Dyddiad
Mae comisiynydd heddlu wedi addo gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y Gymraeg yn derbyn statws cyfartal gan Heddlu Gogledd Cymru.
Cafwyd datganiad gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar ôl i ringyll yr heddlu ddweud bod rhai cydweithwyr o’r farn bod siarad Cymraeg yn “boendod” ac y gallai niweidio eu gyrfaoedd.
Daeth y mater i’r amlwg yn wreiddiol mewn erthygl a ysgrifennwyd gan y Rhingyll Bevan yng nghylchlythyr Ffederasiwn yr Heddlu, Our Voice.
Yn ôl y Comisiynydd, roedd gallu siarad Cymraeg yn y gweithle yn “hawl sylfaenol a phendant”.
Dywedodd ei bod yn hollbwysig na ddylid ystyried y Gymraeg fel rhwystr i gael dyrchafiad.
Datgelodd bod yr heddlu yn cynllunio uwchgynhadledd ar y Gymraeg yn ystod y Gwanwyn y flwyddyn nesaf er mwyn trafod sut y gallant, gyda’u partneriaid, gyfrannu at gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn.
Dywedodd Mr Jones: "Rwy’n ymwybodol o’r sylw diweddar yn y wasg am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn Heddlu Gogledd Cymru a bod rhai cwestiynau wedi’u codi ynglŷn â’r ffordd yr wyf i, fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif o ran yr Iaith Gymraeg.
Yn ogystal â sicrhau bod fy swyddfa i fy hun yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, mae fy nhîm a minnau’n gweithio’n ddiflino i sicrhau nad yw Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi triniaeth lai ffafriol i’r Gymraeg na’r Saesneg.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru a minnau Gynllun Iaith Cymraeg ar y Cyd ac mae fy nhîm a minnau yn craffu ar gydymffurfiaeth gyda’r Cynllun hwnnw yn rheolaidd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a minnau, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Ngogledd Cymru, wedi mabwysiadu’r egwyddor y byddwn yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae’r cynllun yn disgrifio sut y bydd Heddlu Gogledd Cymru a minnau’n gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru.
Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda’r Prif Gwnstabl a’r heddlu, mewn cyfarfodydd un i un a thrwy Grŵp Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru, sut y gallwn wella’r gwasanaeth y gall Heddlu Gogledd Cymru ei gynnig i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, yn ein cymuned ac i staff o fewn y sefydliad.
Mae fy nghydweithiwr, Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, wedi ysgrifennu at y Coleg Plismona, i’w herio ar yr angen i beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol yn ystod hyfforddiant ac asesiadau ac rwy’n ei gefnogi’n llwyr gyda’r her honno.
Fel siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf rhugl, rydym bob amser yn ymwybodol ac yn wyliadwrus nad yw’r Gymraeg yn derbyn triniaeth lai ffafriol.
Yn ogystal â chael ei hymgorffori yn y gyfraith ac yn Safonau newydd y Gymraeg, mae’n rhaid i’r cyfle i allu dewis yr iaith o’ch dewis chi yn eich cymuned leol a’ch gweithlu gael ei ystyried yn hawl sylfaenol a phendant.
Nid dim ond iaith yw’r Gymraeg - mae’n rhan o’n treftadaeth a’n diwylliant lleol, ac mae wedi’i hymgorffori yn ein bywydau pob dydd.
Mae’n hollbwysig, yn ogystal â bod yn gywir yn foesol a’r peth cywir i’w wneud, bod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi’r un statws cyfartal i’r Gymraeg â’r Saesneg.
Rwy’n hyderus y bydd y neges hon yn cael ei hailadrodd gan brif swyddogion i bob aelod o staff yn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae fy nhîm a minnau’n craffu’n gyson ar y ffordd mae Heddlu Gogledd Cymru yn ceisio denu mwy o geisiadau gan siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith o gymunedau Cymreig, i ymuno â’r heddlu fel swyddogion neu staff yr heddlu. Mae rhan o hyn yn cynnwys datblygu mwy o gysylltiad gyda siaradwyr Cymraeg a chynrychiolwyr grwpiau’r Gymraeg yn ein cymunedau. Penodwyd nifer o swyddogion heddlu sy’n gallu siarad Cymraeg yn ne Gwynedd yn ddiweddar.
