Skip to main content

Archwiliadau AHEM

Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi (AHEM/HIMC) sy’n gyfrifol am asesu heddluoedd a gweithgaredd plismona yn annibynnol, er budd y cyhoedd. Mae hyn yn amrywio o dimau cymdogaeth i droseddau difrifol a’r frwydr yn erbyn terfysgaeth. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag AHEM ewch i www.hmic.gov.uk.

Mae holl adroddiadau AHEM ynglŷn â Heddlu Gogledd Cymru wedi’u rhestru isod.

Arolygiad amddiffyn plant cenedlaethol [adolygiad ôl-arolygiad]

https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/north-wales-national-child-protection-post-inspection-review/


Plismona yn y Pandemig - Ymateb yr heddlu i’r pandemig coronafeirws yn ystod 2020’

https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/interim-report-inspection-into-how-effectively-the-police-engage-with-women-and-girls/


Adroddiad arolygu dros dro i ba mor effeithiol mae'r heddlu'n ymgysylltu â merched a genethod

https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/the-police-response-to-the-coronavirus-pandemic-during-2020/


Cael y cydbwysedd yn iawn? Archwiliad o ba mor effeithiol y mae'r heddlu'n delio â phrotestiadau

Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru yn brif heddlu a arolygwyd, ac ni ofynnwyd iddynt gyfrannu at yr arolygiad.

Mae prif ganfyddiadau’r arolygiad yn awgrymu nad yw heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn taro’r cydbwysedd cywir ar bob achlysur wrth blismona protestiadau.

Ymateb y Comisiynydd


Adroddiad Archwiliad Thematig Cenedlaethol Diogelu Plant

Mae'r archwiliad Cenedlaethol wedi cynnig tri argymhelliad ar gyfer Prif Gwnstabliaid yn y 43 heddlu. Cytunwyd nad yw cymeradwyaeth trydydd parti yn berthnasol i Heddlu Gogledd Cymru gan ei fod eisoes wedi cael ei archwilio cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn.

Ymateb y Comisiynydd


PEEL - Adroddiad sbotolau Y Camau Anodd - Cydweithredu Rhwng Heddluoedd

Rwyf wedi adolygu canfyddiadau'r arolygiaeth sy'n ymwneud â dau gydweithrediad yng Ngogledd Cymru ac rwyf yn falch eu bod yn cael eu hystyried ar y cyfan fel cydweithrediadau effeithiol. Mae yna gynnydd wedi bod yn y nifer o gydweithrediadau gyda heddluoedd cyfagos oherwydd cyfyngiadau ariannu, troseddu ar draws ffiniau a'r angen am wasanaethau arbenigol.

Ymateb y Comisiynydd


Adroddiad Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu (PEEL) 2018/19

Rwy'n falch bod Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei ystyried yn dda ar leihau trosedd a chadw pobl yn ddiogel sy'n cynnwys amddiffyn pobl fregus. Fy nod cyffredinol o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yw lleihau cam-fanteisio troseddol ar y bobl fwyaf bregus o fewn ein cymunedau ac mae amddiffyn yr unigolion hyn i'w weld drwy gydol y cynllun.  Mae'n amlwg felly o ganlyniad cyffredinol yr arolwg hwn fod Heddlu Gogledd Cymru'n llwyddo i wireddu amcanion fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Ymateb y Comisiynydd


Arolwg Diogelu Plant Cenedlaethol – Heddlu Gogledd Cymru

Rwyf yn falch fod yr arolwg wedi nod fy mod i, y Prif Gwnstabl a’i uwch dîm wedi ymroi i ddiogelu pobl fregus, gan gynnwys plant.  Fy mlaenoriaeth gyffredinol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yw lleihau cam-fanteisio troseddol ar bobl fregus. Mae’r rhai hynny sy’n fregus yn aml yn cael eu targedu gan grwpiau trosedd trefnedig ar gyfer cam-fanteisio’n droseddol ar blant (CSE), llinellau cyffuriau a chogio (cuckooing). Mae'r rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd, a sefydlwyd i ymdrin â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, yn dechrau cael effaith gadarnhaol ledled ardal yr Heddlu. Gwneir hyn drwy ymyrraeth gynnar er mwyn torri cylchoedd cam-drin, cam-fanteisio a bregusrwydd yn y dyfodol.

Ymateb y Comisiynydd


Y berthynas dlawd: Ymateb yr heddlu a GEG i droseddau yn erbyn pobl hŷn.

Mae prif ganfyddiadau'r ymchwiliad yn awgrymu bod gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddealltwriaeth brin o anghenion dioddefwyr hŷn. O ganlyniad i'r ymchwiliad, mae tri argymhelliad gan yr ymchwiliad i wella eich gwasanaeth.

