Mae cerdyn sydd wedi’i ddylunio er mwyn gwneud pobl fregus yn fwy ymwybodol o’u diogelwch personol - yn enwedig trosedd casineb - a cheisio cymorth os ydynt ei angen wedi cael ei lansio gan Heddlu Gogledd Cymru.
Mae’r cynllun, a gafodd ei lansio’n wreiddiol gan Heddlu De Cymru yn 2016, yn gweithio drwy helpu’r unigolyn os fyddent angen cymorth – boed os ydynt ar goll, neu os ydynt wedi dioddef trosedd neu mewn sefyllfa lle mae angen cymorth ychwanegol arnynt.
Mi fydd y cerdyn â gwybodaeth am yr unigolyn megis sut maent yn cyfathrebu, os oes ganddynt unrhyw anghenion iechyd a gwybodaeth pwy i gysylltu â mewn argyfwng, megis rhieni neu ofalwyr.
Pan mae unigolyn yn cofrestru ar gyfer cerdyn cadw’n ddiogel, byddant hefyd yn cael mynediad at Linell Anabledd yr Heddlu. Mae hwn yn rif ffôn dim argyfwng ymroddedig i bobl gydag anabledd ei ddefnyddio i gysylltu â’r heddlu. Wrth ffonio’r rhif hwn, bydd triniwr yr alwad yn ymwybodol cyn byddant yn siarad â’r galwr eu bod ag anabledd.
Bydd hyn yn sicrhau y bydd triniwr yr alwad yn ymwybodol am unrhyw anghenion ychwanegol gall y galwr ei gael. Byddant wedyn yn gallu ei drosglwyddo i unrhyw adnodd blismona sy’n rheoli eu hadroddiad. Nid yw hyn yn cyfateb i’r gwasanaeth brys ar 999. Mae i’w ddefnyddio yn lle’r rhif ffôn dim argyfwng yn unig.
Mae swyddogion a staff ar draws y llu yn gwneud eu hunain yn ymwybodol o’r cynllun er mwyn eu paratoi pan maent yn dod ar draws unigolion sydd â’r cerdyn ac angen eu cymorth.
Gallwch dderbyn y wybodaeth mewn sawl ffordd gan gynnwys:
- Lawrlwythwch y ffurflen gofrestru o'r bar ochr. Unwaith iddi gael ei chwblhau dychweler y ffurflen gofrestru at Cadwanddiogel@Heddlu-gogledd-cymru.police.uk.
- Gofyn am ffurflen drwy’r post drwy ffonio 01745 588720
- Cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy sgwrsio ar-lein gan ddynodi ‘Cerdyn Cadw Cymru’n Ddiogel’
- Cael pamffled drwy gownteri blaen y gorsafoedd canlynol:
- Wrecsam
- Yr Wyddgrug
- Y Rhyl
- Bae Colwyn
- Llandudno
- Bangor
- Caernarfon a Caergybi