O dan Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ar Ddeddf Diogelu Data 2018, mae unigolion hawl statudol i gael mynediad i ddata personol sydd ar gyfrifiadur neu mewn ffeil strwythuredig, h.y. ar bapur. Bydd y rheolwyr data yn sicrhau bod y data:
- Yn cael ei brosesu’n deg ac yn gyfreithlon
- Wedi’i gael at ddibenion penodol a chyfreithlon
- Yn ddigonol, yn berthnasol ac nad yw’n ormodol
- Yn fanwl gywir a ble bo’r angen, yn gyfoes
- Ddim yn cael ei gadw yn hirach na sy'n angenrheidiol
- Wedi’i brosesu yn unol â hawliau testun y data
- Wedi’i gadw’n ddiogel
- Heb ei drosglwyddo dramor heblaw am i wledydd gyda chyfreithiau diogelu data digonol
At ddibenion Deddf 2018, cyfeirir at “ddata personol” fel gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw y gellir eu hadnabod. Cyfeirir at yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n rheoli'r diben a'r dull y caiff y data ei brosesu ynddi fel y “rheolwr data”.
Gwelwch ein Polisi Preifatrwydd am fwy o wybodaeth.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am GDPR ar Ddeddf Diogelu Data ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth ar www.ico.goc.uk neu o’r cyfeiriad a nodir isod.
Yr hawl i fynediad
Mae gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn rhoi mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am wybodaeth bersonol, cliciwch yma.
Mae darpariaethau Gwrthrych am Wybodaeth yn y Ddeddf Diogelu Data yn rhoi’r hawl i unigolyn gael copi o unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael eu cadw amdanynt ar wahân i rai eithriadau. Gelwir hyn yn “Hawl Gwrthrych am Wybodaeth”.
Gwybodaeth lle mai SCHTh Gogledd Cymru yw Rheolwr y Data
Mae gan unigolion hawl i gael cadarnhad fod eu data yn cael ei brosesu. Mae ganddynt hawl i gael mynediad at eu gwybodaeth a gwybodaeth atodol arall yn y Polisi Preifatrwydd a Polisi a Gweithdrefn Mynediad at Wybodaeth.
Adwaenir cael mynediad at ddata personol yn y ffordd hon fel gwneud ‘cais mynediad testun’. Mae’r GDPR yn egluro mai’r rheswm am ganiatáu unigolion i gael mynediad at eu data personol yw eu bod yn ymwybodol ac yn gallu dilysu cyfreithlondeb y prosesu.
Dylai ceisiadau i gael mynediad at wybodaeth gael eu gwneud i’r
Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Glan y Don
Bae Colwyn LL29 8AW
Gwnawn ymateb i’r ceisiadau hyn o fewn un mis calendr.
Os yr ydych o’r farn nad yw cais gennych am wybodaeth i’ch data personol wedi ei delio â hi’n gywir, gallwch:
- Ysgrifennu at y Rheolwr Data / Prif Weithredwr ar y cyfeiriad uchod yn gofyn i'ch cwyn gael ei datrys, neu
- Ysgrifennu at y Comisiynydd Gwybodaeth, sydd wedi’i benodi i ystyried cwynion o’r fath, yn y cyfeiriad isod:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer SK9 5AF
Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth y grym i asesu a fu methiant o ran cydymffurfio â GDPR a Deddf 2018. Gall y Comisiynydd weithredu gweithdrefnau gorfodaeth os yr ydynt yn fodlon yr aethpwyd yn groes i egwyddorion diogelu data. Gall y Comisiynydd hefyd argymell eich bod yn gwneud cais i’r llys yn honni methiant i gydymffurfio â darpariaeth cais gwrthrych am wybodaeth GDPR a Deddf 2018. Gall y llys wneud gorchymyn yn gofyn am gydymffurfiaeth â'r darpariaethau hynny ac efallai y byddant yn dyfarnu iawndal am unrhyw golledion yr ydych wedi'u dioddef yn ogystal ag unrhyw drallod cysylltiedig.
Gwybodaeth lle nad SCHTh Gogledd Cymru yw’r “Rheolwr Data”
Mewn nifer o achosion, yr heddlu ac nid SCHTh sy’n dal gwybodaeth bersonol. Mae Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu yn cynnwys gwybodaeth am erlyniadau, euogfarnau a rhybuddion. Prif Swyddogion yr Heddluoedd yw "Rheolwyr Data" y wybodaeth hon ac nid SCHTh Gogledd Cymru.
Mae gennych yr hawl i gael gwybod gan Brif Swyddog os oes unrhyw wybodaeth amdanoch yn cael ei chadw ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) ac mae gennych hawl i gopi o’r wybodaeth honno. Gall y Prif Swyddog wrthod datgelu'r wybodaeth hon lle mae'r wybodaeth yn cael ei chadw at ddibenion atal neu ddatgelu trosedd neu ar gyfer arestio neu erlyn troseddwyr a lle y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o fod yn niweidiol i unrhyw un o'r dibenion hyn.
Mae Heddluoedd yn darparu ffurflen er mwyn symleiddio’r arfer o hawl i fynediad i wybodaeth PNC. Yn achos Heddlu Gogledd Cymru dylech gysylltu ag:
Pencadlys yr Heddlu
Glan-y-Don
Bae Colwyn LL29 8AW
Rhif ffôn: 01492 805125
Neu fel dewis arall gallwch ymweld â gwefan Heddlu Gogledd Cymru sef www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk.