Date
Mae dyn ifanc a arferai fod yn ddigartref ac yn arfer cysgu mewn ogof ar y Gogarth uwchlaw Llandudno wedi cael ei alw'n esiampl i’w ddilyn ar ôl llwyddo i weddnewid ei fywyd.
Siaradodd Jamie McAdam, 29 oed, o'r Rhyl yn deimladwy am yr hunllef o fyw ar y strydoedd a dioddef y sarhad o gael pobl yn piso ar ei ben pan oedd yn cysgu ger mynedfa siop.
Datgelodd ei stori i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, a oedd ar ymweliad ag ARC, sef canolfan Cyflawni Adferiad yn y Gymuned yn Y Rhyl.
Mi wnaeth staff ymroddedig ARC helpu Jamie i ddod oddi ar y strydoedd a chymryd y camau cyntaf tuag at gyflawni ei freuddwyd o gael gyrfa yn y diwydiant arlwyo.
Gwahoddwyd Mr Jones i gael ei dywys o gwmpas y ganolfan ysbrydoledig gan y sylfaenydd Ruth Cole, oedd yn arfer bod yn ddefnyddiwr cyffuriau, ac a enillodd Wobr Cyflawniad Eithriadol y Comisiynydd yn gynharach eleni am ei gwaith gyda'r digartref.
Cafodd y ganolfan galw heibio, a leolir yng Nghanolfan Dewi Sant yn Stryd Clwyd, ei hagor gan Ruth yn 2006 ac ar hyn o bryd mae'n darparu llety argyfwng a gwasanaethau hanfodol eraill, fel cyfleusterau golchi dillad ynghyd â mynediad i'r ffôn a'r rhyngrwyd, ar gyfer tua 140 o bobl ddigartref bob wythnos.
Yn gynharach eleni, derbyniodd Ruth Wobr Cyflawniad Eithriadol y Comisiynydd Heddlu a Throsedd mewn seremoni i anrhydeddu arwyr cymunedol.
Diolch i'r cymorth hanfodol a dderbyniodd gan ARC mae Jamie bellach yn adeiladu bywyd newydd iddo'i hun ac erbyn hyn mae’n gynorthwyydd cegin gwirfoddol yn y ganolfan.
Meddai Jamie: "Rwy’n dod yn wreiddiol o'r Rhyl, ac rwy'n dal i fyw yma, ac mi es i mewn i'r system ofal pan oeddwn i'n reit ifanc.
Pan ddes i allan ohono pan oeddwn yn 18 oed, cefais fy hun heb unrhyw le i fyw ac am bedair blynedd roeddwn i'n cysgu ar y stryd.
Mi fyddwn yn cysgu’r nos mewn unrhyw le y gallwn ddod o hyd iddo, gan gynnwys mewn pabell neu yn un o'r ogofâu o dan y Gogarth yn Llandudno. Mi wnes i wneud fy ffordd i ardaloedd eraill, fel Manceinion, Llundain a'r Alban, gan gysgu yn yr awyr agored bob amser.
Yn y pen draw mi wnes i droi at yfed alcohol a chymryd cyffuriau oherwydd bod anghofio popeth yn helpu i leihau’r boen a'r ansicrwydd o fod yn ddigartref.
Roedd bod allan ar y strydoedd yn brofiad ofnadwy oherwydd bod pobl yn eich sarhau ac nid ydych chi byth yn teimlo'n ddiogel. Mae pobl feddw eithaf parchus wedi piso ar fy mhen yng nghanol y nos ac mae rhai o fy ffrindiau wedi cael eu brifo'n wael iawn."
Ychwanegodd: "Yn y diwedd cefais fy nghyfeirio at y lloches nos yn y Rhyl ac oddi yno mi wnes i ffeindio fy ffordd i ganolfan galw heibio ARC tua 18 mis yn ôl. Mae wedi bod yn achubiaeth go iawn i mi ac mae wedi fy helpu i drawsnewid fy mywyd.
Roeddwn weithiau'n gallu cael gwely am y noson yno ac roeddwn yn defnyddio'r cyfleusterau eraill fel y ffôn er mwyn gallu cysylltu ag asiantaethau eraill a dechrau'r broses o ddod o hyd i le parhaol i fyw, ac rwyf bellach wedi llwyddo i wneud hynny.
Un o'r pethau mwyaf positif i mi yw fy mod wedi dechrau gwneud gwaith gwirfoddol yn y ganolfan. Cyn i mi fynd yn ddigartref, mi wnes i dreulio ychydig o amser yn y busnes arlwyo, a rŵan rwy'n gwneud pedair awr y dydd am ychydig ddyddiau'r wythnos yn y gegin yn y ganolfan.
Rwy'n helpu i wneud y te a thost i bobl yn y boreau a pharatoi'r prydau bwyd canol dydd.
Rydw i'n ei fwynhau'n fawr ac rwy'n gobeithio y bydd yn fy helpu i gyflawni fy mreuddwyd o gael swydd gyflogedig mewn arlwyo."