Rwyf hefyd wedi pwysleisio yn ddiweddar bwysigrwydd sicrhau bod gweithrediadau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol mewnol Heddlu Gogledd Cymru yn cydnabod yn llawn ac yn ystyried bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil, ochr yn ochr â’r sgiliau angenrheidiol eraill.
Rwy’n cwrdd yn rheolaidd ag uwch aelodau o staff o Heddlu Gogledd Cymru i drafod sut mae’r Heddlu’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac mae fy Nirprwy a minnau yn holi staff yn aml pan fyddwn allan o’r swyddfa a oes cyfleoedd yn bodoli iddynt ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gweithle ai peidio.
Rwy’n sicr bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud llawer o bethau dros y blynyddoedd i sicrhau eu bod yn parhau i wella eu darpariaeth o wasanaethau yn Gymraeg ac i wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn fwy gweladwy ac amlwg yn y gweithle.
Mae hyn yn cynnwys rhaglen hyfforddiant sylweddol i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu darparu cwrteisi ieithyddol i’w gilydd yn ogystal ag i’r cyhoedd; cyrsiau pellach i gynorthwyo staff i symud tuag at ruglder; mentrau sy’n cynnwys sesiynau “Paned a Sgwrs” a Chlwb Cerdded y Gymraeg; yn ogystal â sicrhau bod pob arwydd a neges allweddol yn ddwyieithog a bod y staff yn arddangos eu lefel o allu yn y Gymraeg y tu allan i’w gorsafoedd, swyddfeydd ac ar lofnodion e-bost.
Cynhaliwyd seminar yn ddiweddar hefyd ar gyfer Hyrwyddwyr y Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ail-sefydlu’r rhwydwaith hwnnw.
Wrth gwrs, mae’n bosibl y bydd achlysuron pan na fydd Heddlu Gogledd Cymru yn gwneud popeth yn iawn fel sefydliad, ond rwy’n credu bod Prif Swyddogion yr Heddlu bob amser yn ymdrechu i wneud hynny, a dysgu o unrhyw gamgymeriadau os na fydd pethau’n cael eu gwneud yn iawn.
Anfonodd y Dirprwy Brif Gwnstabl neges e-bost yn ddiweddar at bob aelod o staff er mwyn pwysleisio bod croeso i unrhyw aelod o staff ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o brosesau dyrchafu/dethol sy’n cael eu cynnal gan Heddlu Gogledd Cymru.
Ni ddylai’r Gymraeg fod yn rhwystr i wneud cynnydd yn yr Heddlu. Mae’r Fframwaith Hyrwyddo’r Heddlu Cenedlaethol wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg a byddwn yn annog unrhyw un i ymgysylltu â’r broses hon drwy gyfrwng y Gymraeg os byddant yn dymuno gwneud hynny.
Byddwn hefyd yn annog swyddogion a staff i ymgysylltu mewn unrhyw broses ddethol yn y sefydliad yn Gymraeg os mai dyna maent yn dymuno ei wneud. Yn amlwg, mae’r dewisiadau ymysg siaradwyr Cymraeg yn amrywio rhwng Cymraeg ysgrifenedig a llafar ac mae unrhyw gyfuniad yn dderbyniol ac yn cael ei groesawu.
Rwy’n ymwybodol iawn bod y Prif Swyddogion yn awyddus i barhau i ddatblygu’r cynnydd da a wnaed eisoes, ac felly, byddwn yn cymell siaradwyr Cymraeg rhugl yn y sefydliad i annog a chefnogi dysgwyr er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus yn y gweithle a bod ganddynt y rhyddid i fynegi eu hunain yn yr iaith o’u dewis hwy.
Hefyd, mae’n bwysig bod unrhyw aelod o staff yn hysbysu Adran Iaith Gymraeg yr heddlu neu’r Prif Swyddogion os ydynt wedi profi unrhyw broblemau wrth ymwneud â’r Heddlu yn Gymraeg, os ydynt o’r farn nad ydynt yn cael eu cefnogi’n ddigonol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud camau sylweddol iawn dros nifer o flynyddoedd mewn cysylltiad â’r Gymraeg ac maent yn cael eu hystyried yn Heddlu sy’n rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i’r Gymraeg a’u bod yn awyddus iawn i sicrhau amgylchedd dwyieithog. Mae’r sefydliad yn parhau i gynnig gwasanaethau rhagorol yn y Gymraeg ac yn Saesneg."