Etholwyd Andy Dunbobbin yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar 6 Mai 2021. Daeth i rym yn swyddogol ar 13 Mai 2021.
Mae Mr Dunbobbin yn dod o Gei Connah lle mae'n byw gyda'i wraig, ei fab a'i ferch.
Mae Mr Andy Dunbobbin yn Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir y Fflint gan gynrychioli ward Golftyn Cei Connah ond bydd yn camu i lawr ym mis Mai 2022, bydd yn parhau i fod yn aelod o Gyngor Tref Cei Connah.
Dywedodd Mr Andy Dunbobbin mai "ennill yr etholiad oedd un o adegau mwyaf balch fy mywyd. Rwy'n angerddol am ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac rwy'n addo cynrychioli pawb yng Ngogledd Cymru, beth bynnag fo'u cysylltiadau gwleidyddol".
Ar ôl ei ethol, tyngodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Lw Swyddogaeth, a elwir hefyd yn 'Ddatganiad Derbyn y Swydd’. Cliciwch isod i weld y Datganiad.