Skip to main content

Prosiect Teuluoedd a Effeithir gan Garcharu Gogledd Cymru

CAPI FABI Web-page-header Cym

Rhaglen i Deuluoedd Gogledd Cymru yr Effeithir Arnynt gan Garchariad

Credir bod carchariad yn effeithio ar nifer sylweddol o blant a theuluoedd yng ngogledd Cymru, ond yn aml iawn, mae natur ddiamddiffyn y teuluoedd hyn a’r heriau maent yn eu hwynebu yn cael eu hanwybyddu neu’u cuddio, ac i ryw raddau maen nhw’n anweledig ac yn garcharorion cudd eu hunain.

Sut mae cael aelod o'r teulu dan glo yn effeithio ar blant a theuluoedd?

O’u cymharu â’u cyfoedion, mae plant yn wynebu pwysau sylweddol a chynnwrf emosiynol yn ystod cyfnod y carchariad ac mae mwy o debygolrwydd y byddan nhw’n cael canlyniadau gwael mewn llawer o ffyrdd ac yn wynebu bywydau tlawd a niweidiol.

Mae troseddau sy’n pontio’r cenedlaethau yn broblem fawr: canfu astudiaeth bwysig fod 65% o fechgyn sydd â thad yn y ddalfa yn mynd yn eu blaenau i droseddu eu hunain. Mae carcharu mam hefyd yn cael effaith barhaol ar blant, a dim ond 5% o blant sydd â’u mam yn y carchar sy’n aros yn eu cartrefi eu hunain. Yn ddiweddar cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai adroddiad o’r enw “What About Me?” ynglŷn â’r effaith ar blant pan fydd eu mamau’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.  Darllenwch yr adroddiad yma:  Yn arwyddocaol, mae’r holl ferched o ogledd Cymru sydd yn y ddalfa wedi eu cadw dan glo yn Lloegr.  

Ar y cyfan mae teuluoedd yn fwy tebygol o fod yn dlawd a mynd i ddyled, gan deimlo eu bod yn cael eu difrïo yn eu cymunedau; mae’r plant hefyd yn tueddu i deimlo'n fwy unig yn yr ysgol. Mae hyn hefyd yn effeithio ar blant a theuluoedd sydd â rhiant neu aelod o’r teulu mewn rhan arall o’r system cyfiawnder troseddol, ac nid dim ond yn y carchar.

Mae plant gyda rhiant yn y carchar: 

  • ddwywaith yn fwy tebygol o gael problemau ymddygiad ac iechyd meddwl;
  • yn llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol ac yn fwy tebygol o gael eu gwahardd;
  • deirgwaith yn fwy tebygol o gyflawni trais domestig neu’i ddioddef;
  • bedair gwaith yn fwy tebygol o fynd yn ddibynnol ar gyffuriau.

Llinellau cyffuriau (County Lines)

Mae’r garfan hon wedi cael ei hadnabod fel un o’r grwpiau sy’n agored i niwed sy’n cael eu targedu gan Gangiau Troseddu Cyfundrefnol drwy ‘Llinellau cyffuriau’. Mae swyddogion yr Uned Trais a  Phobl sy'n Agored i Niwed (a gefnogir gan y Swyddfa Gartref) wedi tynnu sylw at y bygythiad hwn mewn erthygl yn rhifyn mis Medi 2018 o newyddlen FABI.

Y Rhaglen i Deuluoedd Gogledd Cymru yr Effeithir Arnynt gan Garchariad – Dull Amlasiantaeth

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r trafferthion y mae’r teuluoedd hyn yn eu hwynebu ac i gymell newid i annog gwaith ataliol a chymorth wedi’i dargedu’n well heb roi stigma ar neb, mae un ar ddeg o gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gogledd Cymru) a Charchar y Berwyn wedi penodi tîm bychan rhanbarthol trawsbynciol; mae hyn yn rhan o waith Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru a Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru ynghylch Camddefnyddio Sylweddau.

Mae dau o swyddogion yn y tîm, sef Sara Kettle a Catherine Pritchard, sy’n gweithio ar y cyd â’r partneriaid.  Ffurfiwyd Grŵp Llywio Amlasiantaeth i ysgogi gwaith y rhaglen gyda 30 o aelodau, gan gynnwys Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, y Ganolfan Gefnogaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Carchar y Berwyn a Charchar Styal, Cyfiawnder Ieuenctid, y trydydd sector a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru.

sara.kettle@wrexham.gov.uk / 01978 292453 neu
catherine.pritchard@wrexham.gov.uk / 01978 292444.

Tybed a ydych chi’n coladu ffigurau ynglŷn â niferoedd plant neu deuluoedd o ogledd Cymru y mae’r mater hwn yn effeithio arnynt? Neu efallai bod gennych chi ddealltwriaeth benodol o’u hanghenion yn sgil y gwaith rydych chi’n ei wneud bob dydd?

Ynteu a ydych chi'n darparu cefnogaeth i deuluoedd y mae carchariad yn effeithio arnynt, neu a hoffech chi ddysgu mwy am y mater hwn fel y gallwch roi cefnogaeth yn y dyfodol? Os felly, fe hoffent glywed oddi wrthych.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon drwy’r amser gyda gwybodaeth am gynnydd y prosiect.

