Skip to main content

Cyfiawnder Troseddol

Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gan Brif Weinidog Cymru i adolygu’r modd y gweithredir ein system gyfiawnder.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ym mis Medi 2017 ei fod yn sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i fwrw golwg ar y modd y mae’r system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu ac i bennu gweledigaeth hirdymor ar ei chyfer.

Dechreuodd y Comisiwn ar ei waith ym mis Rhagfyr, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd. Bydd yn ystyried pa drefniadau y mae angen eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan Gymru system gyfiawnder sy’n addas i’r diben ac yn addas ar gyfer y setliad datganoli newydd yn Neddf Cymru 2017. Disgwylir iddo gyhoeddi ei adroddiad yn 2019.

Mae’r Comisiwn yn edrych ar gyfiawnder troseddol a phlismona; cyfiawnder sifil, masnachol, teuluol a gweinyddol; mynediad at gyfiawnder; addysg a hyfforddiant yn y gyfraith; proffesiynau ac economi’r gyfraith; a’r awdurdodaeth gyfreithiol. Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar 27 Chwefror 2018 a bydd yn cynnal digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru i’w helpu i lywio ei waith.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi paratoi tystiolaeth.


Cyfiawnder Troseddol

Yn unol ag adran 10 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 mae’n rhaid i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a’r cyrff cyfiawnder troseddol sydd yn ymarfer swyddogaethau fel cyrff cyfiawnder troseddol yn yr ardal heddlu honno, ddarparu system cyfiawnder troseddol effeithiol ac effeithlon.

Er mwyn helpu i gyflawni'r dyletswyddau hyn, mae'r Comisiynydd yn Gadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru. Mae’r Bwrdd yma yn cwrdd bob chwarter a chaiff ei weinyddu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Aelodaeth Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru:

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru
  • Pennaeth Adran Gweinyddu Cyfiawnder, Heddlu Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
  • Gwasanaeth Carchar Ei Mawrhydi
  • Timau Troseddau Ieuenctid

Dylai’r holl gynrychiolwyr gael awdurdod i wneud penderfyniadau o fewn cyfarfodydd y Bwrdd ar ran eu priod asiantaeth. Dylai unrhyw gynrychiolydd arall feddu ar bwerau dirprwyedig perthnasol er mwyn gallu ymrwymo eu hasiantaeth i unrhyw gytundeb a wnaed yn ystod y cyfarfod, gan sicrhau felly fod y Bwrdd yn parhau i fod yn gyfrwng effeithiol ar gyfer cyflawni nodau a blaenoriaethau mewn modd amserol.

Gweledigaeth

Mae gweledigaeth y Bwrdd fel a ganlyn:

“I ddarparu fforwm aml-asiantaeth ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, i ddarparu arweinyddiaeth a llywodraethiant, ac i nodi a goresgyn rhwystrau er mwyn darparu gwasanaeth cyfiawnder troseddol mwy effeithiol ac effeithlon yng Ngogledd Cymru sy'n rhoi anghenion y dioddefwyr yn gyntaf.”

Fel corff sefydledig a phrofiadol mae’r Bwrdd yn cynnig ffowm delfrydol i’r Comisiynydd drafod materion cyfiawnder troseddol gyda swyddogion ar y lefel briodol. Mae'r Bwrdd yn rhoi cyfle i’r Comisiynydd glywed am faterion neu rhwystrau o fewn y system cyfiawnder troseddol, eu hystyried, ac argymell atebion gyda phartneriaid i faterion o'r fath.

Blaenoriaethau cyfredol y Bwrdd:

  1. Lleihau troseddau, ail-droseddu a niwed;
  2. Darparu ymateb effeithiol;
  3. Gweithio gyda’n gilydd i adeiladu partneriaethau effeithiol;
  4. Gweithio i wella canlyniadau mewn achosion o drais yn y cartref, troseddau casineb, a thrais rhywiol.