Er mwyn creu Gogledd Cymru gwell, diogelach ac er mwyn sicrhau gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon yng Ngogledd Cymru, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cydnabod yr angen i gydweithio’n agos â phartneriaid er mwyn sicrhau atebion tymor hir i faterion trosedd ac anrhefn.
Mae datblygu partneriaethau effeithiol yn sylfaenol i’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd gan mai nid dim ond yr Heddlu sy’n gweithio i leihau trosedd, lleihau niwed (a’r risg o niwed) a darparu’r cyhoedd ag ymateb effeithiol. Mae gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn galluogi’r holl bartneriaid perthnasol i ddarparu mwy o wasanaethau cynaliadwy. Yn fwy na hynny, gall arwain at well gwasanaethau’n cael eu darparu mewn modd mwy cost effeithiol – ffactor pwysig mewn sefyllfa ariannol heriol.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o fathau o sefydliadau er mwyn gwneud yn siŵr bod ymdrechion yn cael eu canolbwyntio’n strategol er mwyn sicrhau bod mwy o waith partneriaeth trefnus yn darparu pobl Gogledd Cymru â gwell gwasanaethau.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda:
- Yr Heddlu
- Y Bwrdd Iechyd Lleol
- Y Gwasanaeth Tân
- Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru
- Partneriaid yn y maes cyfiawnder troseddol
- Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Gogledd Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Y Swyddfa Gartref
Mae rôl y Comisiynydd yn golygu cydweithio mewn partneriaeth â’r byrddau canlynol:
- Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yng Ngogledd Cymru
- Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru
- Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Sut all gweithio mewn partneriaeth helpu?
Gweler isod rai enghreifftiau o’r mathau o faterion y mae’r heddlu yn delio â nhw mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaeth lleol eraill er mwyn gwella’r ddarpariaeth.
- Datrys problemau cymdogaeth megis ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Cefnogi dioddefwyr trosedd
- Darparu dioddefwyr camdriniaeth domestig â chymorth fel bo ganddynt y cyfle a’r hyder i geisio cymorth a chefnogaeth.
- Gwella’r amgylchedd corfforol fel ei fod yn llai tebygol o arwain at droseddu.
- Darparu gwasanaethau ar gyfer y rhai hynny sy’n camddefnyddio sylweddau ond sydd angen cymorth i leihau’r niwed maent yn ei wneud iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’n cymunedau, a
- Cefnogi troseddwyr i ailsefydlu eu hunain ac i wneud cyfraniad positif i gymdeithas.