Ymateb y Comisiynydd


Twyll - Amser Dewis

Arolygiad Llygredd Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub EM (HMICFRS): Nododd amser i ddewis bod yna nghysondeb o ran y dull o ymdrin ag achosion o lygredd ar draws Cymru a Lloegr. Nid oed Heddlu Gogledd Cymru yn un o’r heddluoedd a ddewiswyd i gael eu harolygu ac maent wedi  cwblhau’r argymhelliad o gyhoeddi polisi llygredd yn barod.

Ymateb y Comisiynydd


Plismona ac Iechyd Meddwl – Codi’r darnau

Rwy’n falch fod yr arolygaeth wedi cydnabod y galw diangen a osodi oherwydd methiant gwasanaethau eraill. Dylai’r rhai sydd mewn argyfwng gael eu gofalu gan weithwyr iechyd proffesiynol ac nid gan yr heddlu. Cytunaf fod angen ailfeddwl yn radical i warantu ymateb arbenigol amserol gan y gwasanaeth iechyd.

Ymateb y Comisiynydd


Cyfreithlondeb PEEL 2017

Edrychod rhaglen Cyfreithlondeb PEEL 2017 ar y raddfa y mae’r:

  • heddlu yn trin pobl gyda thegwch a pharch;
  • yn sicrhau bod eu gweithluoedd yn gweithredu’n foesol ac yn gyfreithlon; a
  • bod y gweithluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu trin gyda thegwch a pharch gan yr heddlu.

Ymateb y Comisiynydd


Effeithiolrwydd PEEL

Arolwg Effeithiolrwydd PEEL 2017:

  • Yn edrych ar ba mor dda mae’r heddlu’n deall y galw am eu gwasanaethau, pa mor ddau maent yn ymrannu eu hadnoddau â’r galw, a pha mor dda maent yn cynllunio at alw’r dyfodol.
  • Yn rhoi asesiad o’u heffeithiolrwydd.

Ymateb y Comisiynydd


Uniondeb Data Troseddau

Dangosodd Adroddiad Uniondeb Data Troseddau 2017 fod yr heddlu:

  • Yn cyrraedd lefelau uchel o ran cywirdeb cofnodi troseddau rhywiol sy’n cael eu riportio.
  • Wedi gwneud cynnydd da o ran eu gweithdrefnau o ran canslo troseddau sydd wedi cael eu cofnodi.
  • Wedi gweithio’n galed i wellau gwybodaeth a deallusrwydd ymysg swyddogion a staff o ran anghenion cofnodi trosedd sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern.
  • Wedi gweithredu’r holl argymhellion a wnaed yn ein adroddiad yn 2014.
  • Wedi gwneud cynnydd da yn erbyn  y cynllun gweithredol cenedlaethol a ddatblygwyd er mwyn gwella cofnodi trosedd gan heddluoedd.

Ymateb y Comisiynydd


PEEL - Cyfreithlondeb yr Heddlu 2016

Mae Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi (AHEM/HMIC) yn diffinio heddlu dilys fel un lle ystyrir ei staff a’i swyddogion gan y cyhoedd fel rhai sy’n ymddwyn yn deg, yn egwyddorol ac yn gweithredu o fewn y gyfraith. Mae’n ceisio adnabod a datrys materion sy’n ymwneud â thriniaeth deg a pharchus gan yr heddlu.

O fewn yr archwiliad hwn, edrychodd AHEM ar:

  • y graddau y mae’r heddluoedd yn trin pobl gyda thegwch a pharch;
  • y graddau y maen nhw’n ceisio sicrhau bod eu gweithluoedd yn gweithredu’n egwyddorol a chyfreithlon; a’r
  • y graddau y mae’r gweithluoedd hynny eu hunain yn teimlo iddyn nhw gael eu trin gyda thegwch a pharch gan yr heddluoedd.

Ymateb y Comisiynydd


PEEL - Effeithlonrwydd yr heddlu 2016

https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/north-wales-police-crime-data-integrity-inspection-2017/

Mi wnaeth AHEM arolygu effeithiolrwydd Heddlu Gogledd Cymru drwy edrych ar ba mor dda y mae’n deall y galw sydd yna am ei wasanaethau a pha mor dda y mae’n defnyddio ei adnoddau i ymateb i’r galw hwnnw.  Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael graddfa ‘da’ o ran ei effeithiolrwydd i gadw pobl yn ddiogel a lleihau trosedd.  Mae’n cydnabod pwysigrwydd sicrhau gwell dealltwriaeth o’r galw presennol sydd yna am ei wasanaethau fel y gall ddefnyddio ei adnoddau yn effeithiol er mwyn blaenoriaethu ac ymateb i’r galw.

Ymateb y Comisiynydd