Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gwasanaethu Gogledd Cymru i gyd, gan gynnwys siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Ardal wledig ydyw gan fwyaf ac mae’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddo hefyd ardal arfordirol eang o gwmpas Ynys Môn, Pen Llŷn ac arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Heddlu yn gwasanaethu poblogaeth o 675,000 o bobl, mae ganddo oddeutu 1,450 o swyddogion heddlu, 250 o swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu a 800 o staff.
Mae’r pencadlys ym Mae Colwyn ac mae ganddo bencadlysoedd rhanbarthol yn Llanelwy, Caernarfon a Llay.
Yn rhan ddwyreiniol Gogledd Cymru y mae’r ardaloedd mwyaf poblog megis Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, tra bod Y Rhyl, Llandudno a Phwllheli yn drefi gwyliau arfordirol poblogaidd. Mae gan Ogledd Cymru dwy ddinas, Bangor a Llanelwy, ac mae Bangor yn Ddinas prifysgol sy’n gartref i tua 16,605o fyfyrwyr. Mae priffordd yr A55 yn cysylltu’r ardal â dinasoedd fel Manceinion, Lerpwl a Birmingham a gallwch fynd ar fferi i Iwerddon o borthladd Caergybi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei arwain gan y Prif Gwnstabl Carl Foulkes, Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Allsop a Seb Phillips, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau.
Gallwch gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio’r rhif ffôn difrys, sef 101. Drwy ffonio’r rhif hwn gallwch gael mynediad at holl wasanaethau plismona Cymru.