Skip to main content

Arian troseddwyr yn rhoi hwb i grwpiau cymunedol

Dyddiad

Dyddiad
1808PCC01

Mae cronfa arbennig sy’n defnyddio arian sydd wedi ei atafaelu oddi wrth droseddwyr er mwyn helpu grwpiau cymunedol yng Ngogledd Cymru, yn mynd i gynyddu’r arian sydd i’w ddosbarthu i dros £200,000 mewn pum mlynedd.

Mae’r Gwobrau Eich Cymuned, Eich Dewis unwaith eto yn cyfrannu dros £40,000 i grwpiau lleol ac mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn annog grwpiau lleol i wneud cais am yr arian.

Mae’r Gronfa Gymunedol yn cael ei sefydlu gan Mr Jones, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT).

Bydd pob un o chwe sir y rhanbarth yn cael £2,500 yr un i’w rannu rhwng dau grŵp o fewn pob rhanbarth, ac yn ychwanegol bydd £5,000 yr un ar gyfer dau grŵp sy’n gweithredu ar draws Gogledd Cymru.

Bydd y grŵp llwyddiannus yn cael ei ddewis gan bleidlais gyhoeddus ac mae’n bosib gwneud cais rhwng dydd Llun 4 Medi, a dydd Sadwrn 30 Medi, ac mae’r ffurflen gais Eich Cymuned, Eich Dewis ar gael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru gyda dolen iddo ar wefan Comisiynydd yr Heddlu.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei dewis gan banel arbennig a bydd pleidleisio yn agor i’r cyhoedd ar 30 Hydref ac yn rhedeg tan 1 Rhagfyr, a’r bleidlais honno fydd yn dewis yr enillwyr.

Mae’r arian ar gyfer y gwobrau yn dod yn rhannol o arian sydd wedi ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r gwobrau yma’n bwysig oherwydd maen nhw’n  sicrhau bod y gymuned yn rhan o’r broses, a’r cymunedau sydd yn dewis ble dylai’r arian gael ei wario.

Mae llawer o’r pethau rydym yn eu hariannu yn ceisio darparu rhywbeth i bobl ifanc ei wneud yn eu hamser rhydd yn hytrach na chael eu temtio i droseddu neu gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Rydym eisiau cefnogi cymunedau fel eu bod yn medru cymryd cyfrifoldeb dros eu hardaloedd eu hunain.

Mae grwpiau cymunedol llai yn medru gwneud llawer o waith i wneud cymunedau yn fwy diogel, lleihau troseddu a lleihau aildroseddu. Mae hefyd yn anfon neges gref i’r cymunedau gan ei fod yn dangos ein bod yn gwrando arnynt.

Cafodd ei neges ei chefnogi gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki a ychwanegodd: “Dyma bumed flwyddyn y cynllun ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr gan ei fod yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ac i gymunedau lleol leisio eu barn ynghylch sut rydym yn delio â materion lleol a sut rydym yn mynd i’r afael â throsedd ac anrhefn gyda’n gilydd.

Rwy’n cael boddhad arbennig o hyn gan fod rhan o’r gronfa yn dod o’r enillion troseddau, felly mae’r arian yn dod allan o bocedi troseddwyr a’u henillion anghyfreithlon sy’n cael eu cymryd gan y llysoedd, ac yn cael eu rhoi yn ôl i fentrau cymunedol.

Mae’n troi arian drwg yn arian da ac mae’n gwneud gwahaniaeth mawr gan mai pobl leol sy’n adnabod a deall materion lleol a sut i ddelio â nhw.

Mae hon yn agwedd bositif iawn o’r cynllun ac mae’n ein helpu i ddod yn agosach at y cymunedau yma.

Dywedodd Cadeirydd PACT David Williams: “Credaf fod y cynllun wedi bod yn hynod o lwyddiannus ac rwy’n croesawi’r symbolaeth a synergedd rhwng cael gafael ar enillion anghyfreithlon gweithgareddau troseddol yng Ngogledd Cymru a’u hailddosbarthu i gymunedau yng Ngogledd Cymru er mwyn cefnogi prosiectau a fydd yn eu tro o fudd i’r  boblogaeth leol.

Rwyf wedi ymweld â rhai o’r prosiectau yma ac roedd yr ymrwymiad a’r penderfyniad a welais yn ysbrydoledig.

Mae amcanion cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis yn cefnogi amcanion cynllun y Comisiynydd Heddlu a Throsedd felly mae’n creu strategaeth gref er mwyn ehangu lles trefi a phentrefi ar draws Gogledd Cymru.

Ychwanegodd Dave Evans, rheolwr PACT: “Mae rhaid i ymgeiswyr fod yn grŵp cyfansoddol neu’n elusen gofrestredig a’r prif feini prawf yw bod y prosiect yn helpu i gefnogi’r Cynllun Heddlu a Throsedd gan wneud cymdogaethau yn fwy diogel.

Mae’n rhoi cyfle i ni ymgysylltu ag ystod eang o grwpiau cymunedol ac yn rhoi cyfle i dimau plismona cymdogaethau lleol i ymgysylltu â’r grwpiau hyn a chefnogi eu prosiectau.

Byddwn yn argymell ymgeiswyr sy’n ystyried gwneud cais i drafod gyda’r timau plismona cymdogaethau lleol er mwyn gwneud yn siŵr bod y cynllun mor gynhwysfawr â phosib.”

Y dyddiad agor ar gyfer ceisiadau yw 4 Medi ac mae rhaid i’r ceisiadau gael eu cwblhau a’u dychwelyd drwy e-bost i yourcommunityyourchoice@nthwales.pnn.police.ukerbyn 5yp ar 30 Medi.