Dyddiad
Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn siarad yn dilyn penodiad prif farnwr Cymru a Lloegr i arwain adolygiad o'r ffordd y mae'r system gyfiawnder yn gweithio yng Nghymru.
Bydd yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, sy'n ymddeol ym mis Hydref, yn cadeirio Comisiwn Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder yng Nghymru.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, roedd angen gwella mynediad i gyfiawnder a lleihau trosedd gyda system sydd yn "wirioneddol gynrychioliadol o anghenion Cymru.
Ar hyn o bryd mae llysoedd Cymru yn rhan o'r un system ac awdurdodaeth gyfreithiol â Lloegr - ac maent yn dod o dan reolaeth San Steffan, er bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gallu deddfu mewn meysydd polisi ers 2011.
Dywedodd y comisiynydd: “Rwy'n croesawu penodiad yr Arglwydd Ustus Thomas yn dilyn ei wasanaeth nodedig fel Arglwydd Brif Ustus.
Mae gan Gymru gorff penodol o gyfraith eisoes ac yn gweithredu ar sail Cymru Gyfan gydag Uchel Lys ac awdurdodaethau lleol.
Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Chadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol Gogledd Cymru, mae yna nifer o faterion yr hoffwn eu gweld yn cael eu datganoli i Gymru.
Y pennaf ohonynt yw datganoli Cyfiawnder Ieuenctid, sef yr unig wasanaeth plant yng Nghymru na chafodd ei ddatganoli.
Hoffwn hefyd weld newid yn y gyfraith lle byddai gan Lywodraeth Cymru fwy o hyblygrwydd i gyflwyno mesurau lleihau niwed ar gyfer y defnydd o gyffuriau problemus fel sy’n digwydd gydag alcohol.
Rwyf hefyd o'r farn y dylid datganoli mwy o wasanaethau dioddefwyr a thystion gan fod angen i ni ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg, blaenoriaeth nad yw braidd byth ar radar y Weinyddiaeth Gyfiawnder."
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Yng Nghymru, rydym wedi cael hawl i ddeddfu ar wahân ers chwe blynedd, ond hyd yma, nid oes gennym ein hawdurdod cyfreithiol ein hunain.
Drwy sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, rydym yn cymryd cam cyntaf pwysig tuag at ddatblygu system cyfiawnder unigryw sy'n wirioneddol gynrychioliadol o anghenion Cymru.
Ychwanegodd yr Arglwydd Thomas, a gafodd ei eni yng Nghaerfyrddin, bod Cymru "yn cynnig cyfleoedd unigryw i nodi atebion newydd i'r heriau cymhleth sy'n wynebu cyfiawn