwnstabl am ei gynlluniau a lefel y gyllideb sydd ei hangen arno i weithredu’r cynlluniau hynny, yn unol â’m Cynllun Heddlu a Throsedd fy hun a’i flaenoriaethau.”

Mae’r blaenoriaethau hynny yn cynnwys yr adnoddau sy’n canolbwyntio ar leihau niwed mewn perthynas â’r bobl fwyaf bregus, ac ar yr un pryd mae mwy o adrodd am drais yn y cartref oherwydd ymatebion mwy cydymdeimladol a gwell i gwynion o’r fath a rhoi caethwasiaeth modern yn ôl ar yr agenda.

Ychwanegodd Mr Jones: “Mae plismona dan bwysau mawr gyda’r gwasanaeth yn wynebu gofynion newydd - pwy fyddai wedi meddwl bod y mwyafrif o droseddau yng ngogledd Cymru bellach yn cael eu cyflawni ar-lein yn hytrach nag ar y stryd.

Er gwaethaf y galwadau cynyddol hyn, mae ansicrwydd yn parhau ynghylch yr hyn y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn ei dderbyn mewn blynyddoedd i ddod, ond mae’n rhaid cydbwyso’r angen i gwrdd â’r heriau gwariant hyn trwy gydnabod bod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd canfod hyd yn oed swm bach o arian ychwanegol.”