Date
Mae pobl ledled y Gogledd yn cael eu hannog i bleidleisio dros eu hoff gynlluniau ymladd troseddu - gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr.
Mae gan y grwpiau llwyddiannus gyfle i ennill £2,500 yr un o'r pot arian a sefydlwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.
Bydd cyfanswm o dros £40,000 ar gael i wobrwyo dau grŵp o bob sir.
Yn ogystal, bydd dau grŵp sy'n gweithio ar draws Gogledd Cymru yn derbyn grant o £5,000.
Yr unig amod yw bod gofyn i'r grwpiau llwyddiannus ymrwymo i redeg prosiectau fydd yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anrhefn.
Lansiwyd cynllun 'Eich Cymuned, Eich Dewis' gan Mr Jones a'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT).
Fe'i hariennir ar y cyd gan arian a gafwyd yn ôl trwy'r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr, a Chronfa'r Comisiynydd.
Heddlu Gogledd Cymru yw'r gwasnaeth heddlu sy'n perfformio orau yng Nghymru o safbwynt elw o atafaelu arian o droseddwyr.
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf derbyniodd yr heddlu £106,850 o'i gymharu â £63,035 yn y flwyddyn flaenorol.
Un o’r achosion diweddar lle mae troseddwyr wedi cael eu gorfodi i fforffedu eu henillion anghyfreithlon, yw achos Colin Hughes, o Flaenau Ffestiniog, sydd wedi cael ei orchymyn i dalu dros £40,000 mewn perthynas â throseddau yn gysylltiedig â chynhyrchu canabis.
Dewiswyd rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer arian Eich Cymuned Eich Dewis gan banel arbennig a bydd y cyhoedd yn penderfynu pa grwpiau i’w cefnogi trwy gyfrwng pleidlais ar wefan Heddlu Gogledd Cymru a gwefan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn ogystal â chyfeiriad e-bost pwrpasol. Cynhelir y bleidlais rhwng Hydref 30 a Rhagfyr 1.
Dywedodd Mr Jones: "Mae'n briodol iawn bod y cynllun hwn yn cymryd arian i ffwrdd oddi wrth y drwgweithredwyr ac yn ei roi i'r bobl er mwyn gwella ansawdd bywyd yn eu cymunedau, trwy eu helpu i frwydro yn erbyn trosedd ac anrhefn neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r arian yn mynd lle bydd yn gwneud gwahaniaeth wrth leihau troseddau ac wrth wella ansawdd y cymunedau sy'n dioddef troseddu."
Ategwyd y neges gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Debicki a ddywedodd: "Mae'n beth da iawn bod grwpiau cymunedol yn gallu cael mynediad at gronfeydd arian er mwyn lleihau trosedd ac anhrefn yn eu cymunedau a gwella ansawdd bywyd ar gyfer y gymuned yn eu hardal.
Mae'n anfon neges hynod gadarnhaol bod arian o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg yn arian da sy'n cael ei ddefnyddio wedyn at ddiben adeiladol.
Rydym wir yn gwerthfawrogi ein perthynas â'r cyhoedd ac rydym yn cydnabod na allwn leihau trosedd ac anrhefn ar ein pennau ein hunain. Mae'n bartneriaeth ac yn ymdrech ar y cyd efo asiantaethau eraill ond mae'r cyhoedd eu hunain hefyd yn chwarae rhan allweddol a hanfodol yn yr ymdrech hon.
Y cyhoedd yn aml yw'r rhai sy'n gwybod beth yw’r pethau a fydd yn gweithio orau yn eu hardal ac mae eu galluogi nhw i ymgeisio am y pot pres yn rhywbeth cadarnhaol iawn."
Yn ôl y Cadeirydd PACT David Williams, roedd hefyd yn broses ddemocrataidd iawn oherwydd bydd y cyhoedd yn gallu penderfynu pwy sy'n cael yr arian.
Dywedodd Mr Williams: "Un o fanteision gwirioneddol y cynllun yw mai'r cyhoedd yn y pen draw fydd yn dweud pa brosiectau a fydd yn mynd ymlaen ac yn teilyngu'r arian pwysig yma.
Ac yn addas ddigon, un o'r amodau yw bod angen i'r bobl sy'n gwneud cais am yr arian hwn fod yn gwneud rhywbeth sy'n mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu'n mynd i'r afael â throsedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd.
Mae amcanion cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd felly mae'n creu cylch rhinweddol."
Am fwy o wybodaeth ar sut i bleidleisio ffoniwch 01745 588516 neu ewch i www.northwales-pcc.gov.uk neu www.north-wales.police.uk