Cyhoeddir Newyddlen Teuluoedd yr Effeithir Arnynt gan Garchariad bob chwarter, a gallwch weld copïau o’r tri diwethaf yma – IonawrEbrillMedi 2018.

Pennwyd saith o ganlyniadau ar gyfer blwyddyn gyntaf y prosiect. Y rhain yw: 

  1. Bod â gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa sydd ohoni i blant a theuluoedd yng ngogledd Cymru yr effeithir arnynt gan garchariad.           
  2. Datblygu system adnabod a llwybr atgyfeirio sy’n safonol ar draws yr holl wasanaethau, lle bo hynny’n bosib, ar gyfer y plant a’r teuluoedd hynny yr effeithir arnynt gan garchariad ac sydd arnynt angen cymorth.
  3. Mwy o gydnabyddiaeth strategol yng ngwasanaethau gogledd Cymru o’r effaith y mae carchariad yn ei gael ar blant a theuluoedd o ogledd Cymru, yn ogystal â'r trafferthion maent yn eu hwynebu a’u hanghenion o ran cefnogaeth.
  4. Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr ynglŷn â’r effaith y mae carchariad yn ei gael ar blant a theuluoedd o ogledd Cymru, yn ogystal â'r trafferthion maent yn eu hwynebu a’u hanghenion o ran cefnogaeth.
  5. Gwell mynediad at wybodaeth a chefnogaeth i blant a theuluoedd yr effeithir arnynt gan garchariad (a gwybodaeth a chefnogaeth i alluogi’r dynion, menywod a throseddwyr ifanc yn y ddalfa i fedru meithrin cyswllt â’u plant a’u teuluoedd a’u cefnogi)
  6. Mwy o ymwybyddiaeth mewn ysgolion ynglŷn â'r effaith y mae carchariad yn ei gael ar blant a theuluoedd, yn enwedig ar blant yn yr ysgol; a phennu Pwyntiau Cyswllt Unigol yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn y prosiect fel mai at y bobl hynny y gall plant/teuluoedd ddod am gefnogaeth.
  7. Bod plant a theuluoedd yr effeithir arnynt gan garchariad yn cael mwy o gyfleoedd i ddylanwadu ar y modd y darperir gwasanaethau.

Mae Cynllun Gweithredu 2 flynedd bellach yn cael ei baratoi.

Mae Cysylltiadau Teuluol yn Helpu i Leihau Aildroseddu

Dengys ymchwil bod cysylltiadau agos rhwng carcharorion ac aelodau allweddol o’u teuluoedd yn gallu lleihau’r perygl o aildroseddu yn sylweddol. Mae aildroseddu yn costio oddeutu £15 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd i’r gymdeithas. Felly, comisiynwyd astudiaeth bwysig gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol er mwyn ymchwilio i’r ffyrdd y gall cysylltu carcharorion gyda’u teuluoedd wella lles troseddwyr a lleihau nifer yr achosion o aildroseddu.  Yn ei adroddiad fis Awst 2017 daeth yr Arglwydd Farmer i’r casgliad mai rhwymau teuluol yw’r “llinyn aur” sy’n helpu pobl i droi cefn ar droseddu ac yn helpu teuluoedd i ymdopi.

A Yw Eich Gwasanaeth Wedi'i Gynnwys ar 'Dewis Cymru'?

Gwefan newydd yw ‘Dewis Cymru’ i helpu pobl i gael mynediad i wasanaethau cefnogi lleol yng Nghymru ac i ganfod yr wybodaeth y maent ei hangen i wella eu hunan les a chael mynediad i wasanaethau lleol yng Nghymru.

Mae’n bwysig a’r cyntaf i Gymru ac mae'n creu pwynt mynediad unigol, clir a dibynadwy y gall aelodau o'r cyhoedd ei ddefnyddio yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau.  Y 22 awdurdod lleol ar draws Cymru sy’n ei ddarparu fel rhan o'u gwasanaethau Gwybodaeth, Cynghori a Chynorthwyo.

Ar hyn o bryd mae’r wefan yn cynnwys cyfeiriadur o dros 6,200 o sefydliadau lleol a chenedlaethol a gwasanaethau yn cynnwys y rhai hynny gaiff eu darparu gan gynghorau lleol, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a busnesau.

Os ydych yn darparu gwasanaeth lleol all gefnogi plant a theuluoedd a gaiff eu heffeithio gan garchariad, yna ychwanegwch y gwasanaeth i’r cyfeiriadur drwy fynd i https://www.dewis.cymru/ i gael rhagor o wybodaeth. Mae’n gyfan gwbl AM DDIM felly beth am roi cynnig arni!

Adnoddau Defnyddiol Eraill

Gellir cael mynediad at newyddlenni ac adnoddau eraill gan y sefydliadau canlynol drwy gysylltu â nhw ar-lein:

Canolfan Wybodaeth Cenedlaethol i Blant i Droseddwyr - https://www.nicco.org.uk/

Partneriaid Carcharorion - http://www.partnersofprisoners.co.uk/

Gweithredu dros Deuluoedd Troseddwyr a Charcharorion - https://www.familylives.org.uk/about/our-services/action-for-prisoners-and-offenders-families/leaflets-for-families-affected-by-imprisonment/