Syniad Ruth Cole, 50 oed, o Abergele yw ARC, a sefydlwyd yn 2003. Cafodd Ruth gyfnod anodd yn eu harddegau a’u hugeiniau cynnar, ond mi ddaeth drwyddi a llwyddo i fynd i’r brifysgol a chael gradd mewn troseddeg a chymdeithaseg.
Mae gan yr elusen ganolfannau galw heibio mynediad agored yn Y Rhyl ac Eglwys Dewi Sant ym Mae Colwyn, ac mae'n rhedeg y lloches nos yn Y Rhyl a banc bwyd yng Nghonwy.
Mae hefyd yn goruchwylio dwy fenter gymdeithasol - NOMAD, sy'n darparu arlwyo corfforaethol allanol, a siop gymunedol ym Mhensarn, sy'n helpu i dalu am gyfleusterau am ddim fel te a defnydd o ffôn ar gyfer pobl sy'n agored i niwed yn yr ardal honno.
Yn ôl y cyfarwyddwr gweithrediadau newydd, Melanie Newport, mae canolfan galw heibio'r Rhyl yn brysur drwy’r adeg.
Dywedodd: "Mae tua 140 o bobl yn galw yma bob wythnos, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn dod o ardal y Rhyl. Mae'r ganolfan ar gyfer pobl ddigartref, pobl sydd â llety bregus, sy'n golygu eu bod mewn llety ond sydd â ffordd o fyw anhrefnus, gyda hanes o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol neu broblemau iechyd meddwl.
Mae gennym saith gwely argyfwng ar gael, ac mae galw mawr amdanynt, a gall pobl weithiau fynd i hostel am gymorth mwy dwys a helpu i ddod o hyd i le parhaol i fyw."
Dywedodd Ruth Cole: "Dim ond tri aelod o staff cyflogedig a thîm o wirfoddolwyr sydd gennym. Ond er ein bod yn fach, rwy'n gobeithio ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth.
Y syniad yw creu partneriaethau gyda'r gwahanol asiantaethau a all fod o gymorth i'r rhai sy'n dod i'r ganolfan.
Mae'r rhai sy'n dod yma yn amrywio o bobl ifanc 18 oed i bobl hŷn yn eu wythdegau. Mae’r dynion a’r merched sy'n cerdded trwy ein drws mewn angen gwirioneddol ac ni yw'r lle cyntaf y mae’r bobl yma’n troi ato a'r peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei wneud yw ennill eu hymddiriedaeth.
Rydym ar agor pum niwrnod yr wythnos, o 10yb tan 2.30yp ac ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener rydym yn ail agor o 3-5yp. Rydym yn cael ein hariannu gan y Bwrdd Cynllunio Ardal, sy'n darparu gwasanaethau diod a chyffuriau ar ran Llywodraeth Cymru, ond rydym yn chwilio am fwy o gyllid o ffynonellau eraill er mwyn ehangu'r gwasanaeth.
Yn y seremoni lle cawsom Wobr y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, mi wnes i wahodd Mr Jones i ddod draw i'r ganolfan i weld drosto'i hun sut y mae'n gweithredu, ac roedd yn fraint go iawn i groesawu rhywun mor uchel ei broffil."
Dywedodd Arfon Jones: "Mae Ruth wedi ymroi ar hyd ei gyrfa i gefnogi ac ailsefydlu pobl sy'n cael trafferth gyda dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol a digartrefedd ac mae ei helusen, ARC, wedi creu prosiectau sydd wedi eu hanelu at helpu’r bobl yma i fynd yn ôl i fyw bywydau annibynnol a sefydlog.
Cefais argraff ffafriol dros ben o’r ganolfan galw heibio yn ystod fy ymweliad. Fel y gwnes i sylweddoli o'r 12 awr rwyf wedi eu treulio ar strydoedd Wrecsam yn ddiweddar i dynnu sylw at sefyllfa pobl ddigartref, gall fod yn fywyd eithriadol o ddiflas. Mae pobl yn y sefyllfa hon yn yfed neu'n cymryd cyffuriau i fynd a’u meddyliau oddi ar eu sefyllfa.
Rydw i wir wedi hoffi'r hyn a welais yng nghanolfan y Rhyl ac rwy'n credu'n gryf y dylai fod yn fodel i ni ddarparu gwasanaethau i bobl ddigartref mewn ffordd llawer mwy cyfannol mewn ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru.
Yn sicr, dylai fod mwy o leoedd fel hyn – efallai rhwydwaith o ganolfannau galw heibio tebyg wedi eu lleoli’n strategol ar draws y rhanbarth.
Rwy'n credu y byddai darparu gyfleusterau go iawn i bobl a rhoi rhywbeth iddynt wneud â'u hamser yn helpu i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Jamie McAdam a chlywed sut mae'r ganolfan wedi ei helpu i gael bywyd gwell."