Dyddiad
I gymeryd rhan yn ein Arolwg Praesept 2021 ewch at: https://www.surveymonkey.co.uk/r/ArolwgYPraeseptGC
Dogfennau arolwg 'Hawdd i'w Darllen' a rhyngweithiol:
Datganiad Wasg:
Mae pennaeth heddlu wedi datgelu cynlluniau ar gyfer cynnydd o 25c yr wythnos yng nghost plismona er mwyn ei helpu i ddwyn mwy o bwysau ar droseddwyr rhyw ar-lein a gangiau llinellau cyffuriau.
Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, y byddai'r cynnydd - sy'n cyfateb i gost galwad ffôn un munud - hefyd yn ei alluogi i sefydlu Uned Troseddau Economaidd newydd i frwydro yn erbyn y cynnydd yn nifer yr achosion o dwyll.
Byddai'r cynnydd arfaethedig o 4.5 y cant, y credir ei fod yr isaf yng Nghymru, yn costio £12.51 y flwyddyn yn unig i ddeiliaid tai Band D.
O dan y cynigion, byddai Tîm Prif Droseddau yr heddlu yn cael 10 swyddog ychwanegol gyda thros 20 o staff heddlu ategol newydd hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi cynlluniau'r Comisiynydd i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed.
Byddai'r rheng flaen yn cael ei chryfhau gydag 16 swyddog ymateb ychwanegol yn ogystal ȃ phum swyddog diogelwch cymunedol arall yn cael eu penodi, gan gynnwys tri swyddog newydd ar gyfer y Tîm Troseddau Gwledig arloesol.
Bydd Mr Jones yn gofyn am gefnogaeth Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i'r cynnydd arfaethedig mewn cyfarfod ar ddydd Gwener (Ionawr 31).
Mae arolwg barn ar-lein a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd wedi canfod bod bron i dri chwarter yr ymatebwyr yn cefnogi cynnydd o 4.5 y cant neu fwy.
Mae'r arolwg barn hefyd yn datgelu cefnogaeth bendant i flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd gyda 95 y cant yn cefnogi ei ryfel ar gangiau troseddau cyfundrefnol a'r ymgyrch i sicrhau cymdogaethau mwy diogel.
Mae ei ymgyrchoedd yn erbyn cam-drin yn y cartref a cham-drin rhywiol a cham-fanteisio troseddol hefyd yn denu cefnogaeth dros 90 y cant o’r ymatebwyr tra bod pedwar o bob pump hefyd yn cefnogi ei ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth fodern.
Dywedodd Mr Jones, sy'n gyn arolygydd heddlu ei hun: “Rwy’n falch ein bod unwaith eto wedi gallu sicrhau cynnydd canran sydd gyda'r isaf o blith heddluoedd Cymru tra’n helpu unwaith eto i gynyddu plismona rheng flaen.
“Rwy’n cael fy ethol gan bobl Gogledd Cymru felly mae hefyd yn bwysig fy mod i’n gwrando arnyn nhw a’u pryderon ac mae’n dda gwybod hefyd eu bod yn cymeradwyo’r blaenoriaethau plismona a nodwyd gennyf.
“Rwy’n gweithio gyda’r Prif Gwnstabl a’i uwch dîm i sicrhau ein bod yn gallu rhoi’r arfau priodol iddo i wneud y gwaith ac mae wedi cadarnhau y bydd y cynnydd hwn yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar Heddlu’r Gogledd.
“Rwy’n credu bod y cynnydd arfaethedig yn llwyddo i gael y cydbwysedd cywir a darbodus rhwng yr hyn y gall trethdalwyr ei fforddio a sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol gan wneud y rhanbarth yn un o’r mannau mwyaf diogel i fyw ynddo yn y DU a hefyd amddiffyn rhai sy'n agored i niwed.”
Canfu’r arolwg ar-lein diweddaraf hefyd fod gan dros 70 y cant farn gadarnhaol am berfformiad Heddlu Gogledd Cymru a bod bron i 80 y cant o blaid y ffordd y mae’r Comisiynydd wedi ymgynghori â’r cyhoedd.
Ychwanegodd Mr Jones: “Mae natur plismona wedi newid yn aruthrol ac rydym yn wynebu heriau newydd a chynyddol felly mae'n rhaid i’r heddlu esblygu ac addasu yn unol â hynny.
“Er gwaethaf gorfod wynebu toriadau llym iawn dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn buddsoddi yn ein rheng flaen, yn proffesiynoli ein rheng flaen ac gwneud ein hunain yn addas ar gyfer y dyfodol.”
I gymeryd rhan yn yr arolwg ewch at: https://www.surveymonkey.co.uk/r/ArolwgYPraeseptGC