Skip to main content

Gwahoddiad i Ddyfynbris: Adolygiad Annibynnol o Hela Yng Ngogledd Cymru

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn awr yn gwahodd cynigion gan gontractwyr i ymgymryd ag Adolygiad Annibynnol o Hela yng Ngogledd Cymru ar ran y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Bydd yr adolygiad yn ystyried ymateb presennol plismona i'r Ddeddf Hela, nodi arfer dda a gwneud argymhellion am welliannau'r dyfodol lle bo'n briodol. Yn benodol, bydd yr adolygiad annibynnol yn canolbwyntio ar:

  • Cydymffurfiaeth Heddlu Gogledd Cymru gyda Safonau Cenedlaethol o ran cofnodi, ymateb, ymchwilio ac erlyn achosion mewn cysylltiad â hela llwynogod.
  • Cynnal dadansoddiad ansoddol a mesurol o'r systemau, y prosesau a'r gweithdrefnau a pha mor dda mae Heddlu Gogledd Cymru yn ei wneud o ran achosion o hela llwynogod.
  • Gwerthuso'r heriau i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron o safbwynt gorfodi ac erlyn oherwydd y sefyllfa gyfreithiol bresennol o dan Ddeddf Hela 2004.

Ceir ffurflen gwahoddiad i roi dyfynbris yma. Gofynnir i ymgeiswyr roi ymateb llawn a chynhwysfawr i bob un o'r gofynion technegol, gan fanylu sut cânt eu cyflawni.

Rhaid i ddyfynbrisiau sy'n cynnwys yr holl ddogfennau a ofynnwyd gael eu cyflwyno dros e-bost at opcc@nthwales.pnn.police.uk.

WarningYr amser/dyddiad cau ar gyfer derbyn y dyfynbris hwn ydy 11.04.22.

Ceir gwybodaeth bellach am SCHTh Gogledd Cymru yma: https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy

Ceir eglurhad pellach, os oes angen, drwy Hannah Roberts, Cynorthwyydd Comisiynu drwy hannah.roberts@nthwales.pnn.police.uk.