Date
Mae pennaeth heddlu sydd wrth ei fodd efo pêl-droed wedi annog cefnogwyr i fod ar eu hymddygiad gorau yn y gêm ddarbi gyntaf ers blynyddoedd rhwng Wrecsam a Chaer fydd yn rhydd o’r “swigen”.
Ymgyrchodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, dros godi’r cyfyngiadau teithio dadleuol ar y gêm ddarbi sy'n un o’r mwyaf dwys ymysg clybiau pêl-droed gwledydd Prydain.
Daw'r cais i’r cefnogwyr gan Mr Jones, sy’n ddeilydd tocyn tymor Wrecsam, o flaen y gêm ddiweddaraf rhwng y ddau hen elyn yn Stadiwm Swansway Chester, nos Fercher, Tachwedd yr 8fed (gyda’r gic gyntaf am 7.45yh).
Bydd cefnogwyr pêl-droed ar draws y wlad yn gwylio wrth i BT Sport ddarlledu’r gêm Cynghrair Genedlaethol Vanarama yn fyw.
Yn y blynyddoedd diwethaf roedd y dosbarthiad "swigen" yn golygu bod rhaid i’r holl gefnogwyr deithio i gemau oddi cartref ar gludiant dynodedig – bysiau’r clwb fel arfer – ac o bwyntiau codi penodol er mai dim ond 14 milltir sydd rhwng y ddau glwb.
Gêm gyfartal 1-1 yng Nghaer oedd canlyniad cyfarfyddiad diwethaf y ddau dîm ar Ionawr yr 21ain y tymor diwethaf, pan welodd Caer dorf uchaf y tymor, 3,961, ac mi gynhaliwyd y gêm heb unrhyw gamymddwyn.
Dywedodd Mr Jones: "Hoffwn annog y ddau set o gefnogwyr i fod ar eu hymddygiad gorau ar gyfer y gêm hon.
"Er fy mod i’n falch bod trefniadau plismona arferol ar waith ar gyfer y gêm, byddai'n well pe bai'r gêm yn cael ei chwarae am 12 hanner dydd ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul ac nid gyda’r nos, ni ddylai hawliau teledu fod yn flaenoriaeth dros ddiogelwch y cyhoedd.
“Roeddwn bob amser o'r farn nad oedd angen cyfyngiadau teithio ar y gêm ac roeddwn wedi mynegi’r farn honno wrth Heddlu Sir Gaer a Heddlu Gogledd Cymru.
"Rwy'n falch o ddweud bod cefnogwyr Wrecsam a Chaer wedi cyfiawnhau fy hyder ynddynt gan ddangos bod modd chwarae'r gemau hyn mewn awyrgylch o gystadleuaeth gyfeillgar.
"Rydym am i gefnogwyr fynd i gemau gyda'u ffrindiau a chefnogi eu timau, a bloeddio a chanu – oherwydd dyna sy'n rhoi awyrgylch mor fywiog ac angerddol i'n pêl-droed.
“Cyn belled â'i fod yn parhau i fod yn hwyliog, dyna'r ffordd orau o sicrhau bod gemau rhwng y ddau glwb yn gallu digwydd gyda theithio annibynnol yn ôl ac ymlaen o’r gemau a fydd yn ei dro yn sicrhau bod cymaint o gefnogwyr â phosibl yn gallu mwynhau awyrgylch arbennig gemau darbi lleol.”
Y tymor diwethaf, dywedodd y ddau wasanaeth heddlu a'r clybiau y byddai'r cyfyngiadau'n cael eu hadolygu ar ddiwedd y tymor gyda'r bwriad o ddod â statws “swigen” y gêm i ben cyn belled â bod y gemau'n cael eu cynnal yn heddychlon.
Bu hanes o drafferth rhwng y ddau set o gefnogwyr a gosodwyd y cyfyngiadau teithio gan y ddau wasanaeth heddlu am resymau diogelwch.
Ychwanegodd Mr Jones: "Fe wnaeth y cefnogwyr ymddwyn yn ardderchog y tymor diwethaf yng Nghaer ac yn y Cae Ras, ac rwy’n gobeithio y bydd yna awyrgylch dda iawn yn y gêm yn Stadiwm Swansway Chester.
"Os bydd pethau'n mynd yn dda eto, y gobaith wedyn yw y bydd y gêm yn parhau i gael ei chynnal o dan amodau arferol a fyddai’n ganlyniad gwych i'r ddau glwb a'u cefnogwyr.
“Mae angen i'r cefnogwyr hynny fod yn ymwybodol, pe bai trafferth yn cychwyn yng Nghaer, y gallem weld ail-osod y cyfyngiadau “swigen” am y dyfodol rhagweladwy a fyddai unwaith eto yn difetha ein mwynhad o gystadleuaeth sydd yn un o’r rhai mwyaf dwys ymysg clybiau pêl-droed gwledydd Prydain.”