Mae Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Plismona yng Nghymru*, a sefydlwyd yn 2021, yn dod ag asiantaethau arweiniol ynghyd i herio agweddau ac ymddygiad ledled Cymru gan anelu at ailfeithrin ymddiriedaeth menywod y bydd y system blismona bob amser yn eu diogelu ac yn eu parchu.
Caiff y Tasglu ei gadeirio ar y cyd gan Emma Wools (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru) ac Eleri Thomas (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent), gydag Amanda Blakeman (Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent) yn gweithredu fel yr arweinydd gweithredol.
Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant dim goddefgarwch, lle caiff swyddogion a staff yr heddlu sy'n gwasanaethu cymunedau ledled Cymru eu hannog a'u grymuso i herio agweddau rhywiol, agweddau sy'n dangos casineb at fenywod, agweddau hiliol, agweddau homoffobaidd a phob math o agweddau gwahaniaethol lle bynnag y byddant yn eu gweld neu'n eu clywed.
Ar adeg lle rydym yn gweithio er mwyn meithrin hyder y cyhoedd yng ngallu'r system blismona i fynd i'r afael yn effeithiol â thrais yn erbyn menywod a merched, mae'n hollbwysig ein bod yn craffu'n briodol ar gymeriad y bobl hynny sy'n gweithio i'w diogelu. Bob dydd, mae'r mwyafrif helaeth o swyddogion yn darparu gwasanaeth eithriadol i'r cyhoedd ac ni ddylem ganiatáu i'r lleiafrif effeithio ar ganfyddiadau'r cyhoedd.
Gan gydnabod bod casineb at fenywod yn broblem sy'n berthnasol i bob cymuned, mae'r Tasglu yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill i sicrhau y caiff y neges ei chlywed ledled Cymru. Wrth wneud hynny, rydym yn cydnabod y rhan allweddol sydd gennym i'w chwarae wrth ysgogi'r broses o ddatblygu'r Strategaeth Genedlaethol newydd i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a rhoi'r strategaeth honno ar waith, ac i gefnogi camau i roi glasbrint ar waith i Gymru.
*Grŵp strategol sy'n cynnwys Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid y pedwar heddlu yng Nghymru, yn ogystal ag aelodau allweddol o'u timau eu hunain, yw Plismona yng Nghymru. Mae'n anelu at nodi cyfleoedd i gydweithio a manteisio ar y cyfleoedd hynny, mae'n ceisio gwella'r gwasanaeth a ddarperir i gymunedau ledled Cymru ac mae'n cynnig llwyfan i gynrychioli'r system blismona gyfan yng Nghymru wrth ymgysylltu â phartneriaid fel Llywodraeth Cymru.
Datganiad i'r wasg:
Tasglu'n cymryd camau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
Mae tasglu newydd, sy'n dod ag asiantaethau allweddol at ei gilydd, wedi cael ei sefydlu ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n gweithio i herio agweddau ac ymddygiad ledled Cymru ac i geisio ail adeiladu ymddiriedaeth ymysg menywod y bydd yr heddlu'n eu hamddiffyn nhw ac yn eu parchu nhw.
Bydd Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Emma Wools (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru) ac Eleri Thomas (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent), ac yn cael ei arwain yn weithredol gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Amanda Blakeman.
Bydd y tasglu'n sicrhau bod diwylliant yn cael ei ddatblygu na fydd yn goddef unrhyw agweddau rhywiaethol, hiliol, homoffobig na chasineb at fenywod ac a fydd yn galw ar swyddogion a staff heddlu sy'n gwasanaethu i godi llas yn erbyn agweddau o'r fath pryd bynnag y byddant yn eu gweld neu'n eu clywed.
Rydym yn gweithio i feithrin hyder y cyhoedd yng ngallu'r heddlu i fynd i'r afael yn effeithiol â thrais yn erbyn menywod a merched felly mae'n hanfodol bod cymeriad y rheini sy'n gwasanaethu i’w hamddiffyn nhw yn destun craffu. Mae'r mwyafrif helaeth o swyddogion yn darparu gwasanaeth eithriadol i'r cyhoedd bob dydd a rhaid i ni beidio â gadael i'r lleiafrif ddylanwadu'n ormodol ar ganfyddiad y cyhoedd.
Mae heddluoedd Cymru'n cydnabod bod casineb at fenywod yn broblem yn ein cymunedau ac maen nhw'n gweithio gyda phartneriaid sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill i sicrhau bod y neges yn cael ei chlywed ledled Cymru.
Meddai Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru:
"Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i blismona yng Nghymru ac rydym wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth i roi sylw i'r problemau hyn. Er ein bod wedi gwneud cynnydd, rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy; rhaid i ni ymdrechu gyda'n gilydd yn ddiwyro i leihau'r bygythiad, yr aflonyddwch a’r trais mae menywod a merched yn eu profi.
“Os ydym ni am fynd i'r afael â'r problemau hyn yn effeithiol, mae'n hollbwysig bod gan fenywod a merched ffydd yng ngallu’r heddlu i'w cadw nhw'n ddiogel. Mae digwyddiadau trasig wedi effeithio ar ymddiriedaeth a hyder llawer o fenywod yn yr heddlu, sy'n golygu ei bod yn bwysicach nac erioed ein bod yn sicrhau eu diogelwch a'u hyder. Trwy ein Tasglu Plismona yng Nghymru, ochr yn ochr ag asiantaethau cyfiawnder troseddol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn benderfynol o herio agweddau a gwireddu diwylliant o ddim goddefgarwch, gan sicrhau bod cymunedau ledled Cymru'n gallu gweld a phrofi newid cadarnhaol."
Meddai Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Eleri Thomas:
"Mae dwyn plismona yng Nghymru i gyfrif o'r pwys mwyaf er mwyn cynnal hyder y cyhoedd. Bydd tasglu sy'n gweithio ar draws yr holl asiantaethau'n cynnig gwerth ychwanegol hefyd, trwy fynd i'r afael â'r problemau ehangach yn ein cymdeithas sy'n effeithio ar ddiogelwch menywod. Rwyf yn hyderus y bydd egni ac ymroddiad pob un ohonom wrth fynd i'r afael â'r problemau hyn yn cael effaith gadarnhaol yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:
"Mae menywod wedi rhannu eu pryderon a'u hofnau ac mae'n amser i ni gymryd camau cadarn yn awr i sicrhau bod ein swyddogion a staff yn cael eu dwyn i gyfrif am eu hymddygiad. Mae disgwyliadau pobl o blismona'n uchel, wrth reswm, a bydd ein neges yn glir nad oes lle i unrhyw un yn ein heddlu nad yw'n cynnal y safonau hyn.
“Rydym am i fenywod a merched ddod atom ni pan fyddant yn profi aflonyddwch neu drais, a bod yn hyderus y byddwn yn eu clywed ac yn eu credu nhw, ac y byddant yn cael eu trin â chwrteisi a pharch. Rhaid i’n hymddygiad fod o’r safon uchaf posibl er mwyn haeddu'r ymddiriedaeth hon."