Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar bynciau penodol sy’n ymwneud â throsedd a phlismona. Pan fyddwch yn clicio ar deitl un o’r pynciau fe gewch eich cyfeirio at dudalen friffio fydd efallai yn cynnwys dolenni i wefannau eraill fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth arbenigol i chi. Bydd yr holl ddolenni yn eich cyfeirio at sefydliadau cyfrifol.
Polisi Cyffuriau - Tachwedd 2020
Amcangyfrifir bod marchnad gyffuriau Gogledd Cymru yn cael £32miliwn bob blwyddyn, gan arwain at gam-fanteisio ar lawer o bobl fregus. Mae plant yn cael eu gorfodi i ddelio â chyffuriau a cham-fanteisio rhywiol, mae pobl sydd â dibyniaeth ar gyffuriau yn cael eu gorfodi a’u cam-drin, mae teuluoedd yn cael eu dinistrio; mae ufuddhau yn cael ei sicrhau gyda bygythiadau o drais difrifol.
Mae'r Polisi Cyffuriau yn amlinellu argymhellion Comisiynydd Heddlu a Throsedd:
- Dulliau Dargyfeirio
- Darpariaeth o Nacsolon
- Triniaeth a Chymorth Heroin
- Profi Cyffuriau - Gwyliau ac Economi’r Nos.
- Ystafelloedd Defnyddio Cyffuriau