Skip to main content

Beth yw ein blaenoriaethau a sut yr ydym yn gwneud

Beth ydy'r Cynllun Heddlu a Throsedd?

Mae'r Cynllun Heddlu a Throsedd yn canolbwyntio ar y prif feysydd fydd disgwyl i'r Heddlu eu cyflawni – materion sydd o bwys i bobl leol, ar y cyd a gofynion plismona cenedlaethol.

Blaenoriaethau plismona Gogledd Cymru ydy:-

Darparu cymdogaethau mwy diogel

  • Mynd i’r afael â, ac atal trosedd cefn gwlad a bywyd gwyllt
  • Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd swyddogion a staff yr heddlu
  • Gwella diogelwch ffyrdd

Cefnogi dioddefwyr a chymunedau

  • Mynd i’r afael â, ac atal cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • Diogelu pobl ddiamddiffyn, gan gynnwys plant
  • Mynd i’r afael â, ac atal seiberdroseddu
  • Sefydlu panel dioddefwyr
  • Mynd i’r afael â, ac atal Trosedd Casineb

System Cyfiawnder Troseddol deg ac effeithiol

  • Cyflwyno Strategaeth Troseddwyr Benywaidd Gogledd Cymru
  • Cynyddu defnydd Cyfiawnder Adferol
  • Cefnogi a diogelu plant a phobl ifanc, a’u gwyro oddi wrth y SystemCyfiawnder Troseddol
  • Cyfeirio at achosion troseddu a chefnogi adsefydlu pobl sydd weditroseddu

Blaenoriaethau Plismona Cenedlaethol Allweddol

Rhoddir eglurhad am gyfraniad a chyflawniad yr Heddlu er mwyn cyflawni gwelliannau yn erbyn y blaenoriaethau plismona cenedlaethol allweddol, sef:-

Y blaenoriaethau plismona cenedlaethol ydy:-

  • Lleihau llofruddiaethau a dynleiddiaid eraill
  • Lleihau trais difrifol
  • Aflonyddu ar gyflenwi cyffuriau a llinellau cyffuriau
  • Lleihau trosedd mewn cymdogaethau
  • Ymdrin â throsedd seiber
  • Gwella boddhad ymysg dioddefwyr gyda ffocws penodol ar ddioddefwyr cam-drin domestig

Ceir gwybodaeth ychwanegol ar y blaenoriaethau plismona cenedlaethol allweddol drwy gyrchu'r dolenni isod:

Llythyr gan y Gweinidog Trosedd a Phlismona i CHTh

Mesurau Trosedd a Phlismona Cenedlaethol 

Ar hyn o bryd, nid yw'r cyflawniad o ran y blaenoriaethau plismona cenedlaethol allweddol ar gael eto. Mae hyn gan ein bod yn disgwyl cyhoeddiad cenedlaethol ond bydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bydd yn cael ei dderbyn.


Amcanion Plismona


Cynnydd a wnaed wrth fodloni amcanion y Cynllun Heddlu a Throsedd


Adroddiadau ar ddarpariaeth gwasanaeth, asesiadau perfformiad ac asesiadau gweithredol



Adroddiadau gan Arolygyddion ac Archwilwyr Allanol


Gwybodaeth ystadegol a ddarparwyd i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd 


Asesiadau Effaith Preifatrwydd

  • Os ymgymerir ag unrhyw asesiadau effaith preifatrwydd byddant yn cael eu cyhoeddi yn amodol ar eithriadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000