Dyddiad
Gall unrhyw un sydd angen cymorth gysylltu â DASU trwy eu gwefan www.dasunorthwales.co.uk/contactneu drwy ffonio 01244 830436 (Sir y Fflint), 01745 337104 (Sir Ddinbych), 01492 534705 (Colwyn) neu 01978 310203 (Wrecsam).
Mae mam i ddau o ddau a gafodd ei thagu, ei dyrnu ac ergyd i’w phen gan ei phartner milain yn dweud y bydd hwb o £320,000 i elusen cam-drin domestig “yn arbed bywydau”.
Mae Roxy, 29 oed, nid ei henw iawn, bellach yn cael ei bywyd yn ôl ar y trywydd iawn gyda chymorth Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru (DASU) ar ôl dianc o'r berthynas greulon.
Mae'r arian ychwanegol ar gyfer DASU - sy'n gweithredu ledled Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy - wedi dod gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, sydd newydd ei ethol ac sy'n ymgyrchydd angerddol ers amser hir yn erbyn cam-drin domestig.
Mae'n rhan o becyn cyllid gwerth £1.3 miliwn a sicrhawyd gan Mr Dunbobbin a fydd yn cael ei rannu ymhlith nifer o sefydliadau yng ngogledd Cymru sy'n cefnogi goroeswyr cam-drin domestig fel Roxy.
Ymhlith y sefydliadau eraill sydd wedi derbyn cymorth ariannol y mae Cerrig Camu Gogledd Cymru, y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC), y Ganolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru a Gorwel.
Yn achos DASU, mae’n golygu y byddant yn gallu cyflogi saith o Gynghorwyr Cam-drin Domestig Annibynnol ychwanegol, sy’n gweithio gyda dioddefwyr risg uchel, ynghyd â dau weithiwr cymorth arall.
Mae wedi dod ar yr adeg iawn oherwydd mae DASU wedi gorfod delio â chynnydd sylweddol mewn achosion ar draws y pedair sir yn ystod y pandemig, gyda chynnydd o 40 y cant yn ardal Wrecsam.
Penderfynodd Roxy siarad allan yn y gobaith o ysbrydoli dioddefwyr camdriniaeth i geisio cymorth yn hytrach na dioddef mewn distawrwydd.
Yn ôl Roxy, fe wnaeth ei phartner “fachu ynddi” ar ôl iddyn nhw gyfarfod trwy ffrindiau a symud i mewn gyda hi – ond cyn hir daeth ei ochr gas, dreisgar i’r amlwg.
Wrth gofio yn ôl meddai: “Mi wnaeth o fy nyrnu yn fy wyneb, fy nharo yn fy mhen, a rhoi ei ddwylo o amgylch fy ngwddf nes mod i’n methu anadlu.
“Ar un achlysur roedd yn penlinio arna i, yn eistedd arna i, yn rhwygo ei ddillad ei hun ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn mynd i ymosod arna i.
“Pan lwyddais i’w gael i fynd i ffwrdd, daeth yn ôl yng nghanol y nos, torri i mewn trwy ffenest fy nghegin. Mi wnaeth o ddwyn oddi arna i, ymosod arna i, a bygwth fy nhrywanu.
“Unwaith i mi fynd allan, mi wnaeth o hollti ei arddyrnau yn fy nhŷ. Roedd gwaed ym mhobman.
“Cymerodd gryn dipyn o amser i’r heddlu ei arestio oherwydd ei fod mor wyllt, yn poeri arnyn nhw, yn taflu gwaed arnyn nhw.
“Wrth iddo golli rheolaeth arnaf i, roedd o'n colli rheolaeth ar ei feddwl ei hun. Dyna beth roeddwn i'n teimlo. Unwaith yr oedd o’n colli rheolaeth ar fy meddwl i, mi fyddai o’n colli rheolaeth ar ei feddwl ei hun.”
