Dyddiad
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn camu i lawr.
Mae Mr Jones, ail gomisiynydd heddlu a throsedd y rhanbarth, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol yn yr etholiad nesaf pryd bynnag y bydd yn cael ei gynnal.
Mi wnaeth y cyn-arolygydd heddlu ennill buddugoliaeth ysgubol pan safodd ar ran Plaid Cymru yn 2016 - gyda mwyafrif o 25,000 o bleidleisiau.
Yn ôl Mr Jones, roedd yn un o eiliadau mwyaf balch ei fywyd pan gafodd ei ethol i arwain y gwasanaeth heddlu yr oedd wedi ei wasanaethu am 30 mlynedd, mewn iwnifform ac fel ditectif.
Yn wreiddiol, roedd yr etholiad nesaf i fod i gael ei gynnal fis Mai diwethaf ond gohiriwyd y bleidlais am flwyddyn oherwydd pandemig Covid-19.
Dywedodd Mr Jones: “Y prif reswm yr wyf wedi penderfynu peidio â sefyll i gael fy ailethol yw y byddaf erbyn yr etholiad nesaf wedi gweithio am dros 46 mlynedd.
“O ganlyniad i’r pandemig cafodd tymor y swydd ei hymestyn am flwyddyn. Dechreuais feddwl am hyn fis Mai diwethaf ond wnes i ddim siarad ag unrhyw un arall amdano tan dri mis yn ôl.
“Rwyf wedi cyflawni llawer yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae’n mynd i fod yn anoddach gwneud gwahaniaeth y tro nesaf oherwydd y pandemig, Brexit a’r ffaith bod tymor y swydd wedi’i gwtogi i dair blynedd.”
Ar ei ddiwrnod swyddogol cyntaf yn y swydd, addawodd Mr Jones y byddai mynd i'r afael â thrais domestig yn un o’i brif flaenoriaethau.
Fis yn ddiweddarach, mi gadwodd at ei air pan gyhoeddodd ym Mhanel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ei fod yn darparu’r arian i sicrhau mai Heddlu Gogledd Cymru fyddai’r heddlu cyntaf yng Nghymru i ddosbarthu camerâu corff – sy’n arbennig o ddefnyddiol yn dilyn digwyddiadau o gam-drin domestig - i'r holl swyddogion heddlu rheng flaen.
Un o'r pethau a oedd wedi newid fwyaf rhwng yr amser yr ymddeolodd fel heddwas a chychwyn ei swydd fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd oedd y ffaith bod llawer o droseddau wedi symud ar-lein.
Felly mi wnaeth hefyd fuddsoddi arian ac adnoddau er mwyn fynd i'r afael â bygythiadau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg fel achosion o dwyll a chamfanteisio rhywiol ar bobl agored i niwed, gan gynnwys plant.
Yn ogystal â sefydlu Uned Troseddau Economaidd newydd i fynd i'r afael â thwyllwyr, darparodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyllid hefyd i dalu am swyddog ymroddedig i gefnogi dioddefwyr twyll ac, yn yr un modd, creodd Mr Jones hanes pan ariannodd benodiad swyddog cymorth yr heddlu i helpu dioddefwyr caethwasiaeth fodern. Y penodiad cyntaf o’i fath yn y DU.
Mae'r ddau swyddog wedi'u lleoli yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy sy'n derbyn cyllid gan Mr Jones ac sy’n darparu cefnogaeth a chyngor i ddioddefwyr troseddau o bob rhan o’r Gogledd.
Fel ymgyrchydd hir dymor dros ddiwygio deddfwriaeth cyffuriau, mae Mr Jones hefyd yn falch ei fod wedi helpu i newid barn y cyhoedd ar y mater yn ogystal â lansio llu o fentrau arloesol.
Yn eu plith y mae cynllun arloesol Checkpoint Cymru - y cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru - i dywys troseddwyr lefel isel, gan gynnwys pobl sy'n cael eu dal â chyffuriau yn eu meddiant at ddefnydd personol, i ffwrdd o droseddu.
Yna yn gynharach eleni bu Mr Jones yn allweddol wrth sefydlu prosiect peilot yn Sir y Fflint pan ddaeth y swyddogion heddlu yno ymysg y cyntaf yng Nghymru i gario chwistrell trwynol achub bywyd o'r enw Naloxone sy'n gweithredu fel gwrthwenwyn i orddos cyffuriau.
