Skip to main content

Pennaeth heddlu yn feirniadol iawn o ymateb "nawddoglyd" golygydd Newsnight

Date

Date
Dylai plismyn gario chwistrell a allai arbed bywydau rhag gorddos cyffuriau, medd pennaeth heddlu

Mae pennaeth heddlu wedi beirniadu ymateb “nawddoglyd a thrahaus” golygydd Newsnight, Ian Katz yn dilyn ffrae ynghylch dadl deledu am yr iaith Gymraeg.

 Ysgrifennodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn Gymraeg at Mr Katz i gwyno am yr eitem “anwybodus” ar Awst 9 a ysgogodd storm o brotest ledled Cymru.

Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y dylid diswyddo Mr Katz. 

Gofynnodd y rhaglen a oedd y Gymraeg yn “gymorth neu’n rhwystr i’r genedl.

Nid oedd unrhyw siaradwr Cymraeg yn rhan o’r drafodaeth, gyda chyfraniadau gan yr awdur Julian Ruck a Ruth Dawson, Golygydd Cymru ar gyfer y wefan newyddion a dadansoddi annibynnol The Conversation.

Ar ddechrau’r rhaglen, gofynnodd Evan Davis am yr iaith: “Ai gwaith y llywodraeth yw ei hyrwyddo ac a yw’n gymorth neu’n rhwystr i’r genedl.”

Yn ddiweddarach aeth ymlaen i ddweud: “Fe welwn sut y mae pobl yn dewis ei siarad a faint sydd yn ei gweld fel hobi, a faint sy’n ei siarad fel eu prif iaith.”

Yn ei ymateb i Mr Jones, a ysgrifennwyd yn Saesneg, roedd Mr Katz yn derbyn nad oedd dewis y rhaglen o westeion yn ddigon da, gan ychwanegu bod geiriad y cyflwyniad i’r drafodaeth “yn fwy amrwd nag y dylai fod”.

Dywedodd y byddai “yn dadlau’n gryf bod cwestiwn a yw hyrwyddo cyhoeddus y Gymraeg yn effeithiol ac yn fuddiol i Gymru yn bwnc trafod cwbl ddilys”.

Dywedodd Mr Katz fod yr adwaith i’r eitem yn “sawru” o “amharodrwydd” i fynd i’r afael â chwestiynau am hyrwyddo’r Gymraeg.

 “Rwy’n cytuno y dylem fod wedi ymdrin â’r pwnc yn fwy cynnil, ond mae peth o’r ymateb i’n heitem yn sawru o amharodrwydd i hyd yn oed ystyried cwestiwn mor ddigywilydd,” ychwanegodd.

Dywedodd Mr Katz hefyd ei fod yn bwynt “teg” y dylai’r ddadl fod wedi cynnwys siaradwr Cymraeg rhugl, gan ychwanegu bod Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith wedi cael gwahoddiad i ymddangos ar y rhaglen “ond yn anffodus nid oeddent yn gallu neu’n anfodlon i gymryd rhan”.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, nid oedd hynny’n wir a’u bod wedi dweud wrth ymchwilydd y gallai’r grŵp ymddangos yn fyw ac wedi cynnig mynd i stiwdio.

 Dywedodd Mr Jones: “Rwy’n teimlo bod ymateb Ian Katz yn hynod nawddoglyd a thrahaus yn ei agwedd.

 Ysgrifennais ato yn Gymraeg i wneud y pwynt bod hon yn iaith fyw sy’n cael ei defnyddio bob dydd a bod ganddi statws cyfartal â’r Saesneg, ond ni allai hyd yn oed drafferthu i sicrhau bod ei ateb yn cael ei gyfieithu.

 Mi wnaeth drefnu i’m llythyr gwreiddiol gael ei gyfieithu felly pam na allai wneud yr un peth â’i ateb? 

Mi wnes i bostio ei ateb ar Twitter ac rwyf wedi cael ymateb enfawr gyda degau lawer o ymatebion yn cyhuddo’r BBC o fod yn nawddoglyd tuag at y Gymraeg.

 Mae gen i groen go drwchus am y pethau hyn, ond mae pobl eraill yn amlwg yn ystyried ei agwedd yn destun gofid a sarhad.

 “Dw i ddim yn meddwl bod Ian Katz yn deall beth yw’r broblem. Aeth y rhaglen ati i gwestiynu faint o arian sy’n cael ei wario ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg ond nid oes neb yn ystyried faint sy’n cael ei wario ar hyrwyddo Saesneg. 

“Mae’n nodweddiadol o agwedd nawddoglyd llawer o bobl yn lefelau uchaf y BBC tuag at ieithoedd fel Cymraeg a Gaeleg.”