“Mae’r gefnogaeth rydw i wedi ei gael gan DASU wedi bod yn anhygoel ac mae Karen, fy Nghynghorydd Cam-drin Domestig Annibynnol, yn hollol anhygoel. Mae hi'n fy nghefnogi efo popeth, mae hi fel fy mam.
“Mae'r arian ychwanegol hwn gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn mynd i dalu am saith Karen arall ac yn sicr mae hynny'n mynd i achub bywydau.
“Fy neges i unrhyw un arall sydd allan yna yn dioddef yw y dylen nhw aros yn gryf a cheisio cymorth. Mae pobl yn mynd i'ch credu chi ac mi fedrwch chi gyrraedd lle gwell.”
Ategwyd y teimlad hynny gan bennaeth gwasanaethau DASU, Naomi Mumba-Dobson, pan ymwelodd Mr Dunbobbin â swyddfa newydd y sefydliad yn Wrecsam.
Meddai: “Mae'r cyllid ychwanegol hwn gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn hwb enfawr i ni oherwydd y cynnydd o 40 y cant mewn achosion ac rydym yn hynod ddiolchgar i Mr Dunbobbin. Mae'n newyddion anhygoel i ni.
“Fel arfer, byddai gan Gynghorydd Cam-drin Domestig Annibynnol lwyth achos o tua 25 o gleientiaid ond ar hyn o bryd, maen nhw'n cario llwyth achos rhwng 35 a 40 ac mae'r rhain yn risg uchel iawn o ddioddef pethau fel dynladdiad. Mae angen cefnogaeth ddwys arnyn nhw.
“Mae cam-drin domestig hefyd yn cael effaith fawr ar blant ac mae’r cyllid ychwanegol hwn yn mynd i ariannu dau aelod o staff arbenigol i weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn risg uchel.
“Mewn gwirionedd rydym wedi bod yn ymladd tân trwy gydol pandemig Covid oherwydd bod y niferoedd wedi bod yn cynyddu ac mae cael y saith o Gynghorwyr Cam-drin Domestig Annibynnol newydd a dau aelod o staff cymorth yn golygu y byddwn ni'n gallu rheoli'r atgyfeiriadau newydd sy'n dod drwodd.
“Gallwn hefyd edrych ar ôl ein staff a’u lles hefyd oherwydd gall gweithio gyda thrawma bob dydd gael effaith arnyn nhw hefyd.”
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin: “Rwyf wedi bod yn ymwybodol o’r gwaith aruthrol a wnaed gan DASU ers 2013 pan ddeuthum yn Llysgennad Rhuban Gwyn
“Yn ystod fy ymweliad, roeddwn yn falch o gael cyfle i siarad â Roxy sydd wedi cael amser trawmatig iawn ac sydd bellach yn dod allan ohono.
“Mae hi’n ferch ifanc hynod ysbrydoledig a dewr a gobeithio y bydd ei stori yn annog eraill i geisio cymorth.
“Gobeithio y bydd chwistrelliad o gyllid ychwanegol yn galluogi DASU i helpu llawer mwy o oroeswyr cam-drin domestig a’u cael i le gwell.
“Yr agwedd arall yw pwysigrwydd gwaith ataliol trwy fod yn rhagweithiol i geisio atal y cam-drin rhag digwydd yn y lle cyntaf.
“Dyna pam mae mynd i’r afael â cham-drin domestig yn un o fy mhrif flaenoriaethau ac ni allaf bwysleisio digon pa mor gryf ac angerddol rwy’n teimlo amdano.
“Mae'r gwaith y mae DASU yn ei wneud yn anhygoel. Mae'n llythrennol yn arbed bywydau ac ni allwch roi pris ar hynny.”
Gall unrhyw un sydd angen cymorth gysylltu â DASU trwy eu gwefan www.dasunorthwales.co.uk/contactneu drwy ffonio 01244 830436 (Sir y Fflint), 01745 337104 (Sir Ddinbych), 01492 534705 (Colwyn) neu 01978 310203 (Wrecsam).