Date
Mae pennaeth heddlu wedi annog rheolwr rhaglen Newsnight y BBC i beidio â sarhau’r iaith Gymraeg eto - a cheisio barn arbenigwyr go iawn os ydynt yn trafod y pwnc yn y dyfodol.
Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn hynod feirniadol ar ôl i’r rhaglen ysgogi pryder pan ofynnwyd a oedd y Gymraeg yn “gymorth neu’n rhwystr i’r genedl”.
Ers hynny, mae’r BBC wedi cydnabod ei bod yn difaru na fyddai’r eitem wedi cael “dadansoddiad a dadl fwy trylwyr”.
Mae Mr Jones wedi ysgrifennu yn Gymraeg at olygydd y rhaglen, Ian Katz, yn gofyn am sicrwydd na fydd y camgymeriad yn cael ei ailadrodd.
Nid oedd unrhyw siaradwr Cymraeg yn rhan o’r drafodaeth ar 9 Awst, gyda chyfraniadau gan yr awdur Julian Ruck a Ruth Dawson, Golygydd Cymru ar gyfer y wefan newyddion a dadansoddi annibynnol The Conversation.
Ar ddechrau’r rhaglen, gofynnodd Evan Davis am yr iaith: “Ai gwaith y llywodraeth yw ei hyrwyddo ac a yw’n gymorth neu’n rhwystr i’r genedl.”
Yn ddiweddarach aeth ymlaen i ddweud: “Fe welwn sut y mae pobl yn dewis ei siarad a faint sydd yn ei gweld fel hobi, a faint sy’n ei siarad fel eu prif iaith.”
Yn ei lythyr cyhuddwyd Newsnight gan Mr Jones o drafod yr iaith “mewn ffordd mor blentynnaidd, bychanol ac anghyfrifol” gan ychwanegu bod y rhaglen wedi llwyddo i godi gwrychyn cenedl gyfan.
Aeth ymlaen: “Ymddiheurwyd am y sarhad y noson wedyn mewn ffordd wan a phitw heb argyhoeddi neb fod yna edifeirwch go iawn ar eich rhan.
“Mae gofyn a ydy’r iaith yn rhwystr yn hollol annerbyniol, ac yn amherthnasol ym mhob cyd-destun. Mae’r Gymraeg yn bodoli. Mae pobl yn ei siarad fel iaith gyntaf bob diwrnod.
A ddylen ni wneud i’r rhai sy’n siarad yr iaith deimlo’n amherthnasol ac yn rhwystr neu ddylen ni fwrw ati i gadw’r iaith fel rhan annatod o dapestri bywyd ein cornet bach ni o’r byd?
Ni fyddai’r BBC byth wedi meiddio cwestiynu os ydy crefydd neu hil rhywun yn rwystr. Meddyliwch y stŵr cyfiawn fyddai wedi codi o ganlyniad i’r fath sarhad! Pam felly y gall corff cyhoeddus da ni’n talu’n ddrud amdani gyfiawnhau cwestiynu fod iaith, yn enwedig iaith sy’n frodorol i’r ynysoedd hyn ac un sydd wedi bodoli ymhell cyn Saesneg, yn rhwystr?
Gall un hyd yn oed ddadlau fod bychanu iaith rhywun yn hyd yn oed mwy sarhaus na chwestiynu bodolaeth eu crefydd, gan fod iaith yn rhan annatod o bwy ydy pob un ohonom fel unigolion.
Hoffwn felly eich darbwyllo fod y Gymraeg yn hanfodol yn fy musnes i ac yn dipyn pwysicach na’r ‘hobi’’ y soniodd Evan Davis amdani ar y rhaglen.
Fel siaradwr Cymraeg rhugl, sydd mewn swydd etholedig gyda chyfrifoldeb am wariant o £143 miliwn, dwi’n credu’n reddfol y dylwn ddiwallu fy nghyfrifoldebau i’r rhain sydd am dderbyn gwasanaeth mewn Cymraeg neu Saesneg; does ‘na run iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r llall.
Yn wir, mae gen i fel pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru, ddyletswydd statudol i sicrhau nad ydy’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Er bod y mwyafrif o bobI Gogledd Cymru yn gallu siarad Saesneg mae ymdrin â chyrff cyhoeddus yn eich ail iaith tipyn yn wahanol na chyfathrebu yn eich iaith gyntaf.
Erfyniaf arnoch, fel un sy’n gweithio i gorff cyhoeddus, i ddiwallu eich cyfrifoldebau moesol ble mae cydraddoldeb yn y cwestiwn yn y dyfodol ac i wneud eich gwaith cartref cyn gadael i’r fath raglen fynd ar yr awyr.
Os am drin y Gymraeg yn y dyfodol byddai’n dda i chi ddangos elfen o gwrteisi tuag at yr iaith, a’r bobl sy’n ei siarad, drwy sicrhau ei bod yn cael ei thrafod gan arbenigwyr a ddim gan gyfranwyr sydd ddim yn siarad yr iaith a gydag ychydig iawn o wybodaeth am y pwnc.”