Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn annog ffermwyr yng ngogledd Cymru i ddefnyddio synwyryddion clyfar pŵer isel i ymladd lladron sy’n dwyn o ffermydd.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, yn cefnogi cynllun newydd i annog y gymuned ffermio i fanteisio ar dechnoleg wi-fi.
Mae LoRaWAN (Rhwydwaith Mynediad Ardal Eang Pŵer Isel) yn arbennig o addas ar gyfer ardaloedd gwledig lle mae seilwaith cyfathrebu yn aml yn ddiffygiol.
Mae prosiect Future Farms Cymru yn cael ei reoli gan Dîm Troseddau Cefn Gwlad arloesol Heddlu Gogledd Cymru mewn partneriaeth â’u cymheiriaid yn Heddlu Dyfed Powys, gyda’r ddau wasanaeth heddlu yn cydweithio’n agos i gyflenwi’r prosiect.
Mae Mr Dunbobbin yn ariannu’r fenter ar y cyd â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llewelyn.
Bydd y dechnoleg yn cael ei harddangos mewn chwe fferm yng ngogledd Cymru a bydd gwybodaeth am y pecyn uwch-dechnoleg a’i effeithiolrwydd ar gael ar wefan newydd, www.futurefarms.cymru
Mae’r prosiect yn manteisio ar rwydwaith Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru o 16 fferm ledled Cymru lle mae dyfeisiau porth LoRaWAN yn cael eu treialu.
Mae gan y pyrth antena bychain y gellir eu gosod ar adeiladau ffermydd.
Gall y rhain gysylltu â nifer fawr o synwyryddion sy’n casglu data a’i drosglwyddo i ddangosfyrddau ar ffonau symudol a dyfeisiau eraill, gan wneud dadansoddi yn syml.
Nod cynllun Future Farms Cymru yw annog ffermwyr i ddefnyddio’r un dechnoleg i wella diogelwch, gan gysylltu’r synwyryddion gydag ap sy’n rhybuddio ffermwyr yn syth os caiff unrhyw beth ei ddwyn gan eu galluogi i alw’r heddlu ar unwaith.
Nod arall y wefan yw helpu i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a’r gyfradd uchel o hunanladdiad yn y gymuned ffermio, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghyd â dolenni i sefydliadau a all roi cymorth a chefnogaeth.
Roedd cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer y cynllun yn un o’r pethau cyntaf i Mr Dunbobbin wneud yn ei swydd ar ôl ennill yr etholiad diweddar.
Meddai: “Un o’r prif addewidion yn fy maniffesto oedd blaenoriaethu mynd i’r afael â throseddau cefn gwlad a darparu gwasanaeth heddlu o’r radd flaenaf i bobl sy’n byw yng nghefn gwlad yn ogystal ag ardaloedd trefol y Gogledd.
“Rwy’n falch iawn o gefnogi Future Farms Cymru a’r gwaith gwych a wnaed gan y Tîm Troseddau Cefn Gwlad a hoffwn ddiolch i Dafydd Llewelyn am weithio ar y cyd gyda ni ar hyn.
“Fel rhywun sydd wedi gweithio ym maes technoleg, mae’r prosiect hwn yn gwneud synnwyr perffaith i mi wrth helpu’r gymuned ffermio i gynyddu eu mesurau diogelwch.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth mewn technoleg LoRaWAN a gall hyn gynnig ateb i lawer o’n problemau yng nghefn gwlad.
“Hyd yma canolbwyntiwyd fwy ar bethau fel lefelau pyllau slyri neu lefelau dŵr yn y caeau ond mae gan y dechnoleg botensial enfawr hefyd o ran mynd i’r afael â throseddau cefn gwlad.
“Yn y bôn mae hyn yn ymwneud ag arfogi ffermwyr efo systemau uwch-dechnoleg i amddiffyn eu hunain rhag melltith troseddu yng nghefn gwlad.”
Dywedodd yr Heddwas Dewi Evans, un o aelodau gwreiddiol Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, sydd bellach yn cynnwys 10 o swyddogion, eu bod yn ddiolchgar i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd am ei gefnogaeth.
Meddai: “Nod y prosiect yw annog y defnydd o dechnoleg ar ffermydd ac ardaloedd gwledig eraill gyda’r bwriad o leihau troseddu neu ei gwneud yn haws i’r heddlu ddarganfod troseddu.
“Rydym yn siarad i gychwyn am ddefnyddio mesurau diogelwch traddodiadol - teledu cylch cyfyng, a hyd yn oed cloeon - oherwydd yn anffodus pan fyddaf yn ymweld â ffermydd, rwy’n sylweddoli bron bob dydd bod y diogelwch yn aml iawn yn is na’r safon.
“Gwahoddir cwmnïau sy’n arbenigo mewn diogelwch i osod eu dyfeisiau yn rhad ac am ddim ar rai o’r ffermydd hyn, yna mi fyddan nhw’n gallu arddangos eu cynnyrch trwy ein gwefan ar ffurf gweminarau wedi’u recordio ymlaen llaw.
“Yna byddwn yn rhestru ein partneriaid ar y wefan ac yn cyfeirio dioddefwyr troseddau i’r wefan.
“Mae troseddau cefn gwlad yn dal i fod yn fater o bwys yng ngogledd Cymru ac mae derbyn cefnogaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd wrth i ni fynd o gwmpas ein gwaith beunyddiol yn wych ac mae ei gefnogaeth i’r prosiect trwy ariannu 50 y cant ohono gyda’i gyd-Gomisiynydd yn Nyfed Powys yn newyddion da dros ben.”