Skip to main content

Trosedd Casineb

I riportio enghraifft o droseddau casineb:

WarningOs yw'n sefyllfa o argyfwng a'ch bod yn gweld rhywun mewn perygl, ffoniwch yr Heddlu 999

Fel arall, defnyddiwch Gwasanaeth Sgwrsio Dros y We Heddlu Gogledd Cymru: (Gwasanaeth ar gyfer riportio materion di-frys yn unig yw hwn. Pan na fydd y gwasanaeth hwn ar gael, defnyddiwch ffurflenni riportio ar-lein neu ffoniwch 101.)

Beth yw Trosedd Casineb?

Diffinnir Digwyddiad Casineb fel unrhyw ddigwyddiad sydd, yn ôl y dioddefwr (neu unrhyw unigolyn arall), wedi’i ysgogi gan ragfarn neu gasineb. Er ei fod yn cynnwys troseddau, mae hefyd yn cynnwys gweithredoedd di-drosedd. Er enghraifft, efallai y bydd teulu yn teimlo eu bod yn cael eu targedu os mai nhw ydi’r unig deulu o hil benodol yn y stryd a bod rhywun o hyd yn gadael sbwriel yn eu gardd, ond dim gardd rhywun arall.

Mae Trosedd Casineb yn drosedd sydd, yn ôl y dioddefwr (neu unrhyw unigolyn arall), wedi’i ysgogi gan ragfarn neu gasineb. Enghreifftiau o hyn ydi difrod troseddol, ymosodiadau, camdriniaeth lafar ayyb.

Mae rhagfarn yn bodoli mewn sawl ffurf. Gall person gael ei erlid oherwydd ei:

  • hil
  • crefydd
  • cenedligrwydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth drawsrywiol
  • anabledd

Beth bynnag ydi’r rheswm, nid yw’n iawn ac rydym eisiau ei stopio rhag digwydd.

Dylid riportio pob digwyddiad o gasineb fel y gellir defnyddio'r wybodaeth i adnabod mannau problemus ac i atal y broblem rhag gwaethygu.

Drwy daclo’r broblem gyda’n gilydd gallwn wneud Gogledd Cymru yn lle diogelach i fyw.


hate crime

Os ydych angen riportio trosedd casineb yna gallwch gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 (os ydych yng Ngogledd Cymru) neu os hoffech gael gwybodaeth am ffydd eraill o riportio trosedd casineb (gan gynnwys drwy drydydd parti a riportio’n ddienw) ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru. Mae yna fwy o wybodaeth am droseddau casineb ar dudalennau cydraddoldeb gwefan yr Heddlu.

Dydy trosedd casineb ddim yn iawn. Peidiwch â dioddef yn ddistaw. Riportiwch o.

Cofiwch ffonio 999 os ydyw’n argyfwng