Skip to main content

Cynlluniau Ymwelwyr Annibynnol

Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol

Aelodau o’r cyhoedd yw Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol sy’n cael eu penodi gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ymgymryd â’r gwaith o ymweld yn ddirybudd â dalfeydd yr heddlu yng ngogledd Cymru er mwyn gwirio triniaeth a lles pobl sy’n cael eu dal yno. Mae ar y Comisiynydd ddyletswydd statudol i gynnal Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol. 

Bydd Ymwelwyr Dalfeydd yn gweithio mewn parau, yn ymweld â dalfeydd yn ddirybudd a rhaid caniatáu mynediad di-oed iddynt. Gwaith yr ymwelwyr yw siarad â phobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa ac archwilio’r amodau y maent yn cael eu cadw ynddynt. Ar ddiwedd pob ymweliad byddant yn paratoi adroddiad ar eu casgliadau.

Os daw unrhyw faterion sy’n peri pryder i'r amlwg, bydd yr ymwelwyr yn ceisio datrys y rhain ar unwaith naill ai drwy gael gair â Swyddog y Ddalfa neu os ydynt yn faterion mwy cymhleth, eu cyfeirio ar unwaith i sylw Arolygydd y Ddalfa. Bydd yr holl adroddiadau sy'n cynnwys adborth yr ymwelwyr yn cael eu dadansoddi gan yr Heddlu a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a byddant yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd y Panel Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol sy’n cael eu cynnal bob tri mis.

Daw Ymwelwyr Dalfeydd o amrywiaeth o gefndiroedd a charfanau o’r gymuned. Rhaid iddynt fod dros 18 oed, yn unigolion sy’n byw neu’n gweithio yn ardal yr Heddlu ac ni ddylai fod ganddynt unrhyw gyswllt uniongyrchol â’r system cyfiawnder troseddol .

Bydd ymwelwyr dalfeydd yn cyflawni eu dyletswyddau ar sail wirfoddol a bydd costau teithio yn cael eu had-dalu gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.


Ymwelwyr Lles Cwn Yr Heddlu

Adwaenir y cynllun yn awr fel Cynllun Lles Cŵn Heddlu. Nod y cynllun yw gallu arsylwi ac adrodd am yr amodau mae cŵn heddlu yn cael eu cartrefu, hyfforddi, cludo a’u defnyddio. Nod strategol y cynllun yw cynnal hyder cyhoeddus a sicrhau lles cŵn heddlu drwy sicrhau fod dulliau hyfforddi cŵn heddlu a’r defnydd gweithredol o gŵn heddlu’n yn effeithiol, trugarog, moesegol a thryloyw.

Yn dilyn cyfuno unedau cŵn heddlu Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn 2016, mae Cynllun Swydd Gaer wedi’i ymestyn i gynnwys penodi Ymwelwyr Lles Cŵn Heddlu o Ogledd Cymru.