Skip to main content

Clwb pêl-droed yn Wrecsam yn cael hwb o arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr

Date

Date
Wrexham Inclusion Football Club

Mae clwb pêl-droed yn Wrecsam sy’n taclo trafferthion iechyd meddwl, gwahaniaethu a digartrefedd wedi cael rhodd o £2,500 – diolch i arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr.

Cafodd Clwb Pêl-droed Wrexham Inclusion ei ffurfio yn Acrefair yr hydref diwethaf i gefnogi pobl ag anableddau, trafferthion iechyd meddwl, ADHD, awtistiaeth a hefyd bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig neu LGBT neu bobl y mae bwlio neu ddigartrefedd wedi effeithio arnynt.

Dechreuodd y clwb trwy ddefnyddio pêl-droed fel ffordd o gynorthwyo pobl i gyfarfod a chael hwyl. Ond mae wedi tyfu erbyn hyn i drefnu cyfleoedd i wirfoddoli a chael addysg oedolion i’r criw cynyddol o bobl sy’n defnyddio ei wasanaethau.

Dechreuodd y clwb ymgyrch ‘Adeiladu’r Bws’ i brynu bws mini 17 sedd, a chafodd hynny grant o £2,500 oddi wrth gronfa arbennig wedi’i rhedeg gan gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.

Mae’r cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), sy’n dathlu ei 20fed blwyddyn yn 2018.

Hon yw pumed flwyddyn y cynllun dosbarthu arian ac mae wedi dosbarthu £160,000 i achosion haeddiannol. Cafodd llawer o hwnnw ei adennill trwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, sy’n defnyddio arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr, a’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae’r cynllun wedi’i fwriadu ar gyfer cyrff sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn, yn unol â blaenoriaethau’r Comisiynydd yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Eleni, mae 14 o grantiau ynghyd â chyfanswm o bron £40,000 wedi mynd i gefnogi cynlluniau gan gyrff cymunedol, a’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy bleidlais ar lein. Roedd 35 o brosiectau’n cystadlu, a chafodd bron i 10,000 o bleidleisiau eu bwrw.

Roedd y seremoni gyflwyno ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Yno dywedodd rheolwr cyffredinol y clwb, Wayne Greenshields: “Rydan ni wedi tyfu’n gyflym iawn ac yn amcangyfrif y bydd gennym ni dros 100 o chwaraewyr gweithredol erbyn diwedd eleni. Felly ein tîm ni fydd y tîm pêl-droed iechyd meddwl mwyaf ar sail gymunedol yn y Deyrnas Unedig, a hefyd un o’r rhai mwyaf llwyddiannus.

Bob wythnos byddwn yn cefnogi dros 50 o bobl o 11 mlwydd oed i dros 60, gan roi llais iddyn nhw a llwyfan lle na fydd pobl yn barnu eu hanes yn y gorffennol, ond lle byddwn yn hytrach yn dathlu gwahaniaeth a newid.

Fe ddechreuodd hyn oll efo pêl-droed ac mae pethau wedi mynd lawer pellach erbyn hyn. Rydan ni mewn meysydd fel gwirfoddoli lle, er enghraifft, roedden ni’n gweithio yng ngardd canolfan anabledd leol, ac addysg oedolion lle rydan ni’n cynnig dosbarthiadau iaith a chyrsiau bwyta’n iach.

Mae’r clwb yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr a byddwn yn gweithio’n agos efo ysgolion a sefydliadau lleol eraill.

Efo’r pêl-droed, rydan ni wedi mynd â’r chwaraewyr dros 17,000 milltir i gystadlaethau mewn gwahanol rannau o’r wlad, yn teithio yng ngheir preifat ein gwirfoddolwyr ni yn bennaf, felly bydd y grant oddi wrth Eich Cymuned, Eich Dewis yn hwb anferth i ni.

Rydan ni hefyd am ddefnyddio’r bws mini fel cludiant i ddigwyddiadau eraill, a gallai’r arian yma olygu y gallwn brynu cerbyd newydd yn hytrach nag un ail law.”

Y cynllun arall yn sir Wrecsam sydd wedi llwyddo i gael arian ydi Clwb Pêl-droed Rhosllanerchrugog, gafodd grant o £2,500.

