Skip to main content

Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Wayne Jones

Wayne Jones
DPCC Wayne Jones

Cadarnhawyd mai Wayne Jones yw Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru ar 20 Medi 2021, gan ddechrau’r swydd ar 27 Medi. Cafodd ei eni yn Llanelwy a chafodd ei fagu yn y Rhyl ac mae’n byw yn ardal Gogledd Cymru.

Cyn dod yn Ddirprwy CHTh bu’n swyddog heddlu am dros 30 mlynedd yn Swydd Gaerhirfryn a Heddlu Gogledd Cymru, ac yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf bu’n gweithio fel Ditectif Brif Uwcharolygydd ym maes Gwasanaethau Troseddau a Gwasanaethau Plismona Lleol.

Yn ystod ei yrfa gweithiodd yn Wrecsam, Caergybi, y Rhyl, DPH Llanelwy, PYH Bae Colwyn. Yn ystod ei gyfnod ym maes Gwasanaeth Troseddau arweiniodd ymateb strategol i gangiau Llinellau Cyffuriau, roedd yn allweddol yn sefydlu nifer o fentrau arloesol yn cynnwys Tîm Digwyddiadau Difrifol yr Heddlu, Tîm Archwilio Ar-lein yr Heddlu, Tîm Onyx ar gyfer Cam-fanteisio ar blant yn Rhywiol a’r Uned Troseddau Economaidd.

Bu Wayne hefyd yn Uwch Swyddog Ymchwilio ar nifer o Ymchwiliadau Llofruddiaeth a Throseddau Difrifol ac roedd hefyd yn Bennaeth Drylliau Tanio Aur. Bu’n cynrychioli adran Cymru ar y Grŵp Gorchwyl Llofruddiaeth a PIP 4 Grŵp Cynghori Ymchwiliadau Strategol.

Mae ganddo hefyd Radd Feistr o Brifysgol Caergrawnt mewn Arweinyddiaeth Plismona a Throseddeg.

Yn yr adran hon