Unwaith y bydd canlyniadau'r prosiect peilot yn cael eu gwerthuso, gobaith y Comisiynydd yw gallu cyflwyno'r fenter ledled gogledd Cymru.
Y penderfyniad unigol mwyaf a wnaeth Mr Jones yn ystod ei dymor yn y swydd oedd penodi Prif Gwnstabl newydd ac mae wrth ei fodd gydag “arweinyddiaeth ragorol” y Prif Gwnstabl ers iddo gael y brif swydd.
Dywedodd Mr Jones: “A dweud y gwir, mae proffesiynoldeb swyddogion heddlu ifanc yr wyf wedi eu cyfarfod dros y pum mlynedd diwethaf wedi gwneud argraff fawr arnaf.
“Nid oes unrhyw beth yn aros yn ei unfan ym maes plismona. Mae'n rhaid i'n swyddogion ddelio â thueddiadau newydd a phryderus fel troseddau ar-lein a cham-drin plant yn rhywiol. Ond nid yw'r rhain yn faterion y gall yr heddlu fynd i'r afael â hwynt ar eu pennau eu hunain - er enghraifft, gall y Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd wneud llawer i atal meithrin perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin plant.
“Mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae’r troseddwyr yn addasu ac mae’n rhaid i’r heddlu addasu yr un mor gyflym a dyna pam rydyn ni wedi cynyddu’r staff yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr.
“Un o themâu yn ystod fy nhymor yn y swydd fu’r bartneriaeth gyda’r Trydydd Sector sy’n darparu cefnogaeth i oroeswyr a phobl agored i niwed.
“Rwy’n gefnogwr mawr o’r Trydydd Sector. Maen nhw’n gallu darparu gwasanaeth dipyn cynt nag y gall asiantaeth sector cyhoeddus ei wneud. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl go iawn, yn enwedig o ran darparu cefnogaeth i oroeswyr cam-drin yn y cartref.
“Rwy'n credu mai un o'r pethau i mi ei gyflawni yr wyf fwyaf balch ohono oedd darparu arian ychwanegol i brynu camerâu corff ar gyfer heddweision.
“Mae wedi profi i fod yn benderfyniad da oherwydd ei fod wedi darparu tystiolaeth sydd wedi helpu i sicrhau collfarnau ar achosion o drais domestig a cham-drin yn y cartref.
“Mae ffurfio’r Uned Caethwasiaeth Fodern yn llwyddiant arall yr wyf yn falch ohono ac mi grëwyd hanes pan benodais y swyddog cymorth cyntaf erioed i helpu dioddefwyr caethwasiaeth fodern.
“Yn ddiwylliannol, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi newid dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'r ffordd y mae'r heddlu'n gweithredu erbyn hyn yn ymwneud â thrawma a sut mae'n llywio plismona, gyda gwell gwasanaethau i aelodau bregus o'r gymuned – boed nhw’n droseddwyr neu'n ddioddefwyr.
“Rydym wedi ceisio mynd i’r afael ag achosion troseddu nid y symptomau yn unig a dyna’r peth iawn i’w wneud. Rydym yn gwneud llawer iawn o waith ataliol trwy edrych ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a all gael effaith enfawr ar ymddygiad yn y dyfodol.
“Yn amlach na pheidio, yr achos sylfaenol yw bod rhywbeth trawmatig wedi digwydd ym mywydau pobl, gan gynnwys cael eu cam-drin fel plant. Mae materion iechyd meddwl yn mynd law yn llaw â defnydd problemus o gyffuriau ac mae pobl yn y sefyllfa honno'n dioddef llu o broblemau.
“Un o’r pethau yr wyf fwyaf balch ohono yw bod barn y cyhoedd ynghylch mater cyffuriau wedi newid a symud ymlaen.
“Yr hyn sydd fwyaf rhwystredig i mi gyda’r sector cyhoeddus yw’r ffaith eu bod yn adweithiol yn hytrach nag yn ataliol.
“Mae angen i ni atal cylch dieflig o bobl yn mynd i mewn ac allan o’r Gyfundrefn Cyfiawnder Troseddol. Yn hytrach na pharhau â’r cylch o droseddu a chosbi, mae angen i ni dorri'r patrwm hwnnw fel bod llai o droseddau a llai o ddioddefwyr.”