Dyddiad
Mae clwb bocsio hanesyddol o Sir y Fflint sydd â hanes o gynhyrchu pencampwyr yn taro nôl ar ôl y cyfnod clo.
Sefydlwyd Clwb Bocsio Bwcle dros 100 mlynedd yn ôl ac unwaith eto mae ei sesiynau rheolaidd yn y gampfa oddi ar Drury Lane yn y dref yn denu dros 300 o focswyr rhwng chwech a 60 oed.
Mae’r clwb wedi cael ei ganmol am ei gyfraniad i'r gymuned ac i iechyd meddwl gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, a fu ar ymweliad â Bwcle yn ddiweddar.
Meddai: “Maen nhw'n gwneud gwaith gwych yma ac wedi bod wrthi ers dros ganrif ac rwy'n siŵr eu bod nhw'n chwarae eu rhan wrth gadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol.
“Mae'n dda dod yma i weld y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud yn y gymuned a'r gefnogaeth maen nhw'n ei gynnig, yn enwedig i bobl a allai fod yn dioddef gyda materion iechyd meddwl yn yr amseroedd anodd hyn.
“Mae hynny’n cynnwys pobl sydd wedi bod yn y Lluoedd yn Affganistan ac yn fy rôl fel aelod dros y Lluoedd Arfog ar Gyngor Sir y Fflint mae hynny yn taro tant gyda mi.
“Maen nhw wir yn helpu pobl o bob oed yn yr ardal hon ac yn eu rhoi ar lwybr da ac mae hynny i’w ganmol.”
Yn 2018 derbyniodd y clwb bocsio grant o £2,000 o gronfa Eich Cymuned Eich Dewis sydd hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT).
Dros yr wyth mlynedd diwethaf mae'r gronfa wedi dosbarthu £280,000 i achosion haeddiannol gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr gyda'r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Mae hwn yn brosiect cymunedol sydd wedi hen ennill ei blwyf ers dros 100 mlynedd ac mae'n dangos lefel yr ymrwymiad a'r ymateb cadarnhaol y mae wedi'i gael yn lleol erioed.
“Dros y blynyddoedd mae PACT wedi cefnogi’r clwb bocsio ac wedi bod mewn partneriaeth agos efo’r Comisiynydd i annog y clwb a sefydliadau tebyg.
“Rwan ein bod, gobeithio, yn dod allan o’r cyfnodau clo Covid mae iechyd meddwl cadarnhaol a lles corfforol yn hollbwysig ac mae hwn yn glwb gwych i ni ei gefnogi.”
Cafodd cadeirydd y Clwb Bocsio, Mark Field, sy’n dod yn wreiddiol o Gaer, yrfa focsio amatur nodedig a throdd yn broffesiynol gyda’r bwriad o ymladd ei ornest gyntaf yn erbyn darpar bencampwr y byd, Joe Calzaghe, ond yn dilyn sgan arferol datgelwyd coden ar ei ymennydd.
Daeth hynny â’i yrfa i ben ond ochr yn ochr â’r ysgrifennydd Jim Williams a thîm ymroddedig o hyfforddwyr gwirfoddol mae wedi gweld y clwb yn mynd o nerth i nerth a sicrhau cyfleusterau gwell.
Dywed Mark, sy’n nyrs iechyd meddwl cofrestredig yn Rhiwabon: “Mae’r clwb wedi cael nifer o bencampwyr Cymru dros y blynyddoedd ac mae gennym ddigon o focswyr addawol da yma ar hyn o bryd ond beth sydd wir yn bwysig yw bod y plant yn dod yma ac yn mwynhau.
“Mae hefyd wedi bod yn bwysig iawn i iechyd meddwl pobl ac mae hynny'n fy nghynnwys i oherwydd fy mod i wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol ac fe wnaeth y siom o fethu â throi’n focsiwr proffesiynol gael effaith arnaf.
“Roeddwn yn dioddef o iselder er fy mod i’n nyrs iechyd meddwl ac mae pethau’n anodd i bobl, yn enwedig ar hyn o bryd ac rydym am wneud y bobl o bob oed sy’n dod yma yn hapus.
“Mae hynny'n berthnasol i'r rhieni sy'n dod â'u plant yma hefyd oherwydd mae pob un ohonom sy'n cymryd rhan yma yn angerddol iawn am Glwb Bocsio Bwcle.”
Ymhlith y rhai sy’n gweithio gyda’r bobl ifanc mae Luis Gonzalez, 18 oed, o Fwcle, pencampwr iau Cymru yn y dosbarth 70kg ac sydd bellach yn anelu at fod yn bencampwr uwch nesaf Bwcle yn y dosbarth 80kg.
Meddai: “Dechreuais ddod yma yn 14 oed ac rwyf wedi bod yma byth ers hynny ac rydw i wrth fy modd. Mae pawb yma mor gefnogol.
“Rydw i jyst yn ceisio cael cymaint o brofiad yma ag y medra i ac yn gobeithio ennill teitl uwch Cymru i’r clwb a throi’n broffesiynol ymhen dwy neu dair blynedd.”
Mae Shay Taylor, 11 oed, o Benarlâg yn aelod o’r clwb ers chwe blynedd ac meddai: “Rydw i wedi bod yn dod yma ers pan oeddwn i'n bump oed ac rydw i wrth fy modd efo popeth.
“Bocsiwr oedd fy nhad a hoffwn fynd yn focsiwr proffesiynol - fy arwyr yw Mike Tyson a Tyson Fury.”
Dywedodd Kayden Johnson, naw oed, o Gei Connah: “Dechreuais yma chwe mis yn ôl ac mae’n dda iawn ac mae pawb yn eich helpu. Rwy'n hoffi bod yn y sgwâr bocsio i fyny'r grisiau orau.”