Date
Mae pennaeth heddlu yn galw am ddull newydd radical o ddelio â phobl sy’n creu’r gofynion mwyaf ar adnoddau Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau cyhoeddus eraill.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru eisiau sefydlu canolfan ymyrraeth gynnar er mwyn ceisio lleihau’r galw cynyddol.
Mae Mr Jones yn pryderu bod yr heddlu yn gynyddol “yn gorfod codi’r darnau” oherwydd toriadau mewn gwasanaethau eraill.
Mewn sawl achos, meddai, mae’r heddlu’n gwneud gwaith asiantaethau eraill drostynt.
Cynhyrchir y rhan fwyaf o’r gwaith heddlu nad oedd yn waith craidd i’r gwasanaeth yn aml iawn gan bobl sy’n agored i niwed gyda phroblemau cymhleth sy’n gysylltiedig â iechyd meddwl, digartrefedd a defnydd cyffuriau problemus.
Byddai canolfan ymyrraeth gynnar amlasiantaeth yn gallu darparu mwy o gefnogaeth i’r bobl hynny er mwyn mynd i’r afael â’r achosion gwaelodol er mwyn lleihau niwed a lleihau’r galw ar yr un pryd.
Roedd yn hanfodol, meddai Mr Jones, mewn adeg o lymder i weithio’n fwy effeithiol oherwydd na allai’r heddlu lenwi’r bylchau a achosir gan doriadau gwariant a osodir gan gynghorau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.
Mae’r comisiynydd bellach wedi ysgrifennu at bob un o’r chwe chyngor sir yng ngogledd Cymru yn gofyn iddynt roi gwybod iddo am unrhyw doriadau sydd yn yr arfaeth a fyddai’n effeithio ar faterion trosedd ac anhrefn.
Un enghraifft oedd y cynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i dorri ariannu naw o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn y dref.
Roedd y cyngor wedi dewis ariannu’r swyddi hynny eu hunan ers nifer o flynyddoedd ac roedd hynny bob amser ar ben yr hyn yr oedd Heddlu Gogledd Cymru yn ei ddarparu.
Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu: “Cyhoeddodd Cyngor Wrecsam mai un o’u cynigion i arbed arian oedd torri Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu oherwydd eu bod yn ariannu yn ychwanegol at yr hyn y mae Heddlu Gogledd Cymru yn ei ddarparu.
Yn hanesyddol, maent wedi talu’n ychwanegol am naw Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu i’r fwrdeistref sirol ac maent yn bwriadu arbed £140,000 trwy gael gwared arnynt.
Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Bu dadl y llynedd gyda chynghorwyr Sir Ddinbych a oedd am i mi roi mwy o arian i ddarpariaeth teledu cylch cyfyng yn Sir Ddinbych ar ôl gwneud toriadau enfawr yn eu cyfraniad nhw eu hunain.
Os yw awdurdodau lleol yn gwneud toriadau yn eu cyllidebau diogelwch cymunedol, ni ddylent ddisgwyl i mi lenwi’r bwlch oherwydd ar ddiwedd y dydd mae’r arian yn dod o’r un lle.
Rwyf hefyd yn gweithio gyda chyllideb llai, felly byddai hyn yn cymryd o’r naill law i’w roi i’r llall.
Tynnodd adroddiad cenedlaethol diweddar sylw at nifer y marwolaethau yn y ddalfa ond ni ddylai llawer o’r bobl hynny fod wedi cael eu cadw yn y lle cyntaf oherwydd bod ganddynt broblemau iechyd meddwl.
Pe bai darpariaeth ddigonol wedi bod ar gael iddynt yn y gymuned efallai y byddai rhai ohonynt yn fyw heddiw.
Yn aml iawn bellach mae’r heddlu yn gorfod llenwi’r bwlch, ac yna pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le ni sy’n cael y bai, er ein bod mewn gwirionedd yn gweithio ar ran asiantaethau eraill nad ydynt wedi rhoi’r adnoddau priodol yn eu lle.
Rwy’n benderfynol bod angen stopio pethau fel hyn ac na all awdurdodau lleol yn arbennig ddibynnu ar gyllideb y comisiynydd heddlu a throsedd i lenwi’r bylchau y maen nhw’n eu creu.
Mae iechyd meddwl yn enghraifft lle rydym yn defnyddio llawer iawn o adnoddau i ddiogelu pobl sy’n dioddef o salwch meddwl oherwydd diffyg gwasanaethau seiciatrig cymunedol.
Y bobl sy’n achosi’r gofynion trymaf nid yn unig ar yr heddlu, ond ar y gwasanaeth tân, a’r gwasanaeth ambiwlans, a’r ysbyty, yr awdurdod lleol a’r gwasanaethau cymdeithasol yw’r rhai sy’n dioddef dro ar ol tro.
Maent yn bobl agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth ac os gallwn fynd i’r afael â’r anghenion hynny, gallwn leihau’r gofynion y maent yn eu creu.
Mae’r hyn rwy’n ei gynnig yn golygu ffordd glyfrach o weithio a fydd o fudd i bawb.
Un o’m cynigion yw sefydlu tîm ymyrraeth gynnar a fyddai’n debyg mewn egwyddor i ‘bresgripsiynu cymdeithasol’, sy’n cael ei gydnabod fwyfwy fel model sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol yn hytrach na dim ond y symptomau fel yr ydym wedi bod yn ei wneud.
Mae ganddynt bobl sy’n edrych ar pam mae’r rhai sy’n galw dro ar ol tro yn mynd yno drwy’r amser. Trwy roi sylw i’r achosion gwaelodol maent yn lleihau’r galw ar weithwyr iechyd proffesiynol yn syth
Y syniad yw y byddwn yn cyfrannu 40 y cant o’r gyllideb, gyda’r disgwyliad wedyn i bartneriaid diogelwch cymunedol eraill rhyngddynt ddarparu’r 60 y cant arall.
Os na fyddant yn cyfrannu, ni fydd yn digwydd ond os byddant yn gwneud, bydd pawb ar eu hennill.
Mae’n golygu buddsoddi i arbed arian a darparu gwasanaeth o safon i’r rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf o fewn ein cymunedau.”