Un o nodweddion newydd y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismonaa ddaeth i rym ar 20 Hydref 2014 yw’r Cynllun Unioni Cymunedol. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd i ymgynghori â’r gymuned leol ar ba weithredoedd adferol neu adsefydliadol sydd yn eu tyb nhw yn briodol i’w cynnwys yn y camau unioni cymunedol.
Mae cyfnod ymgynghori newydd yn cymeryd lle rhwng 15 Mai 2017 a 16 Mehefin 2017 drwy arolwg ar-lein.
Beth yw Camau Unioni Cymunedol?
Camau Unioni Cymunedol yw rhestr o gamau priodol y gall yr heddlu eu cymryd mewn ymateb i droseddau lefel isel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol e.e:
- difrod troseddol lefel isel
- mân ladradau
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (dim trosedd wedi’i gyflawni)
Bydd y rhestr yn rhoi llais i ddioddefwyr o ran sut y dylid delio a’r troseddwr y tu allan i’r llys.
Pa bryd y gellir defnyddio Camau Unioni Cymunedol?
Gellir defnyddio camau unioni pan fydd:
- troseddwr yn cyflawni trosedd lefel isel neu ymddygiad gwrthgymdeithasol
- troseddwr yn cyfaddef i’r trosedd
- swyddog heddlu yn teimlo bod camau unioni cymunedol yn briodol
- y troseddwr yn cytuno
Beth yw Cyfiawnder Adferol?
Mae Cyfiawnder Adferol yn rhoi cyfle i ddioddefwr gwrdd â’r troseddwr wyneb yn wyneb er mwyn i’r troseddwr dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn a wnaeth ac am y niwed a achosodd. Manteision Cyfiawnder Adferol yw bod:
- dioddefwr yn cael cyfle i ddweud wrth droseddwr pa effaith gafodd yr hyn a wnaeth y troseddwr ar eu bywyd .
- dioddefwr yn cael gofyn am eglurhad gan y troseddwr.
- dioddefwr yn cael ymddiheuriad gan y troseddwr neu’r troseddwr yn gwneud yn iawn am yr hyn a wnaeth mewn rhyw ffordd.
Ydy Cyfiawnder Adferol yn gweithio?
Mae dioddefwyr wedi nodi eu bod yn fodlon iawn â Chyfiawnder Adferol oherwydd eu bod yn cael chwarae mwy o ran yn y camau a gymerir yn erbyn y troseddwr. Mae tystiolaeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dangos bod gweithredu fel hyn wedi arwain at ostyngiad o 14% mewn aildroseddu a’i fod felly yn cael effaith gadarnhaol ar y troseddwr ac ar y dioddefwr.