Un o fy mhrif flaenoriaethau ydi amddiffyn aelodau diamddiffyn ein cymuned sy’n cynnwys amddiffyn dioddefwyr camdriniaeth ddomestig. Peidiwch â dioddef yn ddistaw os ydych yn dioddef camdriniaeth ddomestig; cysylltwch â’r heddlu drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng.
Cliciwch ar y linc isod i gael mwy o wybodaeth am gamdriniaeth ddomestig a gwasanaethau lleol:
https://www.northwales.police.uk/advice/advice-and-information/daa/domestic-abuse/
Ymgyrch UNiTE i Roi Terfyn ar Drais yn Erbyn Merched
Llythyr ar y cyd gan y Fonesig Vera Baird QC, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, Nicole Jacobs a Catrina McHugh MBE.
Rydym yn ysgrifennu i ofyn i chi rannu ac annog eich swyddogion heddlu a staff i wylio ffilm o'r ddrama glodwiw ' Rattle Snake ' gan y cwmni theatr arobryn Open Clasp.
Mae'r ddrama yn seiliedig ar straeon bywyd go iawn o ferched sydd wedi wynebu a goroesi cam-drin domestig. Bydd ar gael i wylio ar-lein am ddim i gynulleidfaoedd ar draws y byd yn ystod ymgyrch UNiTE i Roi Terfyn ar Drais yn Erbyn Merched 25 Tachwedd – 10 Rhagfyr 2019