Bydd y clwb hwnnw’n defnyddio pêl-droed ac amrediad o weithgareddau cymdeithasol i hyrwyddo cynhwysiad ymysg gwryw, benyw, grwpiau ethnig a’r anabl. Byddant yn gallu datblygu eu gwaith ymhellach efo’r grant, trwy ddarparu offer ac adnoddau eraill.

Mae ysgrifennydd y clwb, Mike McLellan a’r cynghorydd lleol David Maddocks wedi bod yn gyrru’r cynllun hwn ymlaen. Dywedodd Mike: “Fe wnaethom ni ddechrau o ddim byd yr haf diwethaf, felly bydd y grant yma’n hwb mawr i ni.

Rydan ni am ei ddefnyddio i brynu dillad chwaraeon ac i dalu am gostau eraill fel hurio bysys, cofrestru’r tîm a chyfleusterau storio ger y cae chwarae.

Fe wnaethon ni lansio’r clwb trwy’r cyfryngau cymdeithasol, heb sylweddoli pa mor llwyddiannus fydden ni, ac erbyn hyn bydd tua 60 o bobl ifanc yn dod i’r sesiynau.

Ein nod ni ydi gweithio mewn partneriaeth efo swyddogion lleol yr heddlu ac estyn allan tu draw i bêl-droed trwy wahodd pobl ifanc i’r ganolfan gymunedol leol ar gyfer sgyrsiau ar bynciau fel gwella’r ardal, cadw i ffwrdd oddi wrth ymddygiad gwrth gymdeithasol a rheoli ysbwriel.

Byddwn hefyd yn dod â phobl eraill i mewn o’r gymuned, er mwyn i wahanol genedlaethau gael cymysgu efo’i gilydd.”

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ar y cyd â’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki. Dywedodd Arfon Jones: “Rydw i’n hynod falch bod cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru am y chweched flwyddyn yn olynol.

Yn ddiweddar, mi wnes i lansio Polisi Gwerth Cymdeithasol, sy’n ceisio ehangu ein cefnogaeth i gymunedau lleol ac mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn gyfle i mi wneud yn union hynny.

Mae hon yn gronfa unigryw sy’n gadael i’n cymunedau ddewis pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol, ac mae’r ymateb yn dangos y gall cymunedau weithio efo’i gilydd i wneud ein llefydd cyhoeddus ni’n fwy diogel.

Rydw i wedi ymweld â nifer o’r prosiectau oedd yn llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael argraff arbennig o dda o’r gwaith ddigwyddodd. Mae'n sicrhau bod ein cymunedau ni’n parhau i fod yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig i fyw, gweithio ac i ymweld â nhw.

Mae cyflawni Cymdogaethau Diogelach yn un o’r blaenoriaethau allweddol i mi yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ac rydw i’n falch iawn bod eich sefydliadau chi wedi datblygu prosiectau sy’n cefnogi’r Cynllun hwn.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki: “Cafodd yr arian rydych wedi’i dderbyn ei ddarparu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a thrwy asedau wedi’u cymryd oddi ar droseddwyr o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.

Mae hon yn neges arbennig o bwysig am fod proffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth y Llysoedd, yn golygu ein bod ni wedi gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo – yn eu pocedi.  

Dyma’r bumed flwyddyn o arian Eich Cymuned, Eich Dewis, ac yn ystod yr adeg hon mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adennill £2.3 miliwn o arian ac asedau. Daeth  £627,000 ohono yn ôl i Ogledd Cymru oddi wrth y Swyddfa Gartref, i gefnogi cynlluniau fel hyn.

Mae’n gyrru neges gadarnhaol iawn bod arian sydd wedi’i gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg i fod yn arian da.

Ychwanegodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru, David Williams:  “Rydym yn arbennig o falch o fedru helpu i weinyddu’r gronfa hon.

Rwy’n credu bod rhoi grantiau ar raddfa mor eang ar draws y cyfan o Ogledd Cymru, o’r pen pellaf yn y gorllewin i’r pen arall yn y dwyrain, yn gyrru neges gref i gymunedau i geisio cael rywfaint o’r arian hwn, mae o yna ar eu cyfer nhw.

Mae’n briodol iawn mai un o’r amodau ydi bod angen i bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn fod yn gwneud rhywbeth yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu’n rhoi sylw i drosedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd arall.

Mae’r nodau mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ceisio’u cyrraedd hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Trosedd ac Anhrefn y Comisiynydd, ac felly mae’n creu cylch rhinweddol.”