Dyddiad
Mae sinema sydd wedi dychwelyd i dref ar Ynys Môn ar ôl dros 40 mlynedd er mwyn helpu i gadw pobl ifanc lleol allan o drwbl wedi derbyn hwb - diolch i arian sydd wedi eu hatafaelu gan droseddwyr.
Ers iddo gael ei sefydlu llynedd mae Grŵp Cymunedol #caruamlwch wedi denu dros 1,000 o ddilynwyr ffilmiau i’w dangosiadau rheolaidd yn y Neuadd Goffa yn Amlwch.
Mae’r rhain yn cynnwys nifer o bobl ifanc sydd wedi cael eu diddanu gan y sesiynau, ac o ganlyniad mae llai o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc yn y dref.
Ac yn awr mae’r dangosiadau ffilmiau teuluol poblogaidd yn anelu am gynulleidfa fwy gyda help grant o £2,500 oddi wrth gronfa arbennig sy’n cael ei ddosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.
Mae’r cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), sy’n dathlu ei 20fed blwyddyn yn 2018.
Hon yw pumed flwyddyn y cynllun dosbarthu arian ac mae wedi dosbarthu £160,000 i achosion haeddiannol. Cafodd llawer o hwnnw ei adennill trwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, sy’n defnyddio arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr, a’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae’r cynllun wedi’i fwriadu ar gyfer cyrff sy’n addo rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn, yn unol â blaenoriaethau’r Comisiynydd yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.
Eleni, mae 14 o grantiau ynghyd â chyfanswm o bron £40,000 wedi mynd i gefnogi cynlluniau gan gyrff cymunedol, a’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy bleidlais ar lein. Roedd 35 o brosiectau’n cystadlu, a chafodd bron i 10,000 o bleidleisiau eu bwrw.
Yn ystod seremoni Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, dywedodd Llinos Wyn Williams, cadeirydd y Grŵp Cymunedol gwirfoddol a di-elw: “Rydym wedi cael ffigyrau cynulleidfa dda ers dechrau ac mi wnaethon ni groesawu 190 i ddangosiad ffilm cyn y Nadolig.
Y sinema yw'r un gyntaf yn Amlwch ers i’r pictiwrs lleol gau dros 40 mlynedd yn ôl ac mae’r ymateb lleol wedi bod yn rhyfeddol, gan gynnwys ymateb positif gan nifer o bobl ifanc.
Rydym wedi gweld gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc ac rydym yn awyddus i gadw’r momentwm i fynd gyda’n partneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru.
Y bwriad yw dangos ffilmiau i bob oed gan gynnwys clybiau ffilmiau i bobl ifanc sy’ gallu gwirfoddoli gyda gwaith marchnata a hysbysebu a helpu yn ystod digwyddiadau drwy werthu tocynnau a lluniaeth ysgafn.
Rydym yn sicr y bydd y prosiect sinema yn gweithio mewn dwy ffordd – fel rhywbeth hwyliog a fforddiadwy i’w wneud a hefyd fel ffordd o wella sgiliau, gwybodaeth a hyder y bobl ifanc.”
Ychwanegodd Llinos: “Byddwn yn defnyddio’r grant i brynu system dosbarthu cynnwys digidol drwy FilmBank am £1,200 felly byddwn yn medru dangos ffilmiau newydd a bydd hyn yn helpu teuluoedd sy’n methu fforddio mynd i sinemâu yn Llandudno neu Gaergybi.
Bydd gweddill yr arian yn cael ei wario ar roi hyfforddiant iechyd a diogelwch i’n gwirfoddolwyr ifanc.”
Y grŵp llwyddiannus arall o’r sir yw Datblygu Chwaraeon Ynys Môn sydd wedi derbyn £2,500 ar gyfer eu Cynllun Ffitrwydd Dydd Gwener.
Bwriad y cynllun yw cynnwys pobl ifanc mewn sesiynau chwaraeon wythnosol yng Nghanolfan Hamdden David Hughes ym Mhorthaethwy a Chanolfan Hamdden Amlwch lle gallant gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n amrywio o bêl-droed a badminton i hyfforddiant cylchol a dawnsio/zumba.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ar y cyd â’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki. Dywedodd Arfon Jones: “Rydw i’n hynod falch bod cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru am y chweched flwyddyn yn olynol.
Yn ddiweddar, mi wnes i lansio Polisi Gwerth Cymdeithasol, sy’n ceisio ehangu ein cefnogaeth i gymunedau lleol ac mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn gyfle i mi wneud yn union hynny.
Mae hon yn gronfa unigryw sy’n gadael i’n cymunedau ddewis pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol, ac mae’r ymateb yn dangos y gall cymunedau weithio efo’i gilydd i wneud ein llefydd cyhoeddus ni’n fwy diogel.
Rydw i wedi ymweld â nifer o’r prosiectau oedd yn llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael argraff arbennig o dda o’r gwaith ddigwyddodd. Mae'n sicrhau bod ein cymunedau ni’n parhau i fod yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig i fyw, gweithio ac i ymweld â nhw.
Mae cyflawni Cymdogaethau Diogelach yn un o’r blaenoriaethau allweddol i mi yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ac rydw i’n falch iawn bod eich sefydliadau chi wedi datblygu prosiectau sy’n cefnogi’r Cynllun hwn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki: “Cafodd yr arian rydych wedi’i dderbyn ei ddarparu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a thrwy asedau wedi’u cymryd oddi ar droseddwyr o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
Mae hon yn neges arbennig o bwysig am fod proffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth y Llysoedd, yn golygu ein bod ni wedi gallu taro’r troseddwyr lle mae’n brifo – yn eu pocedi.
Dyma’r bumed flwyddyn o arian Eich Cymuned, Eich Dewis, ac yn ystod yr adeg hon mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adennill £2.3 miliwn o arian ac asedau. Daeth £627,000 ohono yn ôl i Ogledd Cymru oddi wrth y Swyddfa Gartref, i gefnogi cynlluniau fel hyn.
Mae’n gyrru neges gadarnhaol iawn bod arian sydd wedi’i gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg i fod yn arian da."
Ychwanegodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru, David Williams: “Rydym yn arbennig o falch o fedru helpu i weinyddu’r gronfa hon.
Rwy’n credu bod rhoi grantiau ar raddfa mor eang ar draws y cyfan o Ogledd Cymru, o’r pen pellaf yn y gorllewin i’r pen arall yn y dwyrain, yn gyrru neges gref i gymunedau i geisio cael rywfaint o’r arian hwn, mae o yna ar eu cyfer nhw.
Mae’n briodol iawn mai un o’r amodau ydi bod angen i bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn fod yn gwneud rhywbeth yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu’n rhoi sylw i drosedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd arall.
Mae’r nodau mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ceisio’u cyrraedd hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun Trosedd ac Anhrefn y Comisiynydd, ac felly mae’n creu cylch rhinweddol.”
Capsiynau: Ynys Môn 1 1801Cymuned15: Richard Griffiths a Llinos Wyn Williams o Caru Amlwch yn derbyn eu gwobr Eich Cymuned Eich Dewis, gyda nhw yn y llun y mae, o’r chwith, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a Chadeirydd PACT David Williams.