Be’ ydi cwcis?
Ffeiliau testun bychan yw Cwcis y bydd gwefannau yn eu rhoi ar eich cyfrifiadur neu eich dyfais symudol tra byddwch yn pori. Mae cwcis yn cael eu defnyddio am lawer o wahanol resymau, er enghraifft maen nhw’n gallu:
- helpu peiriannau chwilio i gofio eich bod eisiau canlyniadau eich chwiliad yn Gymraeg
- helpu gwefan i gofio be’ sydd orau gennych fel nad oes raid i chi ei newid bob tro
- helpu gwefannau i roi gwell gwasanaeth drwy ddangos y cynnwys mwyaf perthnasol i chi ac
adnabod a datrys gwallau
- dadansoddi pa mor dda y mae gwefan yn perfformio
Y peth mwyaf cyffredin y mae cwcis yn ei wneud ydi cofio darnau o wybodaeth sy’n gwneud pori’r we yn haws ac yn fwy didrafferth i chi
Sut mae cwcis yn cael eu defnyddio ar y safle hwn?
Mae deialog gwybodaeth wedi’i darparu ar dop y wefan pan fyddwch yn ymweld gyntaf i’ch hysbysu fod cwcis ar waith ar y safle. Ni ellir eu diffodd ar gyfer y safle hwn yn unig ond wrth i chi fynd ymlaen i’r wefan a defnyddio rhai nodweddion penodol gellir gosod cwcis yn y meysydd canlynol:
- ‘Google Analytics’
Rydym yn defnyddio Google Analytics i helpu i wella ein cefnogaeth, ein cynnwys a phrofiad cyffredinol defnyddwyr.
- er mwyn gwneud cynnwys yn fwy personol (y nodwedd ‘Eich Ardal Chi’)
Mae gennym nodwedd sy’n caniatáu i chi fewnbynnu eich cod post ac mae angen cwci er mwyn i hyn weithio’n iawn.
- mewnbynnu i’ch Cyfrif Defnyddiwr/Rheolwr Ffefrynnau.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer cyfrif defnyddiwr mae’r broses hon hefyd yn gofyn bod cwcis yn cael eu gosod er mwyn sicrhau bod y cyfrif yn gweithio’n iawn. Mae’r rheolwr ffefrynnau hefyd ar gael unwaith y byddwch wedi mewnbynnu, mae hyn eto angen cwcis.
- Dewis maint ffont
Os ydych yn dewis maint ffont ar y dudalen hygyrchedd bydd hyn hefyd yn gosod cwci
Sut y gallwch chi reoli cwcis ar gyfer pob gwefan
Os nad ydy cwcis wedi’u galluogi ar eich cyfrifiadur mae’n golygu y gall eich profiad o bori ein gwefan fod yn gyfyngedig.
Er mwyn gosod neu ddiffodd cwcis ar bob gwefan drwy eich porwr gwefannau, gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Sut i weld os yw cwcis wedi’u galluogi ar eich cyfrifiadur chi:
Google Chrome
1.Cliciwch ar yr eicon sbaner (bwydlen ar dop y porwr) a dewiswch ‘Settings’
2.Cliciwch ar 'Under the Bonnet' ar y chwith ac yna dewiswch y botwm 'Content settings'
3.O dan yr adran cwcis, dewiswch yr opsiwn sy’n eich siwtio orau.
Microsoft Internet Explorer 6.0, 7.0, 8.0
1.Cliciwch ar 'Tools' (bwydlen ar dop y porwr) a dewiswch 'Internet Options'
2.Cliciwch ar y tab 'Privacy'
3. Gosodwch eich preifatrwydd ar y lefel yr ydych ei angen. Bydd ei osod yn uwch na ‘Canolig’ yn diffodd y cwcis.
Mozilla Firefox
1.Cliciwch ar 'Tools' (bwydlen ar dop y porwr) a dewiswch ‘Options’
2.Dewiswch yr eicon ‘Privacy’
3.Yn yr adran ‘History’ dewiswch 'Use custom settings for history' o’r gwymplen
4.Gellir galluogi neu analluogi cwcis drwy glicio ar y blychau perthnasol.
Safari
1.Cliciwch ar yr eicon Cocsen (bwydlen ar dop y porwr) a dewiswch 'Preferences'
2.Cliciwch ar y tab ‘Privacy’ a dewiswch yr opsiwn sy’n eich siwtio orau.
Opera
1.Cliciwch ar 'Tools' ar dop ffenestr eich porwr a dewiswch 'Preferences'
2. Dewiswch y tab 'Advanced' a dewiswch gwcis o’r rhestr ar y chwith
3. Dewiswch yr opsiwn sy’n eich siwtio orau.
Sut i weld os yw cwcis wedi’u galluogi ar eich Mac:
Safari ar OSX
1.Cliciwch ar 'Safari' ar dop ffenestr eich porwr a dewiswch 'Preferences'
2.Cliciwch ar y tab 'Preifatrwydd'
3.Newidiwch lefel y cwcis yma.
Firefox
1.Cliciwch ar 'Firefox' ar dop ffenestr eich porwr a dewiswch 'Preferences'
2.Dewiswch yr eicon ‘Privacy’
3.Yn yr adran hanes dewiswch 'Use custom settings for history' o’r gwymplen
4.Gellir galluogi neu analluogi cwcis yn y blychau priodol.
Opera
1.Cliciwch ar 'Opera' ar dop ffenestr eich porwr a dewisiwch 'Preferences'
2. Dewiswch y tab 'Advanced' a dewiswch y Cwcis o’r rhestr ar y chwith
3. Dewiswch yr opsiwn sy’n eich siwtio orau.