Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn atebol am gynnal gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon yng Ngogledd Cymru ac mae herio a chraffu ar waith Heddlu Gogledd Cymru yn rhan allweddol o’i ddyletswyddau. Bydd hyn yn cynnwys monitro perfformiad yn erbyn y Cynllun Heddlu a Throsedd.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â lefelau trosedd yn eich cymdogaeth drwy fynd i wefan y Swyddfa Gartref. Gellir teilwra mapiau trosedd yn arbennig ar gyfer yr ardal y mae gennych chi ddiddordeb ynddi a cheir siartiau sy'n dangos lefelau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fesul categori, dadansoddiad o 'ganlyniadau cyfiawnder' fesul categori a’r tueddiadau ym mhob categori o drosedd fesul mis.
Ar Wefan Cymharu Troseddau AHEM ceir teclyn ar gyfer cymharu cyfraddau trosedd, niferoedd gweithluoedd a chost ac ansawdd gwasanaethau plismona.
Bob blwyddyn bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol a fydd yn rhoi gwybodaeth ynghylch yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad a chynnydd o ran cyflawni'r amcanion plismona a throseddu.
Bwrdd Gweithredol Strategol
Drwy’r Bwrdd Gweithredol Startegol (y Bwrdd), mae’r Comisiynydd yn craffu ar berfformiad yn erbyn y Cynllun Heddlu a Throsedd, yn monitro perfformiad yr Heddlu a chyllideb yr Heddlu. Y Bwrdd yw’r fforwm gwneud penderfyniadau ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a ble bo hynny’n briodol, mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl. Mae’r Bwrdd yn cael ei gadeirio gan y Comisiynydd a gallai aelodau gynnwys y Dirprwy Gomisiynydd, y Prif Gwnstabl, y Dirprwy Brif Gwnstabl, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, y Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau a Phrif Weithredwr a Phrif Swyddog Cyllid Swyddfa’r Comisiynydd.
Mae cylch gorchwyl llawn y bwrdd ar gael yma.
Cofnodion Bwrdd Gweithredol Strategol
Dim ond yn y Saesneg mae'r cofnodion isod ar gael. Os ydych angen copi Cymraeg, cysylltwch ar swyddfa ar OPCC@nthwales.pnn.police.uk. The minutes of the following SEB meetings are currently only available in English. Should you require a version in the Welsh language please contact the office on OPCC@nthwales.pnn.police.uk.
Cwynion ac Adolygiadau
Mae gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd 3 prif ddyletswydd o ran cwynion ac adolygiadau sef:-
- Awdurdod Priodol i ystyried cwynion am y Prif Gwnstabl,
- Dyletswydd i ddwyn y Prif Gwnstabl yn atebol gan ddarparu proses gwynion effeithiol ac effeithlon, a
- Corff Adolygu perthnasol o rai o gwynion yr heddlu.
Ceir gwybodaeth ar sut mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn bodloni’r dyletswyddau statudol hyn yma.
Yng nghyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Craffu Safonau Proffesiynol a gynhelir gyda’r Dirprwy Brif Gwnstabl a’r Adran Safonau Proffesiynol, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn craffu’r modd yr ymdrinnir â chwynion a honiadau o gamymddwyn gan Heddlu Gogledd Cymru. Ceir y cylch gorchwyl llawn yma.
Cyhoeddir ystadegau Chwarterol a Blynyddol gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Ceir y wybodaeth hon yma.
Panel Craffu Gwarediadau tu allan i’r Llys
Mae Gwarediadau tu allan i’r Llys yn cael eu hasesu a’u craffu yn annibynnol gan Banel Craffu Gogledd Cymru. Cynrychiolir Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y Panel Craffu ynghyd â Chadeiryddion Mainc Ynadon, cynrychiolwyr o’r Timau Troseddau Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Prawf Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cymorth i Ddioddefwyr, Adran Gweinyddu Cyfiawnder yr Heddlu a’r Gwasanaeth Plismona Lleol.
Gall y panel wneud argymhellion, rhoi adborth ar achosion unigol i swyddogion, cyfleu canfyddiadau, hyrwyddo arferion gorau ac adnabod datblygiadau polisi posibl neu anghenion hyfforddiant ar gyfer eu hystyried gan yr heddlu neu asiantaeth arall perthnasol. Ni all y panel newid canlyniad gwreiddiol achos a bydd yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei dileu cyn y caiff ei chraffu arni.