Date
Mae pennaeth heddlu yn galw am ddeddfwriaeth newydd galed i gosbi’r arfer rhywiol annifyr o gip-fflachio (‘upskirting’).
Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, dylai tynnu ffotograffau cudd o dan ddillad merch heb ei chydsyniad fod yn drosedd rhywiol.
Mae’r bobl wyrdroedig sy’n tynnu’r lluniau yn aml yn gwneud pethau hyd yn oed yn fwy gofidus i’r dioddefwyr drwy uwchlwytho’r delweddau ar y rhyngrwyd.
Mae ymgyrch ar-lein gan un dioddefwr, Gina Martin, yr awdur 25 oed o Lundain, eisoes wedi sicrhau dros 70,000 o lofnodion.
Mae Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, y mae Mr Jones yn aelod ohoni, hefyd wedi siarad yn erbyn yr “arfer ymwthiol ac ofnadwy hyn”.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei hannog i wneud ymddygiad o’r fath yn drosedd ac i gyflwyno deddfwriaeth yn y Mesur Llysoedd arfaethedig er mwyn diweddaru Deddf Troseddau Rhywiol 2003.
Dywedodd Mr Jones: “Yn sicr, dylai fod yno ddeddfwriaeth newydd fel y gall y gyfraith ddal i fyny gyda phroblemau newydd sy’n digwydd heddiw. Oherwydd y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod yna fwlch yn y gyfraith.
Mae’n ymddangos bod cip-fflachio yn broblem gynyddol ac mae’n rhywbeth y dylem weithredu arno i sicrhau bod ymddygiad o’r fath yn cael ei gosbi yn y ffordd briodol.
Mae’n enghraifft glasurol o gam-drin merched mewn man cyhoeddus ac nid oes lle mewn cymdeithas i’r math hwn o ymddygiad cwbl amhriodol.
Ac ar ben popeth mae’r troseddwr yn aml yn gwneud y gweithredoedd hyn yn waeth trwy uwchlwytho’r delweddau ar y rhyngrwyd.
Mae sbecian neu voyeuriaeth eisoes yn cael ei ystyried fel trosedd ac nid oes rheswm yn fy marn i pam na ddylid trin cip-fflachio yn union yr un ffordd.
Trwy greu trosedd rhywiol benodol sy’n cwmpasu’r arfer o gip-fflachio, byddwn yn darparu mwy o’r adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu er mwyn helpu i ddod â’r rhai sy’n cyflawni’r gweithredoedd annifyr hyn o flaen eu gwell.
Byddai gwneud hyn yn drosedd rhywiol benodol yn golygu rhoi cydnabyddiaeth briodol o fwriad y troseddwr a’r trallod go iawn a’r teimlad o darfu ar breifatrwydd a achosir i’r dioddefwr. Yn ogystal, byddai’n caniatáu ar gyfer yr amrediad o opsiynau dedfrydu sydd ar gael mewn perthynas â throseddau rhywiol
Byddai diweddaru’r gyfraith hefyd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r ymddygiad gwyrdroedig yma, yn rhoi mwy o eglurder i’r heddlu ynglŷn â pha gamau y gallant eu cymryd i erlyn troseddwyr ac ar yr un pryd yn anfon neges glir bod y gweithredoedd hyn yn hollol annerbyniol.
Rwy’n galw ar y Llywodraeth i weithredu’n gyflym ac mewn modd penderfynol er mwyn sicrhau na chaiff cyfiawnder ei wadu mwyach i’r rhai sydd eisoes wedi dioddef o’r arfer gwarthus yma. Dylai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder ystyried cynnwys mesurau yn y Mesur Llysoedd arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r arfer hynod o annymunol yma a diweddaru’r gyfraith i ddiogelu dioddefwyr.
“Yn syml iawn, troseddu rhywiol yw hyn a dylid ei